Skip to main content

Gweithdy Diogelu ac Amddiffyn Plant

  1. Hafan
  2. Gweithdy Diogelu ac Amddiffyn Plant

Gall Chwaraeon Cymru gynnig Gweithdai Diogelu ac Amddiffyn Plant UK Coaching ar-lein ac wyneb yn wyneb i glybiau, cyrff rheoli a sefydliadau eraill i ddatblygu eu hyfforddwyr a’u gweithlu gwirfoddol.

Mae’r dudalen hon yn rhoi manylion am yr hyn y mae’r cwrs yn ei gynnwys a gwybodaeth ddefnyddiol am sut gall clybiau a sefydliadau archebu eu Cyrsiau Diogelu eu hunain. Bydd achlysuron drwy gydol y flwyddyn pan fydd hyfforddwyr yn gallu archebu llefydd unigol ar gyrsiau, a bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn nes at yr amser.

Gweithdy Diogelu ac Amddiffyn Plant

Bydd y gweithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb/ar-lein hwn yn eich helpu i adnabod ac ymateb i bryderon y gall plentyn fod yn eu profi, neu fod mewn perygl o’u profi, niwed, esgeulustod neu gam-drin.

Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a mabwysiadu dull unigol o weithredu gyda’ch ymarfer hyfforddi, sy'n rhoi'r plentyn neu'r person ifanc wrth galon pob sesiwn.

Mae UK Coaching yn gweithio mewn partneriaeth â'r NSPCC a CPSU i adolygu a datblygu cynnwys a deunyddiau'r cwrs yn rheolaidd i sicrhau bod y cynnwys dysgu, yr arweiniad a'r cyflwyno yn gyfredol.

  • Wedi'i ddiweddaru ym mis Ebrill 2022, bydd y cyfarwyddyd a'r senarios a ddarperir yn eich annog i adlewyrchu ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn blentyn heddiw, ac ystyried yr effaith a'r goblygiadau ar eich ymarfer hyfforddi.
  • Byddwch yn dysgu technegau i’ch helpu i ddatblygu athroniaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at sicrhau arfer diogel a chreu amgylchedd diogel sy’n diwallu anghenion ac yn diogelu lles pob plentyn.

Drwy senarios rhyngweithiol a thrafodaethau gyda phobl o wahanol chwaraeon a gweithgareddau, byddwch yn cael y cyfle i edrych ar ganlyniadau’r penderfyniadau hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol, gan helpu i gynyddu eich hyder i ymdrin â materion diogelu yn effeithiol a gweithio yn erbyn y bygythiadau diweddaraf sy’n dod i’r amlwg a allai effeithio ar iechyd corfforol neu feddyliol plant ym Mhrydain fodern.

Rhaid i unrhyw un dan 18 oed sy'n mynychu Cwrs Diogelu ac Amddiffyn Plant fod yng nghwmni oedolyn.

Os oes gennych chi grŵp o arweinwyr ifanc rhwng 16 a 18 oed, gellir trefnu cwrs cyfan heb fod angen oedolyn gyda phob dysgwr.

Mae’r cwrs wedi derbyn 2 bwynt DPP gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA).

Byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

  • adnabod a chydnabod arfer hyfforddi da a'r goblygiadau i'ch hyfforddiant
  • gloywi eich gwybodaeth am gydnabod materion diogelu, beth i'w wneud, ac yr un mor bwysig, beth i beidio â'i wneud
  • astudio eich gwerthoedd a'ch teimladau mewn perthynas â cham-drin plant, a chydnabod eu heffaith bosibl ar eich ymateb
  • cymryd camau priodol os bydd pryderon am blentyn yn codi
  • dysgu oddi wrth a holi ein tiwtoriaid arbenigol, gyda phob un ohonynt wedi byw profiad Diogelu – fel swyddogion lles clwb, athrawon ysgol, neu swyddogion heddlu.
Teitl OLCHydIsafswm y DysgwyrUchafswm y Dysgwyr Pris (yn cynnwys adnoddau digidol i bob dysgwr)Pecyn Dosbarth Ar-lein ac Wyneb yn Wyneb 

Diogelu ac Amddiffyn Plant (SPC)

AR-LEIN

 

2.5 Awr

 

4

 

12

 

£202.50

 

£280 (gyda 12 adnodd)

Diogelu ac Amddiffyn Plant (SPC)

WYNEB YN WYNEB

3 Awr

 

4

 

20

 

£260

 

£360 (gydag 20 adnodd)

 

Diogelu ac Amddiffyn Plant (SPC)

16-18 Oed 

AR-LEIN 

2.5 Awr412£202.50£280 (gyda 12 adnodd)

Diogelu ac Amddiffyn Plant (SPC)

16-18 Oed WYNEB YN WYNEB 

 

3 Awr420£260£360 (gydag 20 adnodd)

I archebu eich gweithdy pwrpasol eich hun: 

1. Dewiswch ddyddiad a lleoliad rydych yn eu ffafrio 

2. Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen archebu ar-lein neu wyneb yn wyneb

3. Sicrhewch bod pob lleoliad wedi cael asesiad risg fel eu bod yn unol â’r canllawiau cyfredol

4. Bydd Chwaraeon Cymru yn neilltuo tiwtor ac yn anfon cadarnhad o’r archeb

5. Bydd Chwaraeon Cymru yn cysylltu â’r trefnydd cyn y gweithdy i wirio’r anghenion o ran adnoddau a bydd yn anfon tystysgrifau ymlaen llaw.

6. Ar ôl cwblhau’r gweithdy, bydd tystysgrifau digidol yn cael eu rhoi a bydd y tiwtor yn anfon y gofrestr a’r ffurflenni gwerthuso yn ôl i Chwaraeon Cymru.

 

Ffurflen Archebu Ar-lein 

Ffurflen Archebu Wyneb yn Wyneb

 

I archebu gweithdai, anfonwch y ffurflenni archebu i: communitysport.courses@sport.wales