Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon
Cenedl actif lle mae pawb yn gallu mwynhau chwaraeon gydol eu hoes.
Nod y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yw trawsnewid Cymru’n genedl actif yn dilyn sgyrsiau ag unigolion ledled y wlad.
Dewch i wybod am y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a sut bydd yn gallu cyfrannu at ddyfodol Cymru.
Beth yw'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon?
Cenedl actif lle mae pawb yn gallu mwynhau chwaraeon gydol eu hoes.

Cenedl Actif
Y weledigaeth yw creu cenedl actif. Rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli cynifer o bobl â phosib i fod yn actif drwy chwaraeon.

Pawb
Mae’n weledigaeth i bawb. O’r bobl sydd ddim yn ystyried eu hunain yn hoff o chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau, a hynny ym mhob cymuned yng Nghymru.

Gydol oes
Does gan y weledigaeth ddim dyddiad dod i ben. Mae’n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd.

Mwynhad
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu amrywiaeth eang o brofiadau cadarnhaol er mwyn i bawb allu mwynhau chwaraeon.
Beth yw'r genhadaeth?
Bydd gwneud hyn yn datgloi buddion chwaraeon i bawb.
Y 7 Nod Llesiant
#1
Cymru Lewyrchus
Nod Llesiant
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.
Sut gall chwaraeon helpu
- Mae’r budd unigryw mae chwaraeon yn gallu ei greu i Gymru yn cael ei sicrhau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o ganlyniad i bartneriaethau cydweithredol.
- Mae’r sector chwaraeon yn gynaliadwy yn ariannol ac mae pawb yn helpu ei gilydd i gyrraedd sero net.
- Mae cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli ar gael drwy chwaraeon a hamdden actif.
- Mae cyfleoedd addysg a datblygu sgiliau ar gael drwy chwaraeon a hamdden actif.
- Mae cyflogwyr yn y sector chwaraeon yn gyfrifol ar lefel gymdeithasol, foesegol ac amgylcheddol.
- Mae’r llywodraeth yn dangos pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol drwy ystyried budd chwaraeon i’r economi wrth ddrafftio cyllidebau.
#3
Cymru sy’n Fwy Cyfartal
Nod Llesiant
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Sut gall chwaraeon helpu
- Mae pawb yng Nghymru yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Lle bo rhwystrau, mae cymorth ar gael i’r sector chwaraeon gael gwared arnynt.
- Mae’r sector chwaraeon yn deall profiadau bywyd ac anghenion presennol pob dinesydd.
- Mae sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i greu llwybrau i chwaraeon ar draws sectorau.
- Mae camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i gefnogi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ac i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
- Mae Llywodraeth Cymru a’r sector chwaraeon yn cael eu harwain gan ddealltwriaeth ac mae cyfleoedd sy’n canolbwyntio ar y person yn cael eu creu drwy ddefnyddio data a dealltwriaeth.
- Mae’r holl gyfleoedd chwaraeon ar gyfer plant yn ddiogel, yn bodloni eu hanghenion unigol ac yn cael eu harwain gan eu lleisiau, a does dim rhwystrau i gymryd rhan.
- Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n helpu ac yn grymuso pawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
- Mae cyfleoedd digidol sy’n lleihau’r rhwystrau i chwaraeon yn cael eu deall a’u defnyddio i gynyddu cyfranogiad.
#4
Cymru Iachach
Nod Llesiant
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle caiff dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol eu deall.
Sut gall chwaraeon helpu
- Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu hyrwyddo fel ‘adnodd iechyd ataliol gorau’r wlad’, ac mae eu buddion ataliol o ran iechyd yn cael eu cydnabod hefyd.
- Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu hystyried yn rhan hanfodol o iechyd meddwl, corfforol a chymdeithasol person.
- Mae lleoliadau addysg a chanolfannau cymunedol yn rhannu asedau ar gyfer gweithgarwch chwaraeon – gan greu buddion iechyd i’r gymuned leol.
- Mae gweithgarwch corfforol yn cael ei ddarparu’n hyderus i bob disgybl drwy’r Cwricwlwm i Gymru.
#5
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Nod Llesiant
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Sut gall chwaraeon helpu
- Mae chwaraeon yn cael ei ddefnyddio fel dull o wella diogelwch cymunedol ac o leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Mae sefydliadau’n rhannu adnoddau i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gydol oes sy’n cael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl.
- Mae cyfleoedd lleol i wirfoddoli a datblygu sgiliau drwy chwaraeon.
- Mae Partneriaethau Chwaraeon ar hyd a lled Cymru sy’n cael eu rhedeg yn effeithiol ac sy’n cydweithredu â sefydliadau sydd eisoes yn bodoli yn eu rhanbarth.
- Mae cymunedau’n gallu manteisio ar gyfleoedd chwaraeon hygyrch drwy ffynonellau lleol, dibynadwy, ac mae llawn botensial ysgolion a cholegau Cymru yn cael ei gyflawni.
- Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu hystyried yn adnodd cadarnhaol sy’n hybu amrywiaeth, cynhwysiant a chydlyniant cymunedol.
- Mae cynllun strategol i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
#6
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
Nod Llesiant
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Sut gall chwaraeon helpu
- Mae dwyieithrwydd yn cael ei hybu drwy chwaraeon.
- Mae digwyddiadau chwaraeon gweladwy a hygyrch.
- Mae Cymru’n cael ei hyrwyddo fel cyrchfan chwaraeon o ddewis drwy amgylcheddau naturiol eithriadol Cymru a’i chyfleusterau, sydd gyda’r gorau yn y byd.
- Mae modelau rôl chwaraeon amlwg mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
- Mae Cymru, ei llwyddiannau chwaraeon a’i hethos yn dra adnabyddus yn rhyngwladol.
- Mae hyfforddwyr yn cael eu grymuso i gefnogi cyfranogwyr ac i hybu amrywiaeth o gyfleoedd, gan osgoi arbenigaeth gynnar.
- Mae’r sector chwaraeon yn cael cymorth digonol i ddarparu llwybrau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar athletwyr.
#7
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang
Nod Llesiant
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Sut gall chwaraeon helpu
- Mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn gynaliadwy ac yn gyfrifol.
- Mae prosesau caffael ar draws y sector chwaraeon yn gyfrifol ar lefel gymdeithasol, foesegol ac amgylcheddol.
- Mae technolegau carbon isel yn cael eu defnyddio ac mae technolegau arloesol yn dod i’r amlwg.
- Mae cynaliadwyedd mewn chwaraeon yn cael ei gydnabod a’i hyrwyddo er budd yr ymdrechion mewn cysylltiad â’r niwed yn yr hinsawdd, gan hybu ymddygiadau cynaliadwy ar draws y sector.

Drwy weithredu yn y ffordd iawn heddiw, fory ac yn y dyfodol, gallwn wella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru.
Tymor hir
- Cydbwyso anghenion tymor byr a thymor hir, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yn weledigaeth hirdymor a bydd yn galluogi rhanddeiliaid i gynllunio ar gyfer y tymor hir.
- Datblygu cyfleoedd sy’n ymateb i anghenion pobl mewn cymdeithas sy’n newid.
Atal
- Neilltuo adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu.
- Creu cyfleoedd lleol i bawb ymuno.
- Gwella llesiant, hunanhyder a chymhelliant pobl drwy weithgareddau hwyliog a chynaliadwy.
- Gwneud yn siŵr bod chwaraeon yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, gan adael neb ar ôl.
- Bod yn arloesol ac yn feiddgar, a chymryd risgiau.
- Cyflenwi pobl â’r sgiliau i gyflawni eu potensial.
- Cydweithio, rhannu adnoddau a chwarae ein rhan.
Integreiddio
Ystyried yr effaith ar yr holl nodau llesiant gyda’i gilydd ac ar gyrff eraill.
- Mae’r Weledigaeth yn uno pobl sy’n gwneud penderfyniadau a sefydliadau drwy ei huchelgeisiau.
- Drwy gydweithio gallwn ddatgloi buddion chwaraeon i bawb.
- Dylai rhanddeiliaid a darparwyr ystyried cysondeb ag amcanion a chynlluniau cyflawni lleol cyrff sector cyhoeddus.
- I gyd-fynd â’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae’r Weledigaeth yn cyflymu camau gweithredu i gael gwared ar bob math o anghydraddoldeb ac yn gwneud yn siŵr bod chwaraeon yn hygyrch, gan adael neb ar ôl.
- Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg a dylid ei hystyried er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon gydol eu hoes.
Cydweithio
Cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni amcanion.
- Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yn perthyn i bawb yng Nghymru ac mae angen cefnogaeth pawb yng Nghymru arni i lwyddo, gan gynnwys pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a phobl eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, rheoli adnoddau naturiol a datblygu economaidd.
- Gweithio, buddsoddi, dysgu a llwyddo gyda’n gilydd.
Cynnwys
Cynnwys pobl sydd â diddordeb a holi eu barn.
- Mae’n Weledigaeth i bawb. O’r bobl sydd ddim yn ystyried eu hunain yn hoff o chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.
- Mae’n hybu cydweithredu, cydweithio a chydgynhyrchu i wneud yn siŵr bod cyfleoedd yn cael eu dylunio mewn ffordd sy’n annog pawb ym mhob cymuned i gymryd rhan gydol eu hoes.
Chi a’r Weledigaeth
Mae mwy nag un ffordd o fod yn rhan o’r Weledigaeth.

Cymryd rhan
Bod yn gyfranogwr
Unrhyw un sy’n cymryd rhan ar unrhyw lefel.

Cefnogi
Bod yn gefnogwr neu’n rhiant
Unrhyw un sy’n helpu drwy fod yno, yn rhoi eu hamser, eu hegni a’u hymdrech.

Darparu
Bod yn wirfoddolwr neu’n hyfforddwr
Unrhyw un sy’n helpu drwy greu cyfleoedd i bobl eraill.

Llwyddo
Bod y gorau gallwch chi fod
Unrhyw un sy’n llwyddo’n bersonol.

Cyflawni’r Weledigaeth
Bydd cyflawni hyn yn golygu ein bod yn gallu gwneud y canlynol…
- Gwella llesiant, hunanhyder a chymhelliant pobl i gymryd rhan a llwyddo drwy weithgareddau hwyliog a chynaliadwy.
- Cyflenwi pobl â’r sgiliau i gyflawni eu potensial a’u nodau.
- Helpu cymunedau i ffynnu ac i fod wedi’u cysylltu’n well drwy greu cyfleoedd i bawb ymuno.
- Hyrwyddo Cymru i weddill y byd drwy ein rhagoriaeth ym maes chwaraeon.
Byddwn yn gweithio yn y ffordd orau bosib i wneud y canlynol…
- Gweithio, buddsoddi, dysgu a llwyddo gyda’n gilydd.
- Creu profiadau croesawgar, hwyliog a diogel.
- Creu cyfleoedd lleol a gweladwy sy’n ysbrydoli pobl.
- Gwneud yn siŵr bod chwaraeon yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn fforddiadwy, gan adael neb ar ôl.
Cenedl Actif
Rydyn ni am i bawb yng Nghymru gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.
Mae gweithgarwch corfforol yn cynnwys ystod eang o weithgarwch wedi’i gynllunio a gweithgarwch arferol. Mae enghreifftiau isod.
Mae’r Weledigaeth yn cydnabod y cyfraniad mae gweithgarwch arferol yn ei wneud o ran helpu pobl yng Nghymru i fod yn actif yn eu bywyd o ddydd i ddydd, ond mae’n canolbwyntio ar weithgarwch wedi’i gynllunio. Drwy’r gweithgarwch hwn gallwn ni wreiddio buddion chwaraeon ym mywydau pobl.
#1
Gweithgarwch wedi’i Gynllunio
Chwaraeon
- Strwythuredig
- Chwaraeon Cystadleuol
- Chwaraeon Anffurfiol
- Ymarfer Corff a Hyfforddiant Ffitrwydd
- Gweithgarwch Personol
Hamdden
- Cerdded
- Gweithgarwch Awyr Agored
- Rhedeg
- Nofio
- Chwarae Strwythuredig
- Dawnsio
#2
Gweithgarwch Arferol
Teithio Actif
- Cymudo Actif
- Teithio’n Actif i’r Ysgol
- Teithiau Pwrpasol
- Cerdded a Beicio
Gweithgarwch Achlysurol
- Gwaith tŷ
- Garddio a DIY
- Chwarae Anffurfiol
- Proffesiynau Actif
- Arferion Gweithio Actif

Gyda’n gilydd, gallwn ni
Mae’r Weledigaeth hon ar gyfer Chwaraeon yn perthyn i bawb yng Nghymru ac mae angen cefnogaeth pawb yng Nghymru arni i lwyddo – gan gynnwys pobl sy’n cymryd rhan uniongyrchol mewn chwaraeon a phobl eraill sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg, adnoddau naturiol a datblygu economaidd.
Os ydych chi’n gwneud gwaith yn y gymuned, yn magu teulu neu’n rhedeg busnes – gallwn ni gyd rannu’r weledigaeth hon a chwarae ein rhan.
Drwy ddod ynghyd, bydd pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu datgloi buddion chwaraeon i bawb.