Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Y Weledigaeth a'n Strategaeth

Y Weledigaeth a'n Strategaeth

Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a Strategaeth Chwaraeon Cymru yn mynd law yn llaw.

 

Yng Nghymru, mae gennym ni Weledigaeth glir i greu cenedl actif lle gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon. Crëwyd y Weledigaeth hon gan ac ar gyfer pobl Cymru, gan arwain pawb sy’n gweithio, yn gwirfoddoli, yn cefnogi neu’n llywodraethu chwaraeon yma.

Nid yw'n eiddo i un sefydliad. Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yn gosod uchelgais i bawb. Mae’n gofyn i chwaraeon ymuno ag ardaloedd eraill, oherwydd mae gwobrau cenedl weithgar i’w gweld mewn sawl ffurf wahanol, gan gyffwrdd â phob cymuned yng Nghymru.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu strategaeth sy’n dangos sut byddwn yn cefnogi’r Weledigaeth.

Yn Chwaraeon Cymru, rydym yn gwybod bod angen newidiadau mawr i wneud Cymru yn lle i bawb fod yn actif am oes. Mae ein strategaeth, sy'n cael ei chefnogi gan ein cynllun busnes, yn arwain sut rydym yn bwriadu chwarae ein rhan wrth gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i wireddu'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon.

Y Weledigaeth a'r Strategaeth ar waith (5m 13s)

Mae bachgen sy'n chwarae criced bwrdd yn gwenu wrth iddo ddal bat criced bach

Mae Chwaraeon Cymru yn sefydliad sy'n cael cyllid cyhoeddus ac felly mae ganddo nifer o ddyletswyddau craidd y mae’n rhaid iddo adrodd arnynt. Dyma'r dyletswyddau cyhoeddus hyn.