Mwy am ein proses recriwtio
Ein Strategaeth
Rydym eisiau cael effaith sylweddol ledled Cymru. Mae strategaeth Chwaraeon Cymru yn nodi sut bydd Chwaraeon Cymru yn chwarae ei ran i wireddu'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Rydym eisiau i bawb fwynhau manteision chwaraeon a’n gweledigaeth ni yw Cymru actif ac iach – dim ots ble rydych chi’n byw. Rydym hefyd eisiau gweld ein hathletwyr yn cyrraedd eu llawn botensial.
Gallwch weld ein strategaeth ni yma.
Manteision Chwaraeon Cymru
Mae gennym uchelgeisiau beiddgar ar gyfer chwaraeon yng Nghymru ac rydym yn gwybod y bydd ein pobl yn allweddol i’w cyflawni. Dyma pam rydym yn darparu pecyn buddion amrywiol. Rydym yn gefnogwyr mawr i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig ystod o ddulliau gweithio hyblyg.
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol
- Opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol y flwyddyn
- Cyfleoedd gweithio hyblyg, gan gynnwys oriau hyblyg (lle bo hynny'n berthnasol)
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Scottish Widows
- Defnyddio campfa ar y safle yn y Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Cwnsela).
- Aelodaeth Clwb Chwaraeon a Hamdden y Gwasanaeth Sifil
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Maes parcio a sied feiciau am ddim
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein polisi tâl a buddion eraill yn ein llawlyfr staff. Mae ein buddion i graddfeydd cyflog ar gael i’w gweld yma.
Hyfforddiant a Datblygiad
Mae Chwaraeon Cymru yn gryf o blaid dysgu a gwelliant parhaus. Ar eich diwrnod cyntaf un o waith, byddwch yn cychwyn ar raglen sefydlu wedi'i theilwra ac yn cael cynnig yr holl hyfforddiant hanfodol i'ch rhoi chi ar ben ffordd. Mae ymuno â Chwaraeon Cymru yn golygu ymuno â diwylliant o ddysgu a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant swydd-benodol, gweithdai amser cinio, hyfforddi a mentora, gwella sgiliau Cymraeg a chyfleoedd astudio hirdymor i gyd yn rhan o fod yn aelod o’n tîm ni.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Er mwyn galluogi Chwaraeon yng Nghymru i ffynnu, mae’n hanfodol bod ein gweithlu’n cynrychioli’r boblogaeth ehangach yn llawn.
Un flaenoriaeth strategol allweddol yw arallgyfeirio ein gweithlu ymhellach. Mae pawb yn Chwaraeon Cymru yn cyfrannu rhywbeth gwahanol, a byddwch chi yn gwneud hynny hefyd. Mae ein hymrwymiad i recriwtio a denu talent amrywiol yn ymestyn i annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, LGBTQ+ a phobl anabl. Rydym yn mabwysiadu arferion recriwtio cynhwysol gan gynnwys llunio rhestr fer o ymgeiswyr heb edrych ar enwau.
Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd sy’n tanysgrifio i’r cynllun gwarantu cyfweliad, yn ogystal â gwneud addasiadau yn ôl yr angen trwy ein proses i sicrhau bod pawb ar eu gorau.
Rydym hefyd yn cydnabod bod y “bwlch hyder ” yn gallu cael effaith niweidiol ar amrywiaeth yr ymgeiswyr y byddwn yn clywed ganddynt. Mae ymchwil yn dangos bod dynion yn aml yn gwneud cais am swyddi hyd yn oed pan fyddant ond yn bodloni 60% o'r meini prawf a restrir, tra bod merched yn tueddu i wneud cais dim ond pan fyddant yn bodloni'r holl feini prawf sydd wedi’u nodi. Cafwyd canlyniadau tebyg mewn astudiaethau yn ymwneud â grwpiau eraill ar y cyrion. O’r herwydd, os ydych chi’n credu y gallech fod yn addas ar gyfer un o’n swyddi ni, hyd yn oed os nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob un pwynt yn y disgrifiad swydd, peidiwch ag oedi – cyflwynwch gais!
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant a’n hamcanion.
Ymddygiadau
Yn Chwaraeon Cymru mae ein hymddygiad yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn gweithio – mae’r ffordd rydym yn cyflawni yr un mor bwysig â’r hyn rydym yn ei gyflawni. Mae gennym gyfres wedi’i chytuno o ymddygiadau yr ydym yn disgwyl eu gweld yn cael eu harddangos gan gyflogeion. Mae'r canllaw isod yn rhoi enghreifftiau o sut gellid dangos yr ymddygiadau hyn.