Am y swydd wag hon
ADRAN A CHYFLOG
Adran – System Chwaraeon – Gwasanaethau’r Athrofa
Cyflog – £49,734.98 - £53,277.34 (Graddfa 9)
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
Lleoliad – Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd
Math o gontract – Contract Tymor Penodol (12 mis)
PWY YDYM NI
Pwrpas tîm Gwasanaethau Athrofa’r System Chwaraeon yw ‘Creu’r system chwaraeon fwyaf gwybodus yn y byd am wyddoniaeth, gan alluogi pob athletwr yng Nghymru i ffynnu a gwneud ‘ennill yn dda’ yn fwy tebygol.’
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref.
Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.
SUT BYDDWCH YN CYFRANNU
Ydych chi'n angerddol am siapio diwylliant tîm, gwella perfformiad, a sbarduno rhagoriaeth mewn darpariaeth gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon? Ymunwch â'n tîm ac arwain y ffordd wrth drawsnewid gwasanaethau sy'n cefnogi athletwyr, hyfforddwyr ac ymarferyddion ledled Cymru.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol ac sydd wedi ymrwymo i ddatblygu pobl a darparu rhaglenni, adnoddau a phrofiadau dysgu effeithiol ar gyfer ein tîm ni a chwaraeon yng Nghymru.
Byddwch yn arwain ar ddatblygiad a diwylliant tîm, rhaglenni dysgu a arweinir gan wybodaeth yn ogystal â phartneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol mewn cyfathrebu i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gydnabod yn fyd-eang.
Byddwch hefyd yn arwain gwaith cwmpasu, cynllunio a gweithredu posibl dau brosiect allweddol a fydd yn creu cyfleoedd newydd i'r Athrofa ehangu ei heffaith a'i chyrhaeddiad.
Os ydych chi'n barod i gael effaith ystyrlon a sbarduno newid cadarnhaol yn y byd chwaraeon yng Nghymru, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
GYDA PHWY FYDDWCH CHI'N GWEITHIO
Bydd angen i chi ddatblygu perthnasoedd cadarn gydag arweinwyr Perfformiad a Llwybr Cyrff Rheoli Cenedlaethol a staff eraill yn y byd chwaraeon, aelodau o dîm gwasanaethau athrofa’r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach Chwaraeon Cymru i gefnogi ein tîm o ymarferyddion i nodi, cyd-greu a chyflwyno prosiectau sy’n cael effaith ledled Cymru. Bydd angen i chi gydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys staff ar draws system chwaraeon perfformiad y DU, y Cynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Talentog (TASS), Prifysgolion a chyrff aelodaeth proffesiynol.
BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN
Arweinydd clir gyda phrofiad mewn datblygu tîm a meithrin diwylliant cadarnhaol.
Dealltwriaeth gref o berfformiad a chefnogi llwybr yn y diwydiant chwaraeon.
Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthynas rhagorol, gyda phrofiad o reoli partneriaethau.
Meddwl strategol cadarn ac yn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gyda phrofiad mewn strategaeth ddigidol, brandio a datblygu cynnwys.
Meddylfryd cydweithredol gyda'r gallu i weithio'n effeithiol ar draws adrannau a phartneriaid allanol.
Y gallu i reoli cyllidebau, monitro cydymffurfiaeth, a goruchwylio materion sy'n ymwneud ag AD.
Angerdd dros sicrhau safonau uchel o ymarfer ar draws holl feysydd gwaith yr Athrofa.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.
Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth i wneud cais am y rôl yma, anfonwch e-bost i [javascript protected email address]
DYDDIAD CAU
12/03/2025 9AM
DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD
20/03/2025
YN ATEBOL I
Pennaeth Gwasanaethau a Data yr Athrofa
YN GYFRIFOL AM
Arweinwyr thema'r Athrofa: Arweinydd Iechyd a Lles Athletwyr, Arweinydd Amgylcheddau Athletwyr ac Arweinydd Datblygiad Athletig
GWASANAETHAU ATHROFA'R SYSTEM CHWARAEON
Mae Gwasanaethau Athrofa’r System Chwaraeon yn bodoli i adeiladu system chwaraeon sy'n seiliedig ar wyddoniaeth sy'n helpu pob athletwr yng Nghymru i ffynnu ac sy'n gwneud 'ennill yn dda' yn fwy tebygol. Rydym yn dîm o ymarferyddion gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon a gefnogir gan gynorthwywyr ymchwil o Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS). Mae ein gwaith gorau’n digwydd pan fyddwn yn cydweithredu ar heriau perfformiad a nodir gan chwaraeon. Drwy fynd i’r afael â heriau system gyfan, rydym yn gwella amgylcheddau hyfforddi ledled Cymru, gan greu effaith barhaus i fwy o athletwyr a chwaraeon. Rydym yn pontio’r bwlch rhwng arfer gorau a defnydd yn y byd real, gan roi’r wybodaeth, yr adnoddau a’r gefnogaeth i athletwyr a hyfforddwyr i berfformio ar eu gorau. Rydym yn dysgu, yn cyflawni ac yn dathlu gyda'n gilydd - oherwydd rydym ar ein cryfaf pan rydym yn gweithio fel un tîm gyda chwaraeon.
PWRPAS Y SWYDD
Mae’r rôl hon yn gyfrifol am ddenu, recriwtio a datblygu’r bobl orau ar gyfer Tîm Athrofa Chwaraeon Cymru.
Gan weithio ochr yn ochr ag Arweinydd Cyflawni’r Athrofa, byddwch yn helpu i greu tîm amlddisgyblaethol, integredig sy’n darparu gwasanaethau gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon effaith uchel i athletwyr, hyfforddwyr, chwaraeon a phartneriaid y system.
Fel arweinydd allweddol yn Nhîm yr Athrofa, byddwch yn rheoli, yn datblygu ac yn cymell Arweinwyr Thema’r Athrofa, gan sicrhau eu bod yn grymuso ymarferyddion i sbarduno system chwaraeon sy’n seiliedig ar wyddoniaeth sy’n galluogi holl athletwyr Cymru i ffynnu ac sy’n gwneud ‘ennill yn dda’ yn fwy tebygol.
Byddwch hefyd yn chwarae rhan ragweithiol yn natblygiad pobl ar draws Chwaraeon Cymru, gan sicrhau bod rhaglenni datblygu staff a phartneriaid yn cyd-fynd â strategaeth datblygu pobl yr Athrofa ac yn cyfrannu ati.
Yn ogystal â'r prif ddyletswyddau, byddwch yn arwain gwaith cwmpasu, cynllunio a gweithredu posibl dau brosiect allweddol a fydd yn creu cyfleoedd newydd i'r Athrofa ehangu ei heffaith a'i chyrhaeddiad.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Sbarduno newid diwylliannol drwy ddod â phwrpas a hunaniaeth yr Athrofa yn fyw. Cefnogi arweinwyr thema i sicrhau bod gwasanaethau'n cyd-fynd â'r uchelgais hwn ac yn cyflawni effaith prosiect ystyrlon.
Cydlynu gweithgareddau datblygu tîm fel cyfarfodydd misol, menter ‘Sgwrs Gyda…’, a dyddiau cwrdd i ffwrdd ar draws yr adran i gryfhau’r diwylliant tîm.
Datblygu adnoddau ac arwain mentrau i wella cydlyniant, dealltwriaeth a pherfformiad tîm, gan gynnwys e-gylchlythyr i ymarferyddion bob pythefnos a chanllawiau Cymuned Ymarfer.
Arwain rhaglenni dysgu sy’n cael eu sbarduno gan wybodaeth, fel asesu ymlyniad at gylch oes prosiect yr Athrofa i nodi anghenion cefnogi rheoli prosiectau.
Darparu cyfeiriad strategol ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â llwybrau gyrfa gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon, lleoliadau myfyrwyr, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol mewn chwaraeon yng Nghymru.
Arwain partneriaethau allweddol gyda sefydliadau fel TASS, Leaders, BASES, a sefydliadau addysg uwch i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gydnabod yn fyd-eang, yn cael ei lywio gan y tueddiadau diweddaraf, ac yn cyd-fynd ag anghenion partneriaid.
Rheoli ac adrodd ar y gyllideb cefnogi staff, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n effeithiol.
Cyfrannu at weithgorau staff mewnol, gan gynnwys y cynllun busnes Diwylliant Sefydliadol Cynhwysol a grŵp Datblygu Pobl.
Goruchwylio cyfnod sefydlu a phontio staff y Sefydliad, gan sicrhau bod gan aelodau tîm newydd fynediad at adnoddau hanfodol, prosesau DPP, arferion diogelu, polisïau gwrth-gyffuriau, a gofynion cydnabod y loteri.
Gweithredu fel y prif gyswllt AD ar gyfer gwasanaethau'r Athrofa; yn ymdrin â cheisiadau am hyfforddiant, cydymffurfiaeth, arfarniadau, polisïau gweithio preifat, ac adborth o gyfweliadau gadael. Darparu trosolwg rhagarweiniol o wasanaethau’r Athrofa ar gyfer holl staff newydd Chwaraeon Cymru.
Sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol, ac Iechyd a Diogelwch.
Gweithio'n hyblyg, gan ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol yn ôl yr angen, sy'n berthnasol i'r swydd a'r raddfa.
PROSIECTAU ALLWEDDOL
Graddoli Dylanwad ac Effaith: Ymgynghori â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i nodi'r ffyrdd gorau i'r Athrofa ehangu ei chyrhaeddiad a sefydlu ei hun fel ffynhonnell wybodaeth annibynnol y gellir ymddiried ynddi.
Cynyddu Capasiti Ymarferyddion Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon: ehangu cyfranogiad myfyrwyr gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon prifysgol gan sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru’n gallu cefnogi Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol mewn cydweithrediad â phartneriaid prifysgol.
EIN GWERTHOEDD
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
MANYLEB Y PERSON
Maes Ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg
| Addysg i lefel gradd; neu
Gallu dangos profiad a gwybodaeth gyfatebol
| Gradd mewn gwyddoniaeth chwaraeon neu bwnc meddygaeth
Aelodaeth o gofrestr / corff rheoli proffesiynol perthnasol
Cymwysterau Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Hyfforddi
|
Profiad
| Profiad cynllunio gweithredol a strategol wrth ddatblygu syniadau ac atebion arloesol o fewn amgylchedd perfformiad uchel
Enw da am gyflawni perfformiad uchel drwy bennu a mesur amcanion mewn tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr
Profiad o arwain, rheoli a hwyluso rhaglenni gwaith timau o bobl i wneud cynnydd effeithiol yn erbyn amcanion a rennir
Profiad o ddeall a diwallu anghenion athletwyr a hyfforddwyr mewn amgylchedd perfformio
Profiad o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gwyddoniaeth chwaraeon mewn chwaraeon perfformiad
Profiad o ddatblygu staff ag arbenigeddau ymarferyddion
| Profiad o systemau ac amgylcheddau chwaraeon perfformiad uchel yng Nghymru a ledled y DU
Profiad o redeg rhaglenni arweinyddiaeth a datblygiad diwylliannol
|
Sgiliau, Doniau a Galluoedd
| Y gallu i drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol a chyflwyno hyn yn glir i staff, partneriaid ac uwch arweinwyr
Yn deall elfennau hanfodol timau sy'n perfformio'n dda ac yn gallu adeiladu'r rhain gan ddefnyddio sgiliau arwain effeithiol
Arwain, ysbrydoli ac ennill parch gan gydweithwyr a phartneriaid, drwy allu cadarn i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o fewn tîm cefnogi amlddisgyblaethol
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol a'r gallu i weithio'n effeithiol gydag ystod amrywiol o bartneriaid a meithrin cysylltiadau cadarn a chadarnhaol gyda'r grwpiau hyn
Neilltuo amser i eraill, gwrando a hyrwyddo rhannu gwybodaeth er mwyn llywio'r gwaith o gyflawni a datblygu strategaeth yn well
Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif
Y gallu i roi syniadau arloesol ar waith a dylanwadu ar raglenni cefnogi athletwyr a hyfforddwyr
Yn dal ei hun ac eraill yn atebol am safonau perfformiad i ddelio'n llwyddiannus ag ystod o sefyllfaoedd cymhleth yn aml; ceisio cymorth ac arweiniad gan eraill yn y sefydliad pan fo angen
Yn ystyried y defnydd gorau o gyllidebau a phobl yn erbyn blaenoriaethau strategol cystadleuol
Yn ymdopi'n effeithiol â chyflymder, rhwystrau a newidiadau i flaenoriaethau; yn addasu i sefyllfaoedd dan bwysau mawr ac yn gweithredu rheolaeth dda
| Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Gallu sefydlu prosiectau, yn seiliedig ar drosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol, gosod nodau, diffinio swyddogaethau ac olrhain cynnydd, adolygu, gwerthuso a gweithredu'r hyn a ddysgwyd i gael yr effaith fwyaf posibl
Arddull darbwyllol a dylanwadol i gyflawni cydweithredu, cysoni blaenoriaethau sy’n cystadlu a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yng Nghymru a thu hwnt.
|
Amgylchiadau Arbennig | Gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol
Gallu teithio yn ôl yr angen
Arddull egnïol, ysgogol a dymunol gyda hygrededd a phroffil i sicrhau hyder a pharch partneriaid o fewn amgylchedd chwaraeon perfformiad
|