Main Content CTA Title

Cynorthwy-ydd Cyfathrebu

Am y swydd wag hon

ADRAN A CHYFLOG 

Adran – Cyfathrebu a Digidol       

Cyflog - Graddfa 4: £26,582.64 - £29,307.36 

Oriau Gwaith – 37 awr yr wythnos (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg) 

Math o gontract – Contract Tymor Penodol (15 mis)  

PWY YDYM NI 

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi chi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref.  

Mae gyrfaoedd Chwaraeon Cymru yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Mwy o wybodaeth am berthynas Chwaraeon Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol.

SUT BYDDWCH CHI’N CYFRANNU 

Byddwch yn cefnogi cyflwyno pob agwedd ar waith cyfathrebu a digidol Chwaraeon Cymru, gan feithrin dealltwriaeth ragorol o’r amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud gan dîm cyfathrebu mewnol prysur a’n partneriaid. Byddwch yn awyddus i ddysgu ac ehangu eich profiad. 

Fel rhan o reoli enw da Chwaraeon Cymru yn gyffredinol, byddwch yn sicrhau bod pob cyfathrebu’n ymgorffori negeseuon allweddol y cytunwyd arnynt. Bydd gennych lygad da am stori a byddwch yn gallu defnyddio eich creadigrwydd i gyfrannu at ystod eang o weithgarwch cyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu testun deniadol ar gyfer ein e-gylchlythyrau mewnol ac allanol, defnyddio meddalwedd i greu a chyhoeddi e-gylchlythyrau, gweithio gydag asiantaethau i gynhyrchu cynnwys sy’n procio’r meddwl ar draws ystod o lwyfannau gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, a chefnogi gyda chyflwyno digwyddiadau ac ymgyrchoedd. 

GYDA PHWY FYDDWCH CHI'N GWEITHIO

Byddwch yn aelod pwysig o’r Tîm Cyfathrebu a Digidol a byddwch yn gweithio ar draws holl adrannau Chwaraeon Cymru yn ogystal â chefnogi gwaith ein partneriaid. 

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN 

Gyda rhywfaint o brofiad o weithio ym maes cyfathrebu, marchnata neu ddiwydiannau cysylltiedig, byddwch yn ceisio datblygu eich gyrfa a byddwch yn angerddol am y gwerth y gall gweithgarwch cyfathrebu ei sicrhau i sefydliad. Rydym yn chwilio am rywun gyda digon o syniadau a all ddarparu cefnogaeth ragorol i’n Tîm Cyfathrebu a Digidol. 

Bydd angen i chi fod yn barod ar gyfer yr her a ddaw yn sgil bod yn rhan o dîm mewnol bach ond prysur. Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad rhagorol mewn ystod eang o ddisgyblaethau cyfathrebu, cael mynediad at hyfforddiant gwych a chael cyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd a’ch sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yng Nghymru. 

BETH SY’N DIGWYDD NESAF  

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn (cofiwch nad ydym yn derbyn CV).

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr. 

Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, e-bostiwch [javascript protected email address] 

DYDDIAD CAU

03/02/2025 9AM 

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

18/02/2025 

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

YN ATEBOL I

Uwch Arweinydd Cyfathrebu


PWRPAS Y SWYDD

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan bwysig yn nhîm Cyfathrebu a Digidol Chwaraeon Cymru.

Gan weithio mewn tîm cyfathrebu amlddisgyblaethol, byddwch yn cefnogi cyflwyno pob agwedd ar waith cyfathrebu Chwaraeon Cymru, gan feithrin dealltwriaeth ragorol o’r amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud gan dîm cyfathrebu mewnol prysur yn ogystal â gwaith Chwaraeon Cymru a’n partneriaid. 

Bydd gennych lygad da am stori a byddwch yn gallu defnyddio eich creadigrwydd i gyfrannu at ystod eang o weithgarwch cyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu testun difyr ar gyfer ein e-gylchlythyrau mewnol ac allanol, defnyddio meddalwedd i greu a chyhoeddi e-gylchlythyrau, gweithio gydag asiantaethau i gynhyrchu cynnwys sy’n procio’r meddwl ar draws ystod o lwyfannau gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, a chefnogi gyda chyflwyno digwyddiadau ac ymgyrchoedd.

Fel rhan o reoli enw da Chwaraeon Cymru yn gyffredinol, byddwch yn sicrhau bod pob cyfathrebu’n ymgorffori negeseuon allweddol y cytunwyd arnynt a byddwch yn cefnogi monitro gweithgarwch cyfryngau.

Byddwch hefyd yn gallu darparu cymorth gweinyddol ar gyfer prosiectau allweddol ar draws pob maes o'r sefydliad.

Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch angerdd i gefnogi cydweithwyr i ddefnyddio gweithgareddau cyfathrebu i gyflawni amcanion sefydliadol. Lle bo hynny'n briodol, byddwch yn rhannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid i gefnogi eu dull o gyfathrebu. Byddwch hefyd yn ymgyfarwyddo â brand Chwaraeon Cymru er mwyn cynorthwyo gyda dylunio asedau i gefnogi cynlluniau cyfathrebu mewnol ac allanol.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Ymchwilio a drafftio copi ysgrifenedig i'w gymeradwyo gan y rheolwyr ar gyfer cylchlythyrau, gwefannau, cyflwyniadau a sianeli cyfathrebu eraill fel y bo'n briodol.

Gweithio ar draws y sefydliad i gasglu cynnwys ysgrifenedig a chynnwys wedi'i ffilmio ar gyfer dau e-gylchlythyr staff a bod yn gyfrifol am eu cynhyrchu.

Briffio cyflenwyr i gynhyrchu cynnwys fideo ac ysgrifenedig difyr i gefnogi negeseuon allweddol Chwaraeon Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol ar draws ystod o lwyfannau gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Cefnogi'r Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol i gyhoeddi cynnwys ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol, monitro ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y llwyfannau hyn i gefnogi amcanion sefydliadol.

Cefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth Chwaraeon Cymru drwy fynd ati'n rhagweithiol i gynnig syniadau i helpu i godi proffil Chwaraeon Cymru a gwaith ein partneriaid.

Cefnogi cyflwyno digwyddiadau gan gynnwys darparu cefnogaeth weinyddol.

Cefnogi'r gwaith o ymdrin ag ymholiadau gan y cyfryngau a drafftio datganiadau i'r cyfryngau.

Darparu cefnogaeth weinyddol gan gynnwys uwchlwytho cynnwys gwefan, diweddaru cronfeydd data, llyfrgelloedd delweddau, a gwneud nodiadau mewn cyfarfodydd.

Gwneud cysylltiadau â gweithwyr cyfathrebu proffesiynol ymhlith ein rhwydwaith o bartneriaid.

Cynorthwyo gyda chynhyrchu adroddiadau a deunydd corfforaethol arall.

Cysylltu ag asiantaethau dylunio ac argraffu allanol a phrawfddarllen.

Monitro a nodi materion sydd â'r potensial i achosi niwed sylweddol i enw da.

Gweithio ar draws y sefydliad i gefnogi datblygu a hyrwyddo rhaglen ddysgu sy’n seiliedig ar anghenion y sector, yn ôl yr angen.

Cefnogi'r tîm i werthuso cynnwys ac allbwn i siapio gweithgarwch yn y dyfodol.

Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru o ran ein dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny’n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.


EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull ni o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes ffocwsGofynion Hanfodol              Gofynion Dymunol            

Addysg 

 

 

Gradd mewn Cyfathrebu,

Marchnata neu bwnc cysylltiedig. 

Profiad 

 

Profiad o weithio mewn amgylchedd Cyfathrebu neu Farchnata.

 

Profiad o ysgrifennu cynnwys difyr ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ar-lein ac oddi ar-lein.

 

Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

 

Profiad o ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol.

 

Profiad o ymgyrchoedd marchnata.

 

Profiad o gyfathrebu mewnol.

 

Profiad o weithio gyda'r cyfryngau.

 

Profiad o gynhyrchu a golygu cynnwys fideo.

 

Profiad o ddefnyddio llwyfannau CMS.

 

Profiad o ddefnyddio pecynnau dylunio e.e. Canva.

 

Profiad o gefnogi cyflwyno digwyddiadau.

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

Sgiliau cyfathrebu rhagorol – yn ysgrifenedig ac ar lafar.

 

Y gallu i gynhyrchu cynnwys cryno, difyr a manwl gywir ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

 

Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif.

 

Gallu trefnu eich gwaith eich hun a chynllunio, amserlennu a

blaenoriaethu tasgau.

 

Sgiliau TG, gan gynnwys gwybodaeth weithredol dda am powerpoint, word ac excel.

 

Sgiliau dylanwadu / trafod.

 

Sgiliau gweinyddol da.

 

Sylw i fanylder.

 

Aelod da o dîm.

 

Y gallu i weithio dan bwysau ac i gadw at derfynau amser.

 

Agwedd hyblyg at oriau gwaith.

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg -

yn ysgrifenedig ac ar lafar. 

Amgylchiadau Arbennig

Gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol a chymryd rhan mewn rota ar alwad.

 

Gallu teithio yn ôl yr angen.