Skip to main content

Derbynnydd - Cymraeg yn Hanfodol

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Derbynnydd - Cymraeg yn Hanfodol

AM Y SWYDD WAG YMA

ADRAN A CHYFLOG

Adran – Gwasanaethau Cwsmeriaid

Cyflog – Graddfa 2 - £23,258 (hefyd lwfans shifft o 16%). (Pro Rata am 17.5 awr yn cynnwys lwfans shifft - £12.760.48 y flwyddyn)

Oriau Gwaith – 17.5 awr yr wythnos (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Patrwm y Shifftiau:

 

Wythnos 1

Sul8.00-12.30 (4.5)
Llun17.00-22.00 (5)
Mawrth 
Mercher17.00-22.00 (5)
Iau 
Gwener 
Sadwrn 
Wythnos 2Sul 
Llun17.00-22.00 (5)
Mawrth 
Mercher 
Iau15.00-20.00 (5)
Gwener15.00-19.00 (4)
Sadwrn 
Wythnos 3Sul9.00-14.00 (5)
Llun17.00-22.00 (5)
Mawrth 
Mercher 
Iau 
Gwener13.00-20.00 (6.5)
Sadwrn13.30-21.30 (7.5)
 
Cyfanswm yr Oriau52.5
Oriau wythnosol ar gyfartaledd17.5

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU 

Mae’r Derbynnydd yn rôl a fydd yn wyneb blaen i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng nghanol dinas Caerdydd gan ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol i’n holl gwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae'r Ganolfan yn cynnal llawer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, o Bencampwriaeth Agored Badminton Cymru i ddigwyddiadau Gymnasteg Mewnol ochr yn ochr â gweithredu cynllun aelodaeth gyhoeddus a chyfleusterau llety.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO

Gan weithio o fewn y tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r adrannau Gweithrediadau, Cynnal a Chadw ac Arlwyo a Chadw Tŷ.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n siarad Cymraeg sydd â phrofiad blaenorol mewn rôl sy’n delio â chwsmeriaid ac sydd ag angerdd dros ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol. Byddwch hefyd yn gyfathrebwr da, yn drefnus ac yn deall TG gyda hyblygrwydd tuag at oriau gwaith.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn isod.

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]

I gael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio anfonwch e-bost iJOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU  

9YB 22/07/24

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD   

01/08/24

 

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

YN ATEBOL I

Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Cynorthwyol (Derbynfa a Chofrestrfa)

YN GYFRIFOL AM

AMH.

PWRPAS Y SWYDD

Delio ag ymholiadau cwsmeriaid a gweithredu desg y Dderbynfa yn y Ganolfan.

PRIF DDYLETSWYDDAU

  • Cysylltu ag Adrannau eraill, i sicrhau bod y Ganolfan yn cael ei gweithredu’n effeithiol.
  • Delio â cheisiadau i ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon, ystafelloedd cynadledda a llety'r Ganolfan o'r ymholiad cychwynnol i'r cadarnhad.
  • Cynorthwyo gyda gweinyddu cyrsiau a dosbarthiadau ffitrwydd y Ganolfan gan gynnwys rhaglennu cyrsiau, trefnu Hyfforddwyr, derbyn ceisiadau am gyrsiau a thaliadau.
  • Cynorthwyo gyda gweinyddu'r cynllun aelodaeth gan gynnwys cyhoeddi hysbysiadau adnewyddu.
  • Cynhyrchu gwybodaeth ystadegol, adroddiadau a gohebiaeth gyffredinol yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd â thasgau gweinyddol i sicrhau bod y Ganolfan yn cael ei gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol.

Iechyd a Diogelwch

  • Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys a chofnodi pob damwain yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo gyda gweithdrefnau gadael y Ganolfan mewn argyfwng.
  • Yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich esgeulustod chi yn y gwaith. Cydweithredu â Chwaraeon Cymru i gydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan unrhyw ddarpariaethau iechyd a diogelwch.

Cyffredinol

  • Cynorthwyo i hyfforddi cyflogeion newydd, gan gynnwys staff achlysurol.
  • Rhoi cymorth i staff eraill Chwaraeon Cymru sy'n gyson â sicrhau bod gofynion gweithredol y Ganolfan yn cael eu bodloni.
  • Helpu i gynnal amgylchedd taclus a glân ym mhob rhan o'r Ganolfan (mewnol ac allanol).
  • Gweithredu mewn ffordd deg a pharchus wrth ymdrin ag eraill, gan werthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth.
  • Mae natur y swydd yn golygu ei bod yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio patrwm shifft sy'n cynnwys oriau afreolaidd ac anghymdeithasol, gan gynnwys gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a gwyliau penodol eraill. Bydd y patrwm gwaith yn gofyn am hyblygrwydd rhesymol yn unol ag anghenion y Ganolfan.
  • Nid yw’r rhestr hon i gael ei hystyried yn gyfyngedig nac yn hollgynhwysfawr oherwydd efallai y bydd angen cyflawni dyletswyddau eraill o fewn gallu a graddfa deiliad y swydd mewn unrhyw faes yng ngweithrediadau Chwaraeon Cymru.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.
  • Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, lle bo hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r raddfa.

 

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus. 

MANYLEB Y PERSON

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         
Addysg  5 TGAU

Profiad 

 

Profiad gweinyddol blaenorol 

 

Profiad blaenorol o weithio mewn derbynfa

Profiad blaenorol o weithio mewn Canolfan Chwaraeon

Profiad blaenorol o drin arian parod

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

 

Sgiliau cyfrifiadurol

Yr iaith Gymraeg

Effeithlon

Trefnus iawn 

Cyfeillgar a pharod i helpu 

Y gallu i weithio'n fanwl gywir ac yn rhesymegol 

Y gallu i weithio fel rhan o dîm a hefyd heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd

Sgiliau rhyngbersonol da

Systemau archebu cyfrifiadurol 

Systemau cyfrifon cyfrifiadurol

Amgylchiadau Arbennig Gallu gweithio'n hyblyg