Skip to main content

Disgrifiad Swydd - Cogydd

YN ATEBOL I

Rheolwr Arlwyo a Chadw Tŷ

PWRPAS Y SWYDD

Fel aelod o’r Tîm Arlwyo a Chadw Tŷ, byddwch wedi ymrwymo i ddarparu bwyd o ansawdd uchel, ynghyd â gwasanaeth o’r radd flaenaf, gan ddangos angerdd tuag at fwyd. Byddwch yn aelod o’r tîm sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gyrraedd y safonau yn unol a’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, a rhoi croeso cynnes i bob cwsmer ac ymwelydd, fel bod enw da adran Arlwyo a Chadw Tŷ Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn cael ei gynnal a’i wella.

 

PRIF DDYLETSWYDDAU 

  • Paratoi, creu ac arddangos pob pryd bwyd yn unol â’r bwydlenni cymeradwy, ac yn unol â System Rheoli Diogelwch Bwyd Chwaraeon Cymru (FSMS).
  • Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol yn y gegin, gan gynnwys pob agwedd ar reoli stoc, archebu a derbyn nwyddau, a pharatoi anfonebau ar gyfer eu talu.         
  • Datblygu a llunio bwydlenni ar gais, gan gynnwys (os yw hynny’n ymarferol yn fasnachol), cynnyrch ffres, lleol, moesegol a thymhorol. Gweithio gyda maethegwyr mewnol i sicrhau bod anghenion yr holl gwsmeriaid, gan gynnwys athletwyr elitaidd, yn cael eu hystyried. 
  • Cynnal ymwybyddiaeth o dueddiadau cyfredol ym maes bwyd a datblygiadau’r diwydiant bwyd fel bod Chwaraeon Cymru yn gallu datblygu darpariaeth o fwyd sy’n flaengar yn y farchnad.
  • Hybu amgylchedd croesawus gyda lefel uchel o Ofal am Gwsmeriaid a chefnogi’r staff i gyd i gyrraedd yr un safon.     
  • Ymgymryd â’r holl dasgau Cyflenwi, Storio a Pharatoi Bwyd a Gweithrediadau Cegin yn unol â’r hyfforddiant, er mwyn cyrraedd safonau uchel y ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch.
  • Ymgymryd â’r holl ddyletswyddau glanhau yn unol â System Rheoli Diogelwch Bwyd Chwaraeon Cymru (FSMS), gan gynnwys cario gwastraff bwyd allan, tasgau ailgylchu a gwaredu gwastraff arlwyo yn ddiogel. 
  • Monitro a sicrhau bod yr holl ffurflenni rheoli’n cael eu llenwi’n ddyddiol yn unol â gweithdrefnau’r System Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS).
  • Gweithio gyda’r Goruchwylydd Gweithrediadau Arlwyo a’r Cynorthwywyr Cyffredinol i sicrhau wrth weini bwyd neu werthu eitemau adwerthu (gan gynnwys Peiriannau Gwerthu) eu bod yn cael eu cyflwyno i safon uchel, a’u cadw’n lân, yn daclus ac yn ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd.
  • Trin arian yn ddiogel a than reolaeth, yn unol â’r hyfforddiant.
  • Yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch chi eich hun ac iechyd a diogelwch eraill a all gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich esgeulustod yn y gwaith. Cydweithredu â Chwaraeon Cymru wrth iddo gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan unrhyw ddarpariaethau iechyd a diogelwch. 
  • Gwisgo’r wisg briodol a chynnal lefel uchel o hylendid personol.
  • Cydymffurfio ag unrhyw ymholiadau gwasanaethau cwsmeriaid, e.e. delio â sylwadau neu ymholiadau/cwynion cwsmeriaid.
  • Helpu i gynnal amgylchedd glân a thaclus ym mhob rhan o’r Ganolfan (mewnol ac allanol).
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
  • Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn, os yw hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'w graddfa.

 

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

 

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

 

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

 

Drwy wneud y canlynol: 

 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

 

MANYLEB Y PERSON

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol             Gofynion Dymunol           

Addysg 

 

  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol
  • City & Guilds 706/1 a 706/2 neu ddiploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol (neu gyfatebol) 
  • CIEH Diogelwch Bwyd Lefel 2 (neu barodrwydd i weithio tuag ato)

 

  • NVQ lefel 3 paratoi a choginio bwyd 

 

Profiad

 

  • Profiad o weithio mewn rôl ac amgylchedd tebyg 

 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd 

 

  • Hyblyg
  • Effeithlon a threfnus       
  • Cyfeillgar, parod i helpu a phositif, gyda ffocws da ar y cwsmer a sgiliau rhyngbersonol da 
  • Gallu gweithio heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd 
  • Gallu gweithio’n unigol ac fel aelod o dîm