DISGRIFIAD SWYDD LLAWN
Lleoliad
Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweithrediadau
YN ATEBOL I
Staff Gweithrediadau
PWRPAS Y SWYDD
Cynorthwyo gyda rheoli staff, cyfleusterau a chyllid a sicrhau bod ardaloedd gweithgarwch yn cael eu paratoi yn unol â’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu a gofynion gweithredol y Ganolfan.
Datblygu systemau a phrosesau sy'n galluogi safonau gwasanaethau cwsmeriaid uchel i ddiwallu neu ragori ar anghenion defnyddwyr y Ganolfan Genedlaethol.
Ymgymryd â rôl Rheolwr ar Ddyletswydd sy'n gofyn am weithio shifftiau rheolaidd gan gynnwys boreau cynnar, gyda'r nos yn hwyr ac ar benwythnosau.
Ymgymryd ag elfennau o rôl y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Gweithrediadau yn ei absenoldeb.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Rheoli Staff
- Gweithredu rhaglenni gwaith y staff gweithredol.
- Paratoi rotas staff a monitro cofnodion gwyliau a salwch.
- Ymgymryd â hyfforddiant staff a chadw cofnodion hyfforddi staff.
- Cynnal cyfarfodydd tîm ac unigol, gan gynnwys cynnal gwerthusiadau staff.
- Cynorthwyo gyda recriwtio staff, gan gynnwys cyfweld, hyfforddi a monitro perfformiad.
Rheoli Gweithrediadau
- Cysylltu â Chyrff Rheoli Cenedlaethol a llogwyr eraill i gynllunio'r defnydd o gyfleusterau Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ar gyfer archebion a digwyddiadau.
- Arwain y gwaith o reoli a hyrwyddo campfeydd cyhoeddus y Ganolfan.
- Arwain y gwaith o reoli a hyrwyddo rhaglen dosbarthiadau ffitrwydd y Ganolfan.
- Cydlynu gwasanaethu ac archwilio cyfleusterau / offer.
- Ymateb i adborth cwsmeriaid sy'n ymwneud â maes cyfrifoldeb.
- Cynhyrchu, adolygu a chynnal gweithdrefnau rheoli effeithiol a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.
Rheoli Cyllid
- Cynorthwyo gyda phrynu stoc ac offer yn yr adran.
- Cynnal archwiliadau monitro ar y cyllidebau gwariant.
- Cynorthwyo gyda gweithdrefnau tendro a chaffael ar gyfer prynu, stocrestrau a gwaredu offer
Cyfrifoldebau Rheolwr ar Ddyletswydd
- Goruchwylio'r holl staff Gweithrediadau yn absenoldeb eu rheolwr llinell uniongyrchol.
- Cynorthwyo rheolwyr i drefnu lefelau staffio a darpariaeth yn lle absenoldeb i fodloni gofynion y Ganolfan.
- Ymateb i faterion cwsmeriaid / staff ar gyfer holl adrannau CGChC (gwasanaethau cwsmeriaid / gweithrediadau / arlwyo / cadw tŷ / cynnal a chadw) os oes angen uwchgyfeirio at reolwr (yn absenoldeb rheolwyr adrannau).
- Cydlynu’r gwaith o sefydlu a dadansoddi archebion / offer ar draws y Ganolfan yn ddyddiol.
- Ymgymryd â rôl Swyddog Tân mewn gweithdrefnau gadael yr adeilad ar gyfer y Ganolfan.
- Ymgymryd â rôl Rheolwr Digwyddiadau yn ôl yr angen (yn unol â chynllun Rheoli Digwyddiadau Chwaraeon Cymru).
Iechyd a Diogelwch
- Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys a chofnodi pob damwain / digwyddiad.
- Caffael a chadw tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith ac ymarfer y sgiliau hyn fel sy'n briodol.
- Cydweithredu â Chwaraeon Cymru yn unol â'i ddyletswyddau o dan unrhyw ddarpariaethau iechyd a diogelwch, e.e. cynnal asesiadau risg, asesiadau COSHH, sicrhau bod offer yn addas i'w ddefnyddio, ac ati.
Cyffredinol
- Ymddwyn mewn ffordd deg a pharchus wrth ddelio ag eraill, gan werthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth.
- Annog yn weithredol gynaliadwyedd, lles a chydraddoldeb, gan werthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth.
- Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, yr Iaith Gymraeg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’rraddfa.
EIN GWERTHOEDD
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
MANYLEB Y PERSON
Maes ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg:
| Cymhwyster rheoli hamdden neu addysg hyd at lefel gradd
Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y gwaith cyfredol (neu'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn 3 mis i'w gyflogi)
| Cymhwyster rheoli iechyd a diogelwch (e.e., IOSH Rheoli’n Ddiogel)
Cymhwyster Hyfforddwr Campfa Lefel 2
|
Profiad:
| Profiad Rheolwr ar Ddyletswydd blaenorol neu Oruchwylio yn gweithio mewn cyfleuster chwaraeon neu hamdden
Profiad o ysgrifennu a chadw at weithdrefnau rheoli gweithredol clir
| |
Sgiliau, Doniau a Galluoedd:
| Gallu rheoli, cymell a datblygu timau i lefel uchel o berfformiad
Gallu gweithio o fewn cyllidebau a chadw cofnodion ariannol
Gallu cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif
Gallu trefnu eich gwaith eich hun a chynllunio, amserlennu a blaenoriaethu tasgau yn effeithiol
Sgiliau TG
Sgiliau dylanwadu / trefnu
Sgiliau gofalu am gwsmeriaid da
Aelod da o dîm
Gallu gweithio dan bwysau a chadw at ddyddiadau cau
Llawn cymhelliant a ffocws ar atebion
Gallu gweithio dan bwysau gan gadw at amserlenni llym a chymell eraill i gyflawni
Parodrwydd i ymgymryd â datblygiad a hyfforddiant yn ôl yr angen
Gallu gweithio’n fanwl gywir ac yn rhesymegol heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd
| Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
|
Amgylchiadau Arbennig:
| Gallu gweithio patrwm shifft ar gylchdro
Agwedd hyblyg at oriau gwaith
|