Disgrifiad Swydd Llawn
Yn atebol i
Uwch Swyddog Buddsoddiadau
Pwrpas y swydd
Fel rhan o strategaeth newydd Chwaraeon Cymru, mae ein dull o ymdrin â buddsoddiadau yn newid. Mae angen i'r ffordd mae buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn cael eu dyrannu fod yn rhan o adnodd datblygu chwaraeon rhagweithiol. Yn y rôl hon bydd gennych gyfrifoldeb cynnar dros ysgogi'r newid hwnnw.
Yn ogystal â darparu cefnogaeth, cymorth ac arweiniad i Bartneriaid (yn enwedig ymgeiswyr, Awdurdodau Lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a'r System Chwaraeon a Thimau Datblygu Chwaraeon) ar bob mater sy'n ymwneud â buddsoddi, byddwch yn monitro'r buddsoddiadau a wneir, gan nodi a deall y bylchau yn y buddsoddiadau hynny.
Bydd gan y rôl hon swyddogaeth bwysig o ran cydnabod lle gellir addasu dull wedi'i dargedu o ymdrin â'n buddsoddiadau er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth o gymunedau Cymru yn erbyn bwriadau strategol Chwaraeon Cymru. Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gydag eraill o fewn y tîm buddsoddiadau, a lle bo angen gyda'r tîm dirnadaeth, i ddatblygu trosolwg o ble mae ein ceisiadau buddsoddi yn dod a ble mae angen ymgysylltu'n well.
Darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer y rôl ac felly dull yr ymgeisydd o ymdrin ag ymddygiadau a sgiliau fydd elfen fwyaf hanfodol y broses recriwtio.
Prif ddyletswyddau
- Gweinyddu cyllid grant i ymgeiswyr ar gyfer cynlluniau Loteri lleol (Cronfa Cymru Actif ar hyn o bryd), ein ffrydiau buddsoddi cyfalaf, ac unrhyw ffrydiau cyllido eraill y bernir eu bod yn briodol (ceisiadau partner fel prosiectau Cydweithredu, Cydraddoldeb ac ati), o dderbyn cais hyd at gau buddsoddiadau, fel amodau buddsoddi, cydymffurfiaeth a thaliadau (gan gynnwys asesu ac argymhellion, sy'n cwmpasu pob agwedd ar y broses fuddsoddi ar lefel ariannol briodol, ac eithrio dyfarnu grant).
- Cefnogaeth a chymorth llinell gyntaf i bartneriaid (yn enwedig ymgeiswyr, Awdurdodau Lleol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a'r System Chwaraeon a Thimau Datblygu Chwaraeon) ar ddefnyddio'r System Rheoli Buddsoddiadau Ar-lein (OIMS).
- Darparu cyfarwyddyd i ymgeiswyr ar faterion cysylltiedig â buddsoddiadau.
- Diweddaru basau data a chadw cofnodion i sicrhau integriti ein data buddsoddi.
- Echdynnu data allweddol o’r System Rheoli Buddsoddiadau Ar-lein i greu adroddiadau buddsoddi ar gyfer partneriaid a chydweithwyr Chwaraeon Cymru fel ei gilydd.
- Adolygu a gwerthuso yn achlysurol brosesau a gweithdrefnau’r Tîm buddsoddiadau a diweddaru’r nodiadau desg proses perthnasol at ddiben gwelliant parhaus.
- Nodi tueddiadau mewn ceisiadau, gan dynnu sylw at lle gellir gwneud gwaith mwy rhagweithiol i annog mwy o fuddsoddiadau mewn meysydd sy'n rhan annatod o gyflawni yn erbyn bwriadau strategol Chwaraeon Cymru. Gall hyn fod yn cydnabod yr amrywiadau mewn ceisiadau gan wahanol bartneriaid, clybiau a chymunedau o safbwynt daearyddol, rhywedd, ethnigrwydd neu chwaraeon.
- Gweithio ar draws y timau buddsoddiadau a dirnadaeth i dynnu sylw at y bylchau buddsoddi er mwyn helpu i ddylanwadu ar y portffolio buddsoddi ehangach ar gyfer y sefydliad.
- Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’r raddfa.
Ein Gwerthoedd
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.