Pwrpas y swydd |
Darparu cefnogaeth therapi meinwe meddal i athletwyr, hyfforddwyr a chwaraeon penodol i wella perfformiad drwy weithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol a datblygu, gweithredu a gwerthuso gwasanaethau meinwe meddal. |
Prif ddyletswyddau |
|
Gwerthoedd Chwaraeon Cymru |
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Drwy wneud y canlynol:
|
Manyleb y person | ||
Maes Ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg:
| Meddu ar gymhwyster tylino Chwaraeon Lefel 4 o leiaf a enillwyd drwy ysgol achrededig sy'n bodloni safonau QCF/RQF Aelod o Gymdeithas Broffesiynol (PA) neu GCMT (y Cyngor Cyffredinol ar gyfer Therapïau Meinwe Meddal) neu CNHC (Cyngor Gofal Iechyd Ategol a Naturiol) | Aelodaeth lawn (Arian ac uwch) o’r Gymdeithas Tylino Chwaraeon.
Tystysgrif Cymorth Cyntaf Mewn Argyfwng yn y Gwaith |
Profiad:
| Profiad sylweddol – isafswm o 4 blynedd yn darparu therapi tylino chwaraeon i athletwyr a ddylai gynnwys gwaith gyda thimau neu sgwadiau chwaraeon perfformiad uchel - er nad yw hyn yn atal ymgeiswyr heb hyn rhag gwneud cais os ydynt yn teimlo bod ganddynt yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol Profiad o ddatblygu a gweithredu syniadau arloesol a'u rhoi ar waith, gan gynnwys gweithio mewn ffordd gymhwysol ac integredig.
Profiad helaeth o ddatblygu a gweithredu strategaethau lleihau effaith anafiadau yn llwyddiannus.
Profiad o weithio’n effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol yn darparu gwasanaeth therapi meinwe meddal i chwaraeon perfformiad uchel. | Profiad o ddelio â rhaglenni perfformiad cenedlaethol mewn Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol
Profiad o deithio gyda thîm i gystadleuaeth genedlaethol/ ryngwladol neu wersyll hyfforddi ar lefel hŷn neu iau
|
Sgiliau, Profiadau, Doniau a Galluoedd:
| Dealltwriaeth o anghenion athletwyr a hyfforddwyr elitaidd mewn amgylchedd perfformiad uchel.
Cydymffurfio â rheolau'r SMA neu'r corff rheoli cyfatebol a chod proffesiynol HCSI
Datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gwasanaeth therapi tylino chwaraeon ar gyfer athletwyr unigol yn y chwaraeon hyn
Lefel uchel o sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar resymu clinigol ac opsiynau triniaeth, gyda dealltwriaeth glir o derfynau ymyriadau a gwybod pryd i gyfeirio ymlaen, yn aml mewn sefyllfaoedd o dan bwysau mawr neu'n ddibynnol ar amser
Y gallu i ddangos gwybodaeth gyfoes ac uwch am dechnegau therapi tylino chwaraeon sy'n gysylltiedig â meddygaeth gyhyrysgerbydol yn yr amgylchedd chwaraeon
Y gallu i addasu rhaglenni yn unol â chanlyniadau data asesu, ar y cyd â hyfforddwyr a staff cefnogi eraill
Y gallu i weithio dan bwysau
Y gallu i flaenoriaethu eich baich gwaith eich hun
Y gallu i sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cystadleuol a therfynau amser tynn
Sgiliau cyfathrebu sy’n gallu cymell newid mewn ymddygiad i gael effaith bositif ar berfformiad.
Dealltwriaeth o’r disgyblaethau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon amrywiol.
Didwylledd personol a'r gallu i ysgogi ymddiriedaeth a pharch gan eraill.
Parodrwydd i ymgysylltu â datblygiad proffesiynol parhaus ym maes gwrth-gyffuriau a'i gefnogi, h.y. Cwrs Cynghorydd Chwaraeon Glân UKAD
Efallai y bydd yn ofynnol gweithio gydag athletwyr dan 18 oed (angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)) | Gwybodaeth gynhwysfawr a chyfoes am y sgiliau technegol sy’n sail i ddarparu rheolaeth therapi meinwe meddal mewn amgylchedd chwaraeon.
Diddordeb mewn chwaraeon a chydnabod pwysigrwydd hybu a chefnogi cydraddoldeb, diogelu ac atal cyffuriau mewn chwaraeon.
Medrus am feithrin a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol â staff perfformiad uchel mewn cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol.
Llawn cymhelliant gydag angerdd dros chwaraeon perfformiad uchel.
Meddwl agored gyda’r bwriad i fabwysiadu arferion newydd. |