DISGRIFIAD SWYDD
YN ATEBOL I
Arweinydd Llywodraethu, Moeseg ac Integriti
PWRPAS Y SWYDD
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Systemau Chwaraeon. Yn gweithio’n gydweithredol ar draws Chwaraeon Cymru, byddwch yn arwain, yn datblygu ac yn cefnogi gwaith allweddol perthnasol i lywodraethu, moeseg ac integriti.
Byddwch yn darparu arweiniad a chefnogaeth i bartneriaid (yn enwedig Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Partneriaid Cenedlaethol a Phartneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol) gyda phob mater perthnasol i lywodraethu, moeseg ac integriti. Yn benodol, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi datblygu llywodraethu ledled Cymru, gyda ffocws ar gefnogi gwelliant parhaus yn cyd-fynd â’r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain ar gyfer Cymru.
PRIF DDYLETSWYDDAU
- Cynghori a darparu cefnogaeth i’r Arweinydd Llywodaethu, yr Arweinydd Datblygu Pobl a’r Arweinydd Hyfforddii sicrhau bod polisïau’n cael eu datblygu a bod y budd gorau i’w gael o strategaeth Chwaraeon Cymru.
- Gweithio ar lefel uwch gyda Phartneriaid Cenedlaethol allweddol (yn benodol Awdurdodau Lleol, Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol, Cyrff Rheoli Cenedlaethol a Sefydliadau Cenedlaethol) i ddylanwadu ar eu cynlluniau a gweithredu strategaethau a pholisïau perthnasol i lywodraethu a datblygu pobl gan sicrhau bod hyn yn parhau wrth galon eu gwaith.
- Gweithio'n benodol gyda phartneriaid i roi sylw i anghydraddoldeb.
- Arwain datblygiad adnoddau ac offer e.e. Fframwaith Llywodraethu ac Arwain ar gyfer Cymru, a fydd yn effeithio ar lywodraethu, datblygu pobl a moeseg.
- Croesawu technoleg ddigidol i rannu gwybodaeth a syniadau perthnasol ar draws y meysydd busnes ac i sicrhau bod gwybodaeth a dirnadaeth yn cael eu rhannu mor eang â phosib ar draws y sector.
- Arwain datblygiad rhaglenni cenedlaethol yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid y DU i ddylanwadu ar y gwaith yng Nghymru a gweithredu fel prif bwynt cyswllt e.e. Gwrth-Gyffuriau y DU.
- Sicrhau bod y defnydd gorau posib yn cael ei wneud o’r buddsoddiad mewn partneriaid a rheoli cyllideb yn effeithiol, yn unol â rheoliadau Chwaraeon Cymru.
- Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn, os yw hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'w graddfa, gan gynnwys cefnogi gwaith ehangach y tîm Llywodraethu, Pobl a Moeseg.
EIN GWERTHOEDD
Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:
Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy wneud y canlynol:
Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.
MANYLEB Y PERSON
Maes Ffocws | Gofynion Hanfodol | Gofynion Dymunol |
Addysg:
| Gradd neu brofiad perthnasol | Cymhwyster Rheoli Prosiect Cymhwyster Llywodraethu |
Profiad:
| Profiad mewn rôl weithredol gan gefnogi ac arwain gwaith ar draws nifer o flaenoriaethau sefydliadol.
Profiad blaenorol o ddylanwadu ar Uwch Reolwyr, creu hygrededd a pherthnasoedd rhagorol.
Profiad cynllunio gweithredol a strategol wrth ddatblygu syniadau ac atebion arloesol.
Enw da clir am ddarparu ac adolygu meysydd gwaith allweddol, gan ddysgu a diwygio gwaith yn ôl yr angen.
Rheolaeth effeithiol ar gyllidebau.
Profiad blaenorol o ysgrifennu papurau polisi.
Gwybodaeth a phrofiad o arwain datblygiad llywodraethu ar draws nifer o bartneriaid.
| Profiad o weithio gyda chwaraeon / Cyrff Rheoli Cenedlaethol.
Profiad o ddefnyddio technoleg i ddylanwadu ar waith a’i gyflwyno.
Profiad o roi sylw i anghydraddoldeb drwy ddull datblygu pobl o weithredu.
Profiad o arwain newid ymddygiad mewn sefydliadau. |
Sgiliau, Doniau a Galluoedd:
| Gallu meithrin perthnasoedd gydag amrywiaeth o wahanol randdeiliaid.
Gallu rheoli amrywiaeth o amcanion gwaith, rhai ag amserlenni heriol a chystadleuol yn aml.
Gallu gweld y darlun mawr. Cydnabod sut mae gwahanol feysydd gwaith ar draws sefydliad yn gallu cyd-fynd â’i gilydd.
Gallu cymell, annog a herio cydweithwyr.
Gallu creu amgylchedd gwaith da a phositif a delio’n effeithiol gyda materion a phroblemau.
Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif. Gallu gweithio'n annibynnol, gan ddatblygu a gweithredu syniadau arloesol. Gallu sefydlu prosiectau, yn seiliedig ar drosi bwriad strategol yn gyflawni gweithredol. | Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
|
Amgylchiadau Arbennig:
| Y gallu i weithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol. Y gallu i deithio yn ôl yr angen. |