Main Content CTA Title

Black Swimming Association (BSA)

Prif Weithredwr

Wedi'i sefydlu yn 2020 gyda cenhadaeth glir i sicrhau bod gan gymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd fynediad teg i addysg diogelwch dŵr hanfodol, mae'r Black Swimming Association (BSA) yn arwain mudiad trawsnewidiol o fewn y sector dyfrol, lle rydym yn actio fel pont i gymunedau sydd wedi'u hallgáu, wedi'u difreinio ac yn anweledig yng nghyd-destun diogelwch dŵr. Nawr, rydym ni'n chwilio am Brif Swyddog Gweithredol angerddol a brwdfrydig i'n harwain i fewn i ein bennod nesaf.

Mewn pum mlynedd, mae'r BSA wedi tyfu o fod yn bedwar cyd-sylfaenydd i dîm bach ond ymroddedig, sydd yn ymrwymo i’r gymunedau rydym yn eu gwasanaethu. O gomisiynu ymchwil arloesol; i gyflwyno rhaglenni diogelwch dŵr ac achub bywyd ar draws y wlad, mae'r elusen yn ddiysgog yn ei nod i hyrwyddo diogelwch dŵr ac atal achosion o foddi. Rydym yn chwilio am arweinydd sy’n deall pobl, yn ymladd dros degwch, ac sy’n barod i dyfu’r elusen i fod yn gorff sefydledig a genedlaethol.

Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y DU a bod yn rhan o rywbeth dylanwadol ac ysbrydoledig, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych chi'n teimlo mai chi yw Prif Swyddog Gweithredol nesaf y BSA i [javascript protected email address].

Dyddiau Cau: 25ain Ebrill, 2025