Cyfarwyddwyr Bwrdd
Mae BowlsCymru, y corff cydlynu ar gyfer bowls fel camp yng Nghymru, ar siwrnai gyffrous o dwf a thrawsnewid, ac yn chwilio am Gyfarwyddwyr Bwrdd newydd.
Mewn cyfnod creiddiol yn natblygiad Bowls yng Nghymru, rydym yn chwilio am dri chyfarwyddwr i'w penodi i ymuno â’n Bwrdd ni ac i arwain ar y meysydd canlynol:
- Arweinydd Cyfranogiad
- Arweinydd Masnachol a Phartneriaethau
- Arweinydd Diogelu, Pobl a Diwylliant
Yn ogystal, rydym yn chwilio am ddau gyfarwyddwr sydd â chefndir a chyfres o sgiliau yn y meysydd allweddol canlynol:
- Cyfreithiol
- Cyllid
- Archwilio a risg
- Strategaeth
- Llywodraethu
- Perfformiad
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 7 Mawrth 2025