Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Mae Criced Cymru wedi ymrwymo i hybu hunaniaeth Gymreig gadarn ac atgyfnerthu ei rôl fel Corff Llywodraethu Cenedlaethol Criced yng Nghymru, gan wneud criced yn Gêm i Bawb. Mae marchnata a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod ein gêm yn un hygyrch a chynhwysol sy’n adlewrychu ein gwerthoedd, sef Gyda’n Gilydd, Arwain, a Gofalu.
I arwain yr uchelgais hon, rydym yn cyflwyno rôl newydd, sef Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Bydd y rôl hon yn gyfrifol am siapio a chyflenwi ein brand, gan sicrhau cysondeb o ran negeseuon, a hyrwyddo ein gwaith ar draws bob platfform.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn codi proffil, ac yn hyrwyddo gwerthoedd ac ymrwymiadau Criced Cymru mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mi fydd hefyd yn hanfodol o ran cynyddu ymwybyddiaeth o effaith criced o fewn cymunedau a ledled y wlad.
Dyddiad Cau: Ebrill 25ain, 2025