Main Content CTA Title

Partneriaeth Actif Canolbarth y De

Cyfarwyddwr Rheoli

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda ac ar ran Bwrdd Partneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD) i arwain a sbarduno cyfeiriad strategol y Bartneriaeth i gyflawni ei gweledigaeth a’i dyheadau.

Bydd gofyn i chi ymgysylltu'n strategol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn hyrwyddo nodau'r Bartneriaeth, rheoli gweithrediad PACD a sicrhau bod y Bartneriaeth yn parhau i fod yn addas i'r diben.

Bydd hyn yn gofyn am ddull arwain “systemau cyfan” deinamig i greu newid sylweddol mewn diwylliant a meddylfryd ar draws sefydliadau partner. Bydd angen i chi ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid presennol a newydd, gan ysgogi arloesedd a chydweithredu a fydd yn arwain at sefydliad sy’n perfformio’n dda ac sy’n cyflawni’r weledigaeth ar gyfer PACD.

Bydd angen i'r rôl arwain o'r tu blaen a chymryd rhan ar lefel fanylach / gweithredol pan mae’r achlysur yn gofyn am hynny, er mwyn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cael ei chefnogi'n llawn yn ystod y cyfnod sefydlu hwn, ac nad yw cyfleoedd yn cael eu colli.

Tâl: £70,000-£80,000 y flwyddyn (ynghyd â phecyn pensiwn).

Oriau: Llawn amser, oriau gwaith hyblyg o fewn cyfnodau craidd. Mae disgwyl y bydd angen i’r Cyfarwyddwr Rheoli efallai fynychu digwyddiadau / cyfarfodydd y tu allan i gyfnodau craidd.

Lleoliad: O bell, hyblyg gyda disgwyliad i ymgysylltu’n rheolaidd â phartneriaid ar draws y rhanbarth.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 14eg Chwefror 2025