Ymddiriedolwr
Y Rôl:
Mae UDOIT! eisiau ychwanegu 2 i 3 Ymddiriedolwr newydd at ein bwrdd presennol i helpu i gefnogi a siapio'r cam nesaf yn nhwf yr elusen.
Er nad yw profiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr yn hanfodol, rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n nodau craidd ac a all ychwanegu safbwyntiau, dirnadaeth a sgiliau newydd at y bwrdd.
Rydyn ni’n credu’n gryf mewn cael bwrdd amrywiol ac yn annog ymgeiswyr o bob cefndir ac oedran i wneud cais os ydynt yn teimlo bod ganddynt y sgiliau cywir.
Cyfrifoldebau allweddol
- Dealltwriaeth dda o'r gamp a'r amgylchedd y mae'r elusen yn gweithredu ynddo.
- Gallu mynychu 4 i 6 chyfarfod Bwrdd y flwyddyn (mae'r mwyafrif yn cael eu cynnal o bell).
- Cyfrannu, fel maent yn gallu, at weithgareddau'r elusen a phob eitem ar yr agenda.
- Gallu cynorthwyo i ddatblygu Strategaeth UDOIT! a monitro, fel sy'n briodol, perfformiad gweithredol yr elusen.
- Dealltwriaeth a'r cymwyseddau sy'n ofynnol gan ymddiriedolwr elusen.
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 30 Ebrill 2025