Main Content CTA Title

UK and Ireland 2028

Bwrdd Cyfarwyddwyr

Mae UK and Ireland 2028 Ltd., y cwmni sydd newydd gael ei sefydlu gan bartneriaid y Cymdeithasau Pêl Droed i gynnal twrnamaint pêl droed Ewro 2028, eisiau penodi Bwrdd Cyfarwyddwyr i oruchwylio gweithgarwch y gweithlu gweithredol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i 3 unigolyn eithriadol ymuno â Bwrdd y Cwmni am gyfnod o 4 blynedd. Mae’r partneriaid yn gofyn am geisiadau ar gyfer y swyddi canlynol ar y Bwrdd:

Mae’r partneriaid cynnal wedi dyfeisio gweledigaeth ar gyfer y twrnamaint, sef Pêl Droed i Bawb, Pêl Droed er Lles a Phêl Droed ar gyfer y Dyfodol, gyda’r dyhead i greu effeithiau diriaethol a lledaenu budd mor eang â phosibl ar draws y DU ac Iwerddon. 

Bydd Cyfarwyddwyr y Bwrdd yn chwarae rhan annatod wrth lunio cyfeiriad strategol y twrnamaint a chefnogi gweledigaeth y twrnamaint – Pêl Droed i Bawb, Pêl Droed er Lles a Phêl Droed ar gyfer y Dyfodol. 

Gallwch gael gwybod mwy am y twrnamaint a'r cyfleoedd cyffrous i ymuno â’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn UK Sport.