Mae gennym ni tua 160 aelod o staff mewn lleoliadau ledled Cymru gyda’n prif swyddfa yng Nghaerdydd a’n swyddfeydd rhanbarthol ar Lannau Dyfrdwy ac ym Mhlas Menai (Caernarfon).
Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu ac yn berchen ar y ddwy ganolfan genedlaethol yng Nghymru – un yn y gogledd ac un yn y de.
Gogledd Cymru yw cartref Plas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae mewn lleoliad perffaith ar gyfer antur awyr agored wedi’i lleoli ar lan Afon Menai, ar safle hwylus rhwng Bangor a Chaernarfon ar arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Ganolfan yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri ac mae’n edrych draw am Ynys Môn ar draws y Fenai.
Wedi’i lleoli yng Ngerddi Sophia, mae’r Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd yn gartref i Chwaraeon Cymru.
Yn hwb ar gyfer perfformiad uchel a chwaraen cymunedol, mae gan y ganolfan wasanaethau a chyfleusterau ar gyfer athletwyr gorau Cymru, swyddfeydd ar gyfer cyrff rheoli cenedlaethol ac amrywiaeth o gyfleusterau mynediad cyhoeddus.
Ar gyfer ymholiadau cysylltiedig ag adrannau a staff Chwaraeon Cymru, ffoniwch 0300 3003111.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill am y ganolfan, edrychwch ar y manylion isod.