CYFLWYNIAD
Wedi'u comisiynu gan bum Cyngor Chwaraeon y DU, isod mae crynodeb o ganfyddiadau dau ddarn o ymchwil i hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon:
1. Adolygiad Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon (SIRC) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam o’r data presennol am anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon
2. Prosiect AKD Solutions i gofnodi profiadau byw o hiliaeth mewn chwaraeon.
I ddechrau, mae'r ddogfen yn cyflwyno canfyddiadau cyffredinol am raddfa’r hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon cyn crynhoi eu natur yn erbyn y “themâu ar gyfer gweithredu” a nodwyd gan y cynghorau chwaraeon.
CEFNDIR
Adolygu data (SIRC)
Mae cefndir ethnig unigolyn yn ffactor pwysig wrth ystyried gweithgarwch corfforol.
Mae tystiolaeth bod anghydraddoldeb yn amlwg ymhlith oedolion a phlant. Mae'r anghydraddoldeb hwn yn amlwg mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon penodol yn ogystal â mewn chwaraeon elitaidd.
Mae data arolwg Oedolion Active Lives Sport England yn dangos, o gymharu ag oedolion Gwyn Prydeinig, fod gan y mwyafrif o oedolion ethnig amrywiol siawns is o fod yn gorfforol actif:
- 22% yn is ar gyfer Lleiafrifoedd Gwyn
- 35% yn is ar gyfer oedolion Du
- 45% yn is ar gyfer oedolion De Asiaidd
- 49% yn is ar gyfer oedolion Tsieineaidd
- 42% yn is ar gyfer oedolion o grwpiau ethnig eraill.
Profiad Byw (AKD)
Ar draws pob fforwm rhannodd cyfranogwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol brofiadau o gael eu gwneud i deimlo'n wahanol neu “arall” wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Daeth rhai cyfranogwyr yn fwy ymwybodol o'u hil wrth iddynt symud i fyny'r ystol chwaraeon. Roedd eraill yn teimlo eu bod wedi'u dieithrio, gan gwestiynu eu hunaniaeth a'u gallu mewn rhannau eraill o'u bywydau cymdeithasol.
THEMÂU AR GYFER GWEITHREDU
Er mwyn darparu fframwaith i ymateb i ganfyddiadau'r ymchwil, mae Cynghorau Chwaraeon y DU wedi nodi pum thema ar gyfer gweithredu.
SYSTEM: Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym
Casglu Data (SIRC)
Mae pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn Lloegr yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd â lefelau uwch o amddifadedd. Mae cysylltiad negyddol rhwng amddifadedd a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r canfyddiad hwn yn awgrymu bod yr anghydraddoldeb a geir mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi'i wreiddio mewn anghydraddoldeb cymdeithasol ehangach.
Profiad Byw (AKD)
Gwelai’r cyfranogwyr system a oedd yn aml yn anymatebol i gwynion am hiliaeth. Cyfeiriwyd at hyn fel dull “lliw-ddall” o weithredu a thrafododd y cyfranogwyr sut mae hyn yn annog parhad yr anghydraddoldeb a gwahaniaethu.
Cymerodd cynrychiolwyr cynghreiriau a chymdeithasau chwaraeon amgen ran yn yr ymchwil. Sefydlwyd y rhwydweithiau a'r strwythurau amgen hyn mewn ymateb i wthio i’r cyrion o weithgarwch chwaraeon prif ffrwd lle nad oedd pobl ethnig amrywiol yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu na'u deall. Roedd llawer wedi ymuno â chlybiau gwyn mwyafrifol i ddechrau ond wedi gadael i chwilio am gynrychiolaeth well ar ôl ei chael yn anodd lleisio eu barn a mynegi eu llais.
CYNRYCHIOLAETH: Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym
Casglu Data (SIRC)
Yn ei Arolwg Meincnodi yn 2019, canfu Haysmacintyre mai 4% o aelodau bwrdd 24 Corff Rheoli Cenedlaethol o bob rhan o'r DU oedd o gefndiroedd ethnig amrywiol - llai na thraean eu canran yn y boblogaeth ehangach. Yn 2020, cynhaliodd Perrett Laver arolwg o 125 o sefydliadau chwaraeon oedd yn cael eu cyllido gan Sport England a / neu UK Sport i sefydlu amrywiaeth eu byrddau. Datgelodd y canlyniadau mai 7.9% o’r ymatebwyr oedd yn ‘DLlE’. Er bod Perret Laver yn awgrymu sefyllfa sy'n gwella, mae pobl ethnig amrywiol yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ar fyrddau sefydliadau chwaraeon yn Lloegr a thrwy oblygiad ledled y DU.
Ar draws y gweithlu hyfforddi mewn pêl droed proffesiynol, mae ymchwil wedi canfod bod pobl o grwpiau ethnig amrywiol yn 4.6% o'r gweithlu hyfforddi er eu bod yn 25% o'r sylfaen chwarae a 14% o'r boblogaeth waith ehangach.
Profiad Byw (AKD)
Esboniodd y cyfranogwyr fod cynrychiolaeth wael neu ddim yn bodoli yn niweidiol ar sawl lefel, gan effeithio ar gynnydd a chynnal y perthnasoedd anghyfartal presennol. Mae diffyg modelau rôl amlwg hefyd yn atgyfnerthu stereoteipiau negyddol a'r syniad bod gan gyfranogwyr ethnig amrywiol sgiliau a galluoedd cyfyngedig.
Rhannodd cyfranogwyr ar draws yr holl Wledydd Cartref enghreifftiau o arweinyddiaeth anghynrychioliadol gan arsylwi bod absenoldeb cynrychiolaeth yn arwain at wneud penderfyniadau sy'n annhebygol o fod er budd cymunedau Du ac Asiaidd a chyfranogwyr chwaraeon.
GWEITHLU: Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym
Casglu Data (SIRC)
Ar draws y portffolio o swyddi mewn chwaraeon a fesurir gan godau dosbarthu galwedigaethol safonol, mae pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn cyfrif am 7% o'r gweithlu, sef hanner eu canran yn y boblogaeth sy'n gweithio (14%). Mae'r gynrychiolaeth yn arbennig o isel ar gyfer swyddi dylanwadol Hyfforddwyr Chwaraeon, Arweinwyr a Swyddogion (5%) a Rheolwyr Hamdden a Chwaraeon (6%).
Profiad Byw (AKD)
Adroddodd y cyfranogwyr am orbryder a phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad uniongyrchol i ymddygiadau ac arferion hyfforddi negyddol yn seiliedig ar eu hil. Adroddodd cyfranogwyr ifanc fod agwedd ac ymddygiadau hyfforddwyr yn effeithio ar eu hyder a'u cymhelliant yn y blynyddoedd cynnar. I athletwyr elitaidd a'r rhai ar lwybrau perfformio, roedd agweddau hyfforddi negyddol wedi peri i'r cyfranogwyr adael clybiau neu eu camp yn gyfan gwbl.
Mae eithrio hefyd yn bodoli ar gyfer hyfforddwyr diwylliannol amrywiol a rannodd straeon am amgylcheddau digroeso, gwrthod credu dilysrwydd sgiliau ac arbenigedd, a chyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cynnydd gyrfaol a mynediad i brif swyddi hyfforddi.
GWYBODAETH: Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym
Casglu Data (SIRC)
Mae angen dadansoddiad pellach yn y meysydd a ganlyn:
- Ffynonellau data o ansawdd uchel presennol
- Rhyngweithiad hil, statws economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd
Mae angen gwella manylder y data rhwng ac o fewn gwahanol grwpiau ethnig
Profiad Byw (AKD)
Mae angen ymchwil pellach i brofiadau byw grwpiau ethnig amrywiol, a gynhelir gan weithwyr ymchwil proffesiynol sydd â hygrededd ymhlith y cymunedau hynny, a dealltwriaeth ddilys ohonynt, i lywio a gwella'r hyn mae chwaraeon yn ei gynnig ar hyn o bryd.
BUDDSODDIADAU: Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym
Casglu Data (SIRC)
Wrth ystyried buddsoddiadau i annog pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol i fod yn fwy actif yn gorfforol, mae llwyddiant yn dibynnu ar lawer mwy na natur ymyriad. Mae’r elfennau sylfaenol eraill yn cynnwys: pwy sy'n cyflwyno'r ymyriad a sut mae'n cael ei gyflwyno.
Profiad Byw (AKD)
Mae tystiolaeth yn straeon y cyfranogwyr nad yw mecanweithiau cyllido’n cyrraedd y cymunedau mwyaf anghenus. Adroddwyd ar hyn gan gyfranogwyr a oedd yn cynrychioli sefydliadau llawr gwlad, athletwyr elitaidd a thimau.
Mae cynrychiolaeth wael o gymunedau, grwpiau a chlybiau Du ac Asiaidd mewn strwythurau dyfarnu grantiau. Canfu’r ymchwil fod y cymunedau hyn hefyd yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o strwythurau cefnogi a all helpu i gael gafael ar grantiau a chronfeydd.
Mae sefydliadau'n mabwysiadu dulliau “lliw-ddall” o weithredu sy'n ffafrio sefydliadau sy'n gallu ymdrin â’r broses ymgeisio yn y ffordd orau.
Gallwch ddarllen yr adroddiadau llawn ar Brofiadau Byw a Data Canolfan y Diwydiant Chwaraeon. Sylwer mai dolenni allanol yw’r rhain.