Yn ddiweddar, gofynnodd Chwaraeon Cymru i ymgynghorydd o’n Panel Arbenigwyr Llywodraethu ac Arwain am arfer gorau o fewn cynllunio olyniaeth.
Dyma a rannodd James Allen o Counsel Ltd
Y Bwrdd
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd hyn a’r adnodd diagnostig wedi’u darparu’n bennaf ar gyfer y Bwrdd – gyda’r Cadeirydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb arweiniol am gynllunio olyniaeth (gyda chefnogaeth o bosibl gan Bwyllgor Enwebiadau neu debyg).
Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn swyddogaeth allweddol i unrhyw fwrdd ond yn aml gall gael ei hesgeuluso a gall ddigwydd ar sail adweithiol pan fydd rhywun ar fin gadael, neu wedi gadael eisoes hyd yn oed. Mae golwg fwy rhagweithiol ar gynllunio olyniaeth, adnabod risgiau a’r mathau o sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol yn rhan bwysig o Fwrdd effeithiol.
Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb hefyd i sicrhau iechyd cyffredinol y sefydliad a dylai hefyd fod yn rhan o drafodaethau ynghylch sicrhau bod cynllun olyniaeth yn ei le ar gyfer swyddi staff allweddol (lle bo hynny'n berthnasol). Mae hyn yn mynd i fod yn arbennig o bwysig mewn rhai meysydd o sgiliau arbenigol – er enghraifft diogelu a chyllid.
Dyma rai cwestiynau allweddol i unrhyw Fwrdd eu defnyddio i adlewyrchu a thrafod sut gall ddatblygu cynllun olyniaeth effeithiol:
- Oes gennych chi gofnod cyfredol o holl aelodau presennol y Bwrdd a’u tymhorau? Sut gallwch chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i gael sgyrsiau rheolaidd, agored am gynlluniau ar gyfer y dyfodol?
- Sut mae'r Bwrdd yn defnyddio asesiad sgiliau cyfredol i helpu i ganfod bylchau presennol?
- Pa rôl y mae gwerthusiadau rheolaidd o aelodau’r Bwrdd yn ei chwarae wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol?
- Pa rwydweithiau cyfredol sydd gan y Bwrdd i ddod o hyd i aelodau yn y dyfodol? Sut gall y Bwrdd gyrraedd pobl newydd y tu hwnt i gysylltiadau presennol?
- Sut mae Pwyllgorau'n cael eu defnyddio fel cyfle i ddatblygu darpar ymgeiswyr newydd?
- Sut gall y Bwrdd gysylltu trafodaethau ynghylch cynllunio olyniaeth ag arfer gorau (yn ogystal â gofynion penodol) ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI)?
- Ydi colli aelodau’r Bwrdd a’u sgiliau yn ymddangos ar gofrestr risg y Bwrdd ar hyn o bryd? Pa sgyrsiau mae’r Bwrdd yn eu cael ynghylch cynllunio olyniaeth a’r risgiau y mae hyn yn eu cyflwyno?
- Oes posib trefnu telerau Bwrdd i wneud yn siŵr bod gorgyffwrdd ac na fydd nifer o bobl yn debygol o adael ar yr un pryd?