Skip to main content

Fframwaith symud at gynhwysiant

  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Llywodraethu
  4. Fframwaith symud at gynhwysiant

Partneriaid

Pam y ‘fframwaith’ symud at gynhwysiant?

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan hanfodol o lywodraethu y dylai pob corff fod yn eu cynnwys yn eu strategaeth, ac ar draws eu sefydliad cyfan. Yn flaenorol, roedd Chwaraeon Cymru yn buddsoddi mewn ymgynghorwyr arbenigol i sicrhau bod partneriaid yn cael eu cefnogi i weithio tuag at lefel briodol o’r Safonau Cydraddoldeb. Aseswyd y Safonau’n annibynnol ac roeddent yn cynnwys y lefelau canlynol:

  • Sylfaen
  • Rhagarweiniol
  • Canolraddol
  • Uwch

Mae'r Safonau hyn wedi annog partneriaid, a'r sector, i archwilio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eu sefydliad a gweithio tuag at ddod yn fwy cynhwysol.

Mae Grŵp Cydraddoldeb y Cynghorau Chwaraeon (SCEG)wedi cwblhau adolygiad cynhwysfawr o'r Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon i sicrhau ei bod yn flaengar ac yn addas i'r diben. Comisiynwyd ymgynghorwyr annibynnol i gynnal yr adolygiad hwn a lansiwyd ‘Fframwaith Symud at Gynhwysiant’wedi’i ddiweddaru yn hydref / gaeaf 2023.

Yr ymgynghorwyr annibynnol oedd Sport Structures a ymgynghorodd â'r sector a threialu'r model newydd gyda phartneriaid i gasglu adborth hanfodol i gwblhau cam 3 o'r adolygiad. Mae'r cwmni marchnata o Gymru, Yogi, wedi cwblhau'r gwaith o ailddylunio’r wefan a'r adnodd hunanddiagnostig cysylltiedig.

Yr hyn rydym yn ei wneud a sut byddwn yn cefnogi ein partneriaid:

Mae’r Fframwaith newydd wedi’i gynllunio i symud ymhellach oddi wrth gyflawni ‘safonau’ a thicio bocsys a bydd yn annog partneriaid i weithio tuag at ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy siwrnai o ‘Welliant Parhaus’.

Bydd angen i bartneriaid adolygu eu Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a sefydlu gweithgor cyn defnyddio'r adnodd diagnostig hunanadlewyrchu a'r Fframwaith. Bydd hyn yn sicrhau bod sylfeini digonol yn eu lle i bartneriaid ddatblygu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar draws eu sefydliad. Bydd yr adnodd diagnostig yn mesur cynnydd ar draws 5 ‘piler’ i sicrhau bod y sefydliad cyfan yn gyfrifol am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac nad yw’n gyfrifoldeb un swyddog neu unigolyn. Y 5 piler yw:

  • Arweinyddiaeth
  • Cyfathrebu
  • Diwylliant
  • Profiad
  • Perthnasoedd

Anogir partneriaid i ddefnyddio'r adnodd diagnostig i dynnu sylw at fylchau mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a blaenoriaethu eu meysydd datblygu. Bydd grwpiau cefnogi’n cael eu ffurfio i gymheiriaid gefnogi ei gilydd, bydd mentoriaid yn cael eu darparu, a bydd mentrau arfer da yn cael eu rhannu ar draws y sector. Bydd opsiwn hefyd i sefydliadau sy’n teimlo eu bod yn ‘arwain y sector’ yn y pileri penodol wneud cais am ‘Dathlu Cynhwysiant’ ar ôl ymgysylltu â’r Fframwaith am gyfnod penodol o amser.

Gall partneriaid gael mynediad hefyd at gymorth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant pwrpasol drwy ein ‘panel o arbenigwyr’ sydd newydd ei benodi ac sy’n cael ei reoli drwy’r Tîm Llywodraethu. Crëwyd Cwestiynau Cyffredin yn dilyn y sesiynau briffio i bartneriaid ac maent i'w gweld isod.