Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Partneriaethau Chwaraeon

Partneriaethau Chwaraeon

Nod y Partneriaethau Chwaraeon yw newid y gêm ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan drawsnewid y ffordd y mae chwaraeon cymunedol yn cael eu creu, eu cyflwyno, eu harwain a'u cyllido.

Wedi’u cynllunio i oresgyn anghydraddoldebau parhaus ac ystyfnig o ran cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd y partneriaethau hyn yn helpu i drawsnewid Cymru yn genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.

Beth yw Partneriaeth Chwaraeon?

Mae pum ardal yng Nghymru yn ffurfio Partneriaethau Chwaraeon y genedl. Mae'r partneriaethau hyn yn endidau rhanbarthol newydd sydd wedi'u sefydlu'n bwrpasol a fydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, cynllunio a chomisiynu ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn yr ardal.

Pam fod angen i bethau newid?

Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn genedl actif lle mae gan bawb y cyfle i fwynhau chwaraeon am oes. I rai mae hyn yn wir eisoes, ond er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o bobl, mae eraill yn parhau i fethu â chael mynediad at yr un lefel o gyfleoedd i gymryd rhan a mwynhau bod yn gorfforol actif.

Yng Nghymru, mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol 3 gwaith yr wythnos o leiaf yn cael ei gydnabod fel dangosydd llesiant cenedlaethol. Yn frawychus, mae tua hanner yr holl bobl ifanc sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifoedd ethnig; mwy na hanner yr holl bobl ifanc ag anabledd; bron i 6 o bob 10 person ifanc o'r cymunedau mwyaf difreintiedig; a mwy na hanner yr holl ferched yn parhau i gymryd rhan yn llai aml na hyn.

Fodd bynnag, mae canran syfrdanol o 96% o bobl ifanc wedi dweud yr hoffent wneud mwy o chwaraeon, gan ddangos lefel enfawr o gyfle os yw’r ddarpariaeth chwaraeon yn briodol.

Sut bydd Partneriaethau Chwaraeon yn helpu?

Mae nifer o fanteision posibl i Bartneriaethau Chwaraeon, a fydd yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd yn dibynnu ar bob partneriaeth a beth sydd fwyaf addas ar eu cyfer.

Bydd y Partneriaethau Chwaraeon yn gwneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru.
  • Cynyddu amrywiaeth y partneriaid strategol a'r mecanweithiau darparu yn y rhanbarthau.
  • Ein cynorthwyo ni i sicrhau bod y gefnogaeth a'r cyfleoedd priodol yn eu lle ar gyfer y rhai nad ydynt yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd – gyda ffocws clir ar ddileu rhwystrau i'r rhai sydd angen yr help mwyaf.
  • Ein helpu ni i gymryd camau i ateb y galw uchel gan y rhai sy'n actif ond sydd eisiau gwneud llawer mwy.
  • Galluogi cryfder cyfunol, drwy gyfuno adnoddau, dysgu ac arbenigedd ar draws pob rhanbarth.
  • Rhoi'r gallu i bob rhanbarth dargedu adnoddau tuag at y rhai sydd â'r angen mwyaf.

Ble fydd y Partneriaethau Chwaraeon yn cael eu lleoli?

Dyma bum ardal y Partneriaethau Chwaraeon:

Map yn dangos y pum rhanbarth y Partneriaethau Chwaraeon. Mae Gogledd Cymru yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam. Mae Canolbarth Cymru yn cynnwys Ceredigion a Phowys. Mae Gorllewin Cymru yn cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Canolbarth y De yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae Gwent yn cynnwys Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a Blaenau Gwent.

 

Gogledd Cymru

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, Actif North Wales, yn 2021-22. Fel rhan o’i strategaeth deng mlynedd newydd, lansiwyd ei Chronfa Arloesi ym mis Medi 2023, gan gefnogi prosiectau, mentrau a phartneriaethau a fydd yn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon.

Darllen strategaeth Actif North Wales

Cysylltu ag Actif North Wales

Gorllewin Cymru

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru (PChGC) yn 2023. Bydd PChGC yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant. Mae Dr Sue Barnes (Prif Swyddog Gweithredol Ambiwlans Awyr Cymru) wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd ochr yn ochr â bwrdd amrywiol sy’n seiliedig ar sgiliau. Yn 2024 penodwyd Jamie Rewbridge yn Brif Swyddog Gweithredol a Kate Williams yn Bennaeth Partneriaethau Strategol a Datblygu.

[javascript protected email address]

Canolbarth Cymru

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru (PChCC) yn 2024. Bydd PChCC yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant. Mae Sherrie Woolf wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd ochr yn ochr â bwrdd amrywiol sy’n seiliedig ar sgiliau. Mae Gemma Cutter wedi cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Rhanbarthol y rhanbarth.

[javascript protected email address]

Canolbarth y De

Sefydlwyd Partneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD) yn 2024. Bydd PACD yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant. Mae’r Athro Leigh Robinson wedi cael ei benodi’n Gadeirydd ochr yn ochr â bwrdd amrywiol sy’n seiliedig ar sgiliau. Maent ar hyn o bryd wrthi’n recriwtio i rôl weithredol arweiniol.

Os hoffech chi gysylltu â PACD [javascript protected email address] a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â'r person priodol.

Gwent

Mae partneriaeth chwaraeon ranbarthol yn cael ei datblygu yn y rhanbarth hwn ar hyn o bryd.