Wedi'i sefydlu yn 1928, mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (CBM Cymru) yn un o'r sefydliadau gwaith ieuenctid hynaf yng Nghymru. Mae’n ymdrechu i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn hygyrch i bobl ifanc o bob rhan o Gymru ac yn annog eu twf personol, cymdeithasol ac addysgol. Mae CBM Cymru yn gweithio gyda thua 100 o glybiau sy'n aelodau i gael effaith fawr mewn cymunedau bach. Mae ei glybiau yn glybiau ieuenctid mynediad agored sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwaraeon.
Beth yw prif amcanion Clybiau Bechgyn a Merched Cymru?
Cenhadaeth CBM Cymru yw cynorthwyo gyda datblygiad moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol pobl ifanc, er mwyn sicrhau pontio llyfn i fywyd fel oedolyn.
Eu nod yw cefnogi'r bobl ifanc a'u hanghenion fel maent yn newid yn y cyfnod anodd hwn drwy roi lle diogel iddynt fynd iddo, hyfforddiant a phrosiectau a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu potensial a'r cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd i newid eu bywyd.
Sut mae gwaith Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?
Mae chwaraeon wedi bod yn rhan bwysig o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru ers dros 80 mlynedd ac maent yn parhau i'w defnyddio fel ffordd o ddatblygu pobl ifanc. Mae bod yn actif mewn chwaraeon yn aml yn galluogi pobl ifanc i ennill profiadau newydd, hunanhyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu gwerthfawr.
Maent yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol chwaraeon gyda llawer yn cael eu defnyddio i ddarparu cystadleuaeth tra bod llawer o rai eraill yn cael eu defnyddio i wella datblygiad pobl ifanc.
Mae clybiau ieuenctid mynediad agored CBM Cymru yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd â'u ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd, yn ddieithriad, yn cynnwys llawer o wahanol chwaraeon.
Sut gall Clybiau Bechgyn a Merched Cymru gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?
Yn hanesyddol, mae CBM Cymru wedi cydweithio â llawer o sefydliadau fel Street Games, Sported a Sports Leaders UK i helpu i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Gan weithio gyda darparwyr hyfforddiant, mae CBM Cymru yn cynnig hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid (Lefel 2 a 3), Diogelu, Cymorth Cyntaf, Arweinyddiaeth Chwaraeon a Dyfarniadau Chwaraeon Cyrff Rheoli Cenedlaethol.