Main Content CTA Title

Girlguiding Cymru

Mae Girlguiding Cymru yn elusen sy'n cael ei harwain gan enethod ar gyfer genethod a merched ifanc yng Nghymru. Fel sefydliad dibynadwy, mae’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan roi llais i ferched a llwyfan i gael eu clywed.  Mae’n darparu gwasanaethau ieuenctid strategol mewn cymunedau ledled Cymru drwy amrywiaeth o ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sy'n cefnogi datblygiad a lles ein haelodau ac yn ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Beth yw prif amcanion Girlguiding Cymru?

Ers 1910, mae nodau ac amcanion Girlguiding Cymru wedi parhau’n gyson, sef grymuso genethod a merched ifanc i fod y gorau y gallant fod a darparu sgiliau a chyfleoedd i'w galluogi i wynebu'r heriau maent yn dod ar eu traws wrth dyfu i fyny mewn cymdeithas heddiw.

Mae eu gweledigaeth yn gynhwysol gan ddarparu rhaglen gyffrous, ysgogol, fodern a pherthnasol o weithgareddau i bob merch mewn byd cyfartal lle gall pob merch wneud gwahaniaeth cadarnhaol, bod yn hapus, yn ddiogel a chyflawni ei photensial.

Sut mae gwaith Girlguiding Cymru yn helpu Chwaraeon Cymru i greu Cenedl Actif?

Nod Girlguiding Cymru yw rhoi cymaint o gyfleoedd chwaraeon â phosibl i ferched er mwyn helpu i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Girlguiding Cymru i gynnig cyfleoedd helaeth ac unigryw i'w aelodau gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yng Nghymru.

Mae cydraddoldeb i ferched yn bwysig i Girlguiding Cymru ac mae eisiau i ferched gael yr un cyfleoedd mewn chwaraeon â dynion. Mae’n cydnabod gwerth chwaraeon a pha mor bwysig yw darparu amrywiaeth o brofiadau i'n haelodau ifanc. Mae cyfleoedd arwain yn cael eu creu i’r merched gan alluogi iddynt fod yn addysgwyr chwaraeon, mentoriaid cymheiriaid ac arweinwyr ifanc.

Sut gall Girlguiding Cymru gefnogi’r rhwydwaith ehangach o bartneriaid yn ein Gweledigaeth unedig ar gyfer Chwaraeon?

Er mwyn gwireddu eu gweledigaeth i 'ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched yng Nghymru', mae partneriaethau effeithiol wrth galon cenhadaeth chwaraeon Girlguiding Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyrff Rheoli Cenedlaethol - Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Pêl Rwyd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru – mae Girlguiding Cymru yn helpu i ddarparu hyfforddiant a gweithdai ychwanegol i ferched.

Mae eu rhaglen Addysgwyr Chwaraeon yn cynnig cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Lefel 1, 2 a 3. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a hyder y gall merched eu defnyddio ar eu siwrnai mewn bywyd. Mae cwblhau'r rhaglen nid yn unig yn ennill cymhwyster ond mae hefyd yn sicrhau pwyntiau UCAS i chi, a all helpu gyda gwneud cais am addysg bellach yn y Brifysgol.

Logo Girlguiding Cymru

Esiamplau o waith Girlguiding Cymru       

https://girlguidingcymru.org.uk/blog/2021/2/25/why-its-important-to-champion-womens-football-in-wales

https://girlguidingcymru.org.uk/sports-our-vision

https://girlguidingcymru.org.uk/sportseducators

Cysylltu â Girlguiding Cymru

Gwefan: www.girlguidingcymru.org.uk
E-bost: [javascript protected email address]

Facebook: @GirlguidingCymruWales
Twitter: @GGCymruHQ
Instagram: @girlguidingcymru

Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn asiantaeth…

Darllen Mwy
StreetGames

Mae StreetGames yn ffrwyno pŵer chwaraeon i greu newid…

Darllen Mwy
Yr Urdd

Yr UrddMae gan yr Urdd 55,000 o aelodau rhwng 3 a…

Darllen Mwy
Y Bartneriaeth Awyr Agored

Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi…

Darllen Mwy
ColegauCymru

Mae ColegauCymru yn elusen addysg sy'n hyrwyddo budd…

Darllen Mwy
Girlguiding Cymru

Mae Girlguiding Cymru yn elusen sy'n cael ei harwain…

Darllen Mwy
BME Sport Cymru (CGGC)

Mae BME Sport Cymru yn bartneriaeth strategol rhwng…

Darllen Mwy
Sefydliad Dawns UDOIT!

Sefydlwyd Sefydliad Dawns UDOIT! yn 2014 ac mae’n…

Darllen Mwy
Youth Sport Trust

Mae’r Youth Sport Trust yn elusen sy'n teimlo’n angerddol…

Darllen Mwy
Sports Leaders UK

Mae Sports Leaders UK (SLUK) yn darparu dyfarniadau…

Darllen Mwy
Sefydliad Sported

Sefydliad Sported yw rhwydwaith mwyaf y DU o grwpiau…

Darllen Mwy
Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Wedi'i sefydlu yn 1928, mae Clybiau Bechgyn a Merched…

Darllen Mwy