Llongyfarchiadau!
Rydych chi wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais am grant o Gronfa Cymru Actif. Gobeithio y bydd yn cyfrannu’n dda at eich helpu i symud ymlaen gyda phrosiect newydd, cyffrous.
Mae Cronfa Cymru Actif yn cefnogi prosiectau gwych o fewn clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru a dim ond diolch i'r Loteri Genedlaethol y mae hyn yn bosibl.
Mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos at achosion da diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae’n bwysig ein bod yn tynnu sylw at ba mor ddiolchgar ydyn ni am eu help, fel eu bod yn parhau i’ch cefnogi chi yn y dyfodol.
Byddem wrth ein bodd pe baech yn llunio negeseuon am eich grant i godi ymwybyddiaeth o sut mae Cronfa Cymru Actif yn helpu eich clwb, rhoi gwybod i glybiau eraill sut gallai eu helpu, a diolch i’r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.
Isod, fe welwch chi nifer o adnoddau a fydd yn eich helpu i ddweud diolch, gan gynnwys:
- Syniadau ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw.
- Datganiad i'r wasg neu ar gyfer eich gwefan.
- Teils cyfryngau cymdeithasol y mae posib eu lawrlwytho.
Os oes arnoch chi angen rhagor o gyngor, anfonwch e-bost atom ni ar: [javascript protected email address]
Enghreifftiau o Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Fe welwch chi bedwar o deils cymdeithasol y mae posib eu lawrlwytho isod.
Mae posib defnyddio’r teils yma i ledaenu’r newyddion am eich cyllid ar draws eich platfformau cymdeithasol a dweud diolch yn fawr wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.
Peidiwch ag anghofio ein tagio ni @sportwales a @lottogoodcauses a defnyddio’r hashnodau: #CymruActif, #DiolchIChi, #LoteriGenedlaethol
Isod mae rhai negeseuon a awgrymir y gallech fod eisiau eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.
Neges cyfryngau cymdeithasol #1
Bydd cronfa #CymruActif @sportwales/@chwaraeon_cymru yn ein helpu ni i symud ymlaen â’n prosiect nesaf. Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi
Gwybodaeth am sut gallai eich clwb elwa o arian y loteri hefyd yn www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif
Neges cyfryngau cymdeithasol #2
Bydd cronfa #CymruActif @sportwales/@chwaraeon_cymru yn helpu i gael mwy o bobl i fod yn actif yn ein cymuned ni. Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi
Mwy o wybodaeth: www.chwaraeon.cymru
Neges cyfryngau cymdeithasol #3
Mae cronfa #CymruActif @sportwales/@chwaraeon_cymru yn ein helpu ni i ddod â'n syniad cyffrous yn fyw! Diolch i chwaraewyr @LottoGoodCauses am eu cefnogaeth! #DiolchIChi
Mwy o wybodaeth: www.chwaraeon.cymru
Enghraifft o Ddatganiad i'r Wasg
Dyma dempled ysgrifenedig y gallwch ei olygu i gynnwys manylion am eich cyllid fel eich bod, gobeithio, yn gallu hawlio’r penawdau yn eich ardal leol. Anfonwch e-bost (gyda llun os yw hynny’n bosibl) at eich papur newydd lleol, gwefan neu orsaf radio. Gan fod newyddiadurwyr yn derbyn nifer o ddatganiadau i'r cyfryngau bob dydd, does dim byd o'i le gyda dilyn hyn gyda galwad ffôn gyflym hefyd!
Teitl:
(Nodwch enw’r clwb / sefydliad) wedi derbyn cyllid ‘Cymru Actif’.
Prif Gorff:
Mae (Nodwch enw’r clwb / sefydliad) wedi derbyn cyfran o arian y Loteri Genedlaethol sydd wedi'i anelu at gefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Dyfarnwyd (nodwch y swm) i (Nodwch enw’r clwb / sefydliad) gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i’w helpu (Nodwch y manylion – gan egluro’r prosiect).
Drwy ddosbarthu arian gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau i glybiau i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i helpu i gadw pobl yn cymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau i’r dyfodol.
Dywedodd (Nodwch enw llefarydd y clwb / sefydliad): “Bydd y cyllid yma’n gwneud byd o wahaniaeth i’n clwb ni. Rydyn ni’n gobeithio ei ddefnyddio i sicrhau bod ein clwb (yn gallu bod yn fwy cynaliadwy / mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn ein cymuned / bod yn fwy arloesol) a fydd yn sicr o ddenu mwy o bobl i fwynhau’r manteision chwaraeon y mae ein haelodau presennol yn eu mwynhau eisoes.”
I gael gwybod mwy am Gronfa Cymru Actif, ewch i www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif
Diwedd