Amcan 1: Ymgorffori gwerthoedd cydraddoldeb yn niwylliant sefydliadol Chwaraeon Cymru
Mae diwylliant cadarn o gydraddoldeb yn sicrhau triniaeth deg i’r holl staff, yn meithrin ymdeimlad o berthyn, ac yn denu a chadw talent amrywiol. Mae’n cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gymdeithas deg a chynhwysol ac â’r nod Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru fwy cyfartal.
Camau Gweithredu:
Tymor byr (6 mis i 18 mis):
- Meithrin amgylchedd croesawgar, diogel a chynhwysol o fewn ein sefydliad, dathlu amrywiaeth a hyrwyddo rhyngweithio parchus.
- Sicrhau bod ein hadeiladau yn gwbl hygyrch ac yn diwallu anghenion ein pobl fel maent yn newid, ac anghenion y rhai sy'n defnyddio ein cyfleusterau, gan roi ystyriaeth briodol i'r Model Cymdeithasol o anabledd.
- Parhau i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu cynhwysfawr ar gyfer ein staff i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o werthoedd cydraddoldeb.
- Sicrhau bod ein deunyddiau hyfforddi, ein sianeli cyfathrebu, a’n digwyddiadau yn hygyrch i bob unigolyn.
- Darparu profiadau gyrfa ar y safle i blant mewn ysgolion o statws economaidd-gymdeithasol is.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddenu mwy o geisiadau amrywiol ar gyfer aelodau newydd o'n Bwrdd.
- Cynnal hunanasesiad gan ddefnyddio'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant a nodi bylchau a chyfleoedd i gyflymu cynnydd.
- Cynnal adolygiad beirniadol o'n dull Asesu Effaith i sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag unrhyw arferion newydd ac arloesol.
- Parhau i greu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu, gan greu cyfleoedd cadarnhaol i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a dangynrychiolir.
- Darparu cefnogaeth a dealltwriaeth i bobl drwy gydol y cylch iechyd y mislif.
Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):
- Parhau i greu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu, gan greu cyfleoedd cadarnhaol i bobl sydd â nodweddion a dangynrychiolir.
- Datblygu rhaglen adnabod ymddygiadau i ddathlu ac ymgorffori ein gwerthoedd ymhellach.
- Sefydlu rhaglenni mentora cymheiriaid ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu.
Pwrpas:
- Cydnabod er ein bod wedi gwneud cynnydd o ran creu mwy o amrywiaeth yn ein gweithlu, bod angen i ni wneud mwy.
- Yr angen am feithrin ymdeimlad o berthyn o fewn Chwaraeon Cymru lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi am eu doniau a'u gwybodaeth drwy brofiad byw.
Dolen i’n Bwriad Strategol
- Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon
Monitro Cynnydd
- Data amrywiaeth y gweithlu a recriwtio (Nod: cynyddu amrywiaeth y gweithlu ac ymgeiswyr i Chwaraeon Cymru)
- Hyfforddiant (Nod: datblygu casgliad cynhwysfawr o gynnwys hyfforddiant hygyrch a sicrhau’r cyfraddau cwblhau gorau posibl ar gyfer unrhyw hyfforddiant gorfodol)
- Rhoi gwybod am achosion o wahaniaethu neu ragfarn (Nod: lleihau / dileu gweithredoedd o wahaniaethu a hefyd meithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo eu bod yn gallu herio a / neu roi gwybod am ddigwyddiadau pan fyddant yn dyst iddynt)
- Archwiliadau o'n cyfleusterau (Nod: sicrhau bod ein cyfleusterau'n gwbl hygyrch)
- Arolygon ymgysylltu â staff (Nod: ymgorffori diwylliant sefydliadol cynhwysol o fewn Chwaraeon Cymru gyda lefelau uchel o ymgysylltu â staff)
Cyd-fynd â chyd-destun deddfwriaethol a pholisi
Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru 2023-2026 yn nodi “byddwn yn gweithio i greu Cymru fwy cynhwysol a theg, lle mae gan bawb gyfle i ffynnu”. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o greu gweithle mwy cynhwysol.
Mae Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol 2021-2026 Llywodraeth Cymru yn nodi “byddwn yn gweithio i greu Cymru fwy cyfiawn a chynhwysol, lle mae gan bawb gyfle cyfartal i lwyddo”. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o greu cymdeithas fwy cynhwysol.
Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymhwyso’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Amcan 2: Dileu bylchau cyflog
Mae bylchau cyflog sy’n seiliedig ar nodweddion gwarchodedig yn creu annhegwch ac yn rhwystro cadw talent. Mae dileu bylchau cyflog yn cryfhau ymrwymiad Chwaraeon Cymru i gydraddoldeb ac yn gosod esiampl ar gyfer y sector chwaraeon ehangach.
Mae'r camau gweithredu isod (ac o dan amcan 1) yn ymgorffori ein Cynllun Gweithredu Tâl Rhywedd.
Camau Gweithredu:
Tymor byr (6 mis i 18 mis):
- Cynnal archwiliadau bwlch cyflog rheolaidd wedi'u dadgyfuno yn ôl nodweddion gwarchodedig.
- Parhau i dalu'r Cyflog Byw Real.
- Mynd ati’n gadarnhaol i annog ymgeiswyr benywaidd, lleiafrifoedd ethnig ac anabl ar gyfer swyddi arweinyddiaeth uwch.
Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):
- Archwilio adroddiadau am fylchau cyflog ethnigrwydd / anabledd / cyfeiriadedd rhywiol ochr yn ochr ag adroddiadau rhywedd.
- Cynnig cyfleoedd mentora wedi'u targedu ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Cynllunio cynnydd ac olyniaeth ar draws cyfarwyddiaethau gyda ffocws ar lif o dalent amrywiol.
- Rhaglen datblygu arweinyddiaeth fenywaidd / Cael gwared ar unrhyw rwystrau i annog ymgeiswyr benywaidd i gymryd rhan mewn rhaglenni datblygu arweinyddiaeth (yn dibynnu ar ganfyddiadau’r camau gweithredu tymor byr).
- Gweithredu ymyriadau wedi'u targedu i gau bylchau cyflog a nodwyd.
Pwrpas:
- Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a adroddwyd gan Chwaraeon Cymru ar 31 Mawrth 2023 oedd 7%. Er bod hyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i ddileu'r bwlch hwn.
- Mae data'n dangos bod bylchau cyflog sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol, er nad yw'r wybodaeth hon yn bodloni'r lefelau adrodd ystadegol gofynnol eto.
Dolen i’n Bwriad Strategol:
- Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
- Tymor hir
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
Monitro Cynnydd
- Adroddiad blynyddol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (Nod: dileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a nodwyd)
- Data amrywiaeth y gweithlu gan gynnwys ar lefel arweinyddiaeth (Nod: cyflawni gweithlu mwy amrywiol ar draws Chwaraeon Cymru)
- Data bwlch cyflog wedi'i ddadansoddi yn ôl nodweddion gwarchodedig (Nod: dileu bylchau cyflog ar draws nodweddion gwarchodedig)
Cyd-fynd â chyd-destun deddfwriaethol a pholisi
Mae Cynllun Gweithredu Cyflog Teg i Ferched yng Nghymru 2022-2025 Llywodraeth Cymru yn nodi “byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod merched yn cael eu talu’n deg a bod bylchau cyflog yn cael eu cau”. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Amcan 3: Ymgorffori caffael cymdeithasol gyfrifol yn Chwaraeon Cymru
Mae integreiddio ystyriaethau cyfrifoldeb cymdeithasol yn rhan o gaffael yn meithrin effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
Camau Gweithredu:
Tymor byr (6 mis i 18 mis):
- Adolygu ein prosesau a'n gweithdrefnau caffael i'w gwneud yn haws i fusnesau bach weithio gyda ni.
- Datblygu Strategaeth Gaffael gyffredinol sy'n ymgorffori ystyriaeth i werth cymdeithasol a chynaliadwyedd.
- Hyfforddi staff ar y dull caffael newydd (os yw'r fframwaith presennol eisoes wedi'i ddatblygu).
- Cydweithredu â sefydliadau partner fel WRAP Cymru i rannu arferion gorau a nodi arferion da sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwerth cymdeithasol a chynaliadwyedd.
Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):
- Rhoi gweithdrefnau symlach ar waith a mecanweithiau cefnogi i fusnesau bach gymryd rhan ym mhrosesau caffael Chwaraeon Cymru.
- Monitro effaith mentrau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ar werth cymdeithasol, cynaliadwyedd ac ymgysylltu â busnesau bach.
Pwrpas:
- Rydym eisiau bod yn batrwm o sefydliad ar gyfer mabwysiadu dull cymdeithasol gyfrifol o weithredu wrth gaffael, gan ddefnyddio ein dylanwad i wella lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru.
Dolen i’n Bwriad Strategol:
- Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
Monitro Cynnydd
- Cofrestr Contractau (Nod: mwy o dryloywder o ran gweithgarwch caffael)
- Data am gadwyni cyflenwi, gan gynnwys dyfarniadau contract ‘lleol’ a gwariant BBaCh (Nod: cefnogi dull economi gylchol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol)
- Allyriadau carbon a adroddwyd (Nod: llai o allyriadau carbon).
Cyd-fynd â chyd-destun deddfwriaethol a pholisi
Mae Deddf Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Chwaraeon Cymru roi lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth galon gweithgarwch caffael.
Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru 2023-2026 yn nodi “byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru yr wybodaeth a’r sgiliau i roi egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol ar waith.” Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau cydraddoldeb a hawliau dynol.
Amcan 4: Meithrin diwylliant o welliant parhaus o fewn Chwaraeon Cymru a gyda sefydliadau partner
Mae diwylliant o welliant parhaus yn sicrhau addasu i anghenion sy’n newid, yn cofleidio arloesi, ac yn ysgogi rhagoriaeth wrth gyflawni amcanion strategol. Mae'n cyd-fynd â ffocws Llywodraeth Cymru ar ragoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a dull y Fframwaith Symud at Gynhwysiant o hunanadlewyrchu a gwelliant parhaus.
Camau Gweithredu:
Tymor byr (6 mis i 18 mis):
- Cynnal profion defnyddwyr trylwyr o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol i sicrhau cynhwysiant a hygyrchedd i bob person ifanc.
- Defnyddio data a gwybodaeth o arolygon staff i nodi meysydd ar unwaith i'w gwella ac addasiadau i wasanaethau.
- Gweithredu'r hyn a ddysgwyd o'n hadolygiad o'r dull buddsoddi cymunedol i sicrhau bod ein proses ar gyfer derbyn a monitro cyllid yn hygyrch i bob cymuned.
- Adolygu effaith newidiadau i'r model buddsoddi ar bartneriaid i sicrhau bod y canlyniad a fwriedir o fynd i'r afael â bylchau cyfranogiad mewn cymunedau sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn gwneud cynnydd.
- Datblygu Fframwaith Gallu diwygiedig, gan gefnogi gwelliant parhaus sefydliadau partner fel eu bod yn gynaliadwy ac yn barod i gyflawni eu potensial. Bydd hyn yn cynnwys ystyried amrywiaeth a diwylliannau'r bwrdd.
- Ystyried yr hyn a ddysgwyd o weithredu gan bartneriaid o'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant.
Tymor canolig / tymor hir (18 mis i 4 blynedd):
- Meithrin diwylliant o gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth i sbarduno cynnydd tuag at degwch a chynhwysiant.
- Defnyddio ein tîm dylunio gwasanaethau i fabwysiadu dull seiliedig ar anghenion defnyddwyr o weithredu gyda phrosiectau allweddol a meysydd o newid, yn enwedig yn y gofod digidol.
- Sefydlu system ar gyfer tracio effaith dymor hir newidiadau ac ymyriadau ar fynd i'r afael â nodau tegwch a hygyrchedd.
Pwrpas:
- Rydym yn sefydliad sy'n dysgu ac wedi ymrwymo i ymateb mewn ffordd hyblyg i anghenion ein staff a phobl Cymru.
- Rydym wedi ymrwymo i'r Fframwaith Symud at Gynhwysiant, sy'n annog datblygu arfer cynhwysol drwy hunanadlewyrchu a gwelliant parhaus.
- Rydym eisiau manteisio i’r eithaf ar effaith popeth rydym yn ei wneud i gyflawni'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.
Dolen i’n Bwriad Strategol:
- Dod â phobl at ei gilydd ar gyfer y tymor hir
- Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Bod yn sefydliad a werthfawrogir yn fawr
Monitro Cynnydd
- Sefydliadau newydd a gwahanol / ceisiadau am gyllid (Nod: cynyddu ein cyrhaeddiad a buddsoddi mewn sefydliadau mwy amrywiol nad ydynt fel arfer wedi cysylltu â ni am gyllid)
- Cyfraddau cyfranogiad (Nod: lleihau bylchau cyfranogiad fel y nodwyd mewn arolygon cenedlaethol perthnasol)
- Twf o ran amrywiaeth a chynhwysiant mewn swyddi arwain a gweithlu'r sector chwaraeon yng Nghymru.
Cyd-fynd â Llywodraeth Cymru
Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.