Beth ydym ni wedi'i wneud hyd yma
Mae ein Polisi Amgylcheddol wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, gan nodi ein hymrwymiad i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy ailgylchu, lleihau ynni ac ystyried effeithiau amgylcheddol penderfyniadau prynu.
Mae prosiectau penodol a gynhaliwyd i leihau allyriadau carbon o weithrediadau ac i warchod neu wella bioamrywiaeth yn cynnwys y canlynol:
- Mae’r goleuadau ar draws ein stad wedi’u huwchraddio i LEDs ynni isel fel rhan o raglen adnewyddu dreigl. Ar hyn o bryd mae tua 80% o'n gosodiadau golau wedi'u newid i LED.
- Mae paneli solar wedi’u gosod ar y to ym Mhlas Menai yn 2020 a 2021, gyda dwy res yn gwneud cyfanswm o 100kW bellach wedi’u gosod. Mae'r rhain yn cynhyrchu trydan ar gyfer y safle, gan leihau'r ddibyniaeth ar y grid trydan a thorri costau rhedeg.
- Yn fwy diweddar, mae’r boeleri olew ym Mhlas Menai wedi’u symud, a chyfuniad o bympiau gwres ffynhonnell daear a ffynhonnell aer wedi’u gosod yn eu lle. Daeth y rhain yn weithredol yn 2023, gan leihau ein hallyriadau o danwyddau ffosil.
- Mae ailgylchu wedi’i hyrwyddo’n fawr ar ein safleoedd ni, yn enwedig ym mwytai a chaffis y staff.
- Mae gardd flodau gwyllt wedi’i sefydlu ger y cae rygbi / pêl droed glaswellt yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd.
- Mae’r defnydd o blaladdwyr wedi’i leihau’n sylweddol er mwyn diogelu’r amgylchedd.
- Mae Chwaraeon Cymru wedi cefnogi ariannu bwïau uwchsonig i reoli algâu gwyrddlas heb gemegau niweidiol yn Sir y Fflint.
- Mae’r Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai yn cynnal nifer o gyrsiau addysg amgylcheddol ar Gulfor Menai. Mae coetir sy’n cael ei reoli wedi cael ei blannu ar y safle ac mae dwsin o focsys adar yn eu lle i ddenu rhywogaethau brodorol.
- Mae’r trac sgiliau beicio mynydd ym Mhlas Menai wedi’i hen sefydlu gyda blodau gwyllt i annog gwenyn a glöynnod byw. Mae’r torri gwair yn yr ardal hon yn cael ei gadw i'r lleiafswm sydd ei angen hefyd, i alluogi beicwyr i feicio’n ddiogel ar y trac.
- Mae rhaglen ysgolion Plas Menai yn cynnwys cyfle i blant a phobl ifanc gynorthwyo gyda glanhau traethau, gan godi ymwybyddiaeth o effaith llygredd a gwastraff.
- Wrth ddatblygu ein Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol, rydym wedi dechrau ymgysylltu â phartneriaid i ddeall anghenion uniongyrchol y sector chwaraeon. Bydd hyn yn ei dro yn sail i’n cynlluniau gweithredu graddol. Rydym hefyd wedi symud ymlaen gyda nifer o gyfleoedd cydweithredol, gan ymgysylltu â chyrff eraill yn sector chwaraeon y DU, dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol a Chyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn eisoes yn ein helpu ni i ddiwallu anghenion y sector yn well.
- Rydym yn adrodd ar ein hôl troed carbon i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Rydym wedi ymgysylltu ag is-adran Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru i helpu i wella manwl gywirdeb ein hadroddiadau. Ceir rhagor o fanylion am ein heffaith amgylcheddol yn ein Hadroddiad Blynyddol.
Ein Llinell Sylfaen
Cyfrif ein hôl troed carbon sefydliadol a deall y lleoliadau lle ceir llawer o allyriadau allweddol yw'r cam cyntaf i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Rydym wedi gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Garbon i gyfrifo ein hôl troed carbon ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 gan ddefnyddio’r fethodoleg Protocol Nwyon Tŷ Gwydr.