Llwyfan Rhyngwladol
Mae Cytundeb Paris yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol ar newid hinsawdd. Fe’i mabwysiadwyd gan 196 o Bleidiau yn COP 21 ym Mharis, ar 12 Rhagfyr 2015 a daeth i rym ar 4 Tachwedd 2016.
Ei nod yw cyfyngu ar gynhesu byd-eang i ymhell o dan 2, i 1.5 gradd Celsiws os yn bosib, o gymharu â lefelau cyn-ddiwydiannol.
Er mwyn cyrraedd y nod tymheredd hirdymor hwn, mae’r gwledydd yn anelu at gyrraedd uchafbwynt byd-eang o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr cyn gynted â phosibl er mwyn cyflawni byd niwtral o ran hinsawdd erbyn canol y ganrif.
Canolbwyntiodd Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 y Cenhedloedd Unedig ym Montreal ar gadwraeth ac ymdrechion i warchod bioamrywiaeth. Y canlyniad oedd ymrwymiad byd-eang i warchod traean o'r blaned ar gyfer byd natur erbyn 2030 yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd 50%.
Llywodraeth y DU
Yn 2019, diwygiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 i ymrwymo’r DU i gyflawni sero net erbyn 2050, gan wella ar y targed blaenorol o ostyngiad o 80% erbyn yr amser hwn. Mae cyllidebau carbon pum mlynedd wedi'u hymgorffori yn y gyfraith ac maent yn rhwymol yn gyfreithiol eu natur. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, corff annibynnol, yn adrodd ar gynnydd i’r Senedd.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu fframwaith deddfwriaethol a pholisi sy’n galluogi ac yn ysgogi camau gweithredu yngylch y newid yn yr hinsawdd, gan ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.
Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 saith nod llesiant yn gyfraith ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyflawni datblygu cynaliadwy (a ddiffinnir fel y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru). Mae’r nodau Llesiant yn cynnwys gofyniad i weithio tuag at y canlynol:
- “Cymru Sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang,” cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud y fath beth gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
- “Cymru Gydnerth,” cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau gweithredol iach sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid.
Yn bwysig, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fabwysiadu pum ffordd o weithio ac mae pob un ohonynt yn berthnasol i gynaliadwyedd amgylcheddol.