Effaith Fyd-eang Newid Hinsawdd
Ceir consensws gwleidyddol byd-eang ein bod yn profi argyfwng hinsawdd, ac mae angen brys am ffrwyno allyriadau carbon er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf cynhesu byd-eang. Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (âIPCCâ) ywâr corff Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd i asesuâr wyddoniaeth syân ymwneud â newid hinsawdd. Rhyddhaodd yr IPCC adroddiad1 ym mis Mawrth 2022, yn mynegi pryder cynyddol am âffenestr syân cauân gyflymâ o amser i weithredu yngylch yr argyfwng hinsawdd.