Safonau cynnwys
Mae’r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i bob deunydd rydych yn ei gyfrannu at ein safle (Cyfraniad), ac unrhyw wasanaethau rhyngweithiol cysylltiedig ag ef.
Rhaid cydymffurfio â’r Safonau Cymwys mewn ysbryd yn ogystal ag i’r llythyren. Mae’r safonau’n berthnasol i bob rhan o unrhyw Gyfraniad ac i’r cyfraniad yn ei gyfanrwydd.
Bydd Cyngor Chwaraeon Cymru yn penderfynu, yn unol â’i ddisgresiwn, a yw Cyfraniad yn mynd yn groes i’r Safonau Cynnwys.
Rhaid i Gyfraniad fod fel a ganlyn:
- Bod yn fanwl gywir (os yw’n datgan ffeithiau).
- Bod yn ddidwyll (os yw’n datgan barn).
- Cydymffurfio â’r gyfraith berthnasol yng Nghymru a Lloegr ac yn unrhyw wlad lle mae’n cael ei gyflwyno.
Ni ddylai Cyfraniad fod fel a ganlyn:
- Bod yn ddifenwol tuag at unrhyw berson.
- Bod yn anweddus, tramgwyddol, cas neu ymfflamychol.
- Hybu deunydd hynod rywiol.
- Hybu trais.
- Hybu gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu oedran.
- Torri unrhyw reolau hawlfraint, bas data neu fasnachnod sy’n eiddo i unrhyw berson arall.
- Bod yn debygol o dwyllo unrhyw berson.
- Mynd yn groes i ddyletswydd gyfreithiol sy’n ddyledus i drydydd parti, fel dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd o hyder.
- Hybu unrhyw weithgarwch anghyfreithlon.
- Arwain at ddirmyg llys.
- Bygwth, cam-drin neu ymyrryd â phreifatrwydd person arall, neu achosi annifyrrwch, anhwylustod neu bryder diangen.
- Bod yn debygol o aflonyddu, creu embaras, dychryn, cythruddo unrhyw berson arall neu ei wneud yn ddigalon.
- Dynwared unrhyw berson, neu gamgynrychioli hunaniaeth neu aelodaeth gydag unrhyw berson.
- Rhoi’r argraff bod y Cyfraniad yn deillio o Gyngor Chwaraeon Cymru os nad dyma’r achos.
- Eirioli, hybu neu annog unrhyw barti i gyflawni, neu gynorthwyo gydag, unrhyw weithred droseddol neu anghyfreithlon fel (esiampl yn unig) ymyrryd â hawlfraint neu gamddefnydd o gyfrifiadur.
- Cynnwys datganiad a gwybod neu gredu, neu fod â sail resymol i gredu, y bydd aelodau’r cyhoedd a fydd yn gweld y datganiad pan gaiff ei gyhoeddi’n debygol o ddeall y datganiad fel anogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol neu gymhelliad arall i gomisiynu, paratoi neu symbylu gweithredoedd terfysgol.
- Cynnwys unrhyw hysbysebion neu hybu unrhyw wasanaethau neu ddolenni gwe i safleoedd eraill.
Mynd yn groes i’r polisi hwn
Pan rydym yn credu bod rhywun wedi mynd yn groes i’r polisi defnydd derbyniol hwn, efallai y byddwn yn gweithredu fel rydym yn credu sy’n briodol.
Mae methu cydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn golygu eich bod yn mynd yn sylfaenol groes i’r telerau defnydd sy’n rhoi caniatâd i chi ddefnyddio ein safle, a gall arwain at weithredu pob un neu rai o’r camau canlynol:
- Dileu eich hawl i ddefnyddio ein safle ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
- Dileu unrhyw Gyfraniad sydd wedi’i uwchlwytho gennych chi i’n safle ar unwaith, dros dro neu’n barhaol.
- Rhoi rhybudd i chi.
- Gweithrediadau cyfreithiol yn eich erbyn chi i ad-dalu’r holl gostau ar sail indemniad (gan gynnnwys costau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) o ganlyniad i fynd yn groes i’r polisi.
- Gweithredu cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
- Datgelu gwybodaeth o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith fel rydym yn teimlo sy’n rhesymol angenrheidiol neu fel sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith.
Rydym yn eithrio ein hatebolrwydd am ein holl weithredu fel ymateb i fynd yn groes i’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r camau gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith yn gyfyngedig efallai i’r rhai a ddisgrifir uchod ac efallai y byddwn yn gweithredu mewn ffordd arall, fel y gwelir yn rhesymol briodol.
Cyfreithiau pa wlad sy’n berthnasol i unrhyw anghydfod?
Os ydych chi’n ddefnyddiwr, sylwer bod telerau’r polisi hwn, ei gynnwys a’i ffurfio’n cael eu llywodraethu gan gyfraith Loegr. Rydych chi a ni’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth eithriol yn y cyswllt hwn, oni bai eich bod yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ac wedyn gallwch ddwyn gweithrediadau yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ddwyn gweithrediadau yn yr Alban.
Os ydych chi’n fusnes, llywodraethir telerau’r polisi hwn, ei gynnwys a’i ffurfio (ac unrhyw anghydfod neu hawliadau anghytundebol) gan gyfraith Loegr. Rydym fel dwy ochr yn cytuno i awdurdodaeth eithriol llysoedd Cymru a Lloegr.