Gwybodaeth Preifatrwydd Chwaraeon Cymru
Yn Weithredol O 03/02/2020
Crynodeb o’n Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol. Rydym eisiau rhannu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer unrhyw rai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Mae’r polisi hwn (ynghyd â thelerau defnydd ein gwefan, ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddynt) yn datgan y sail a ddefnyddir gennym ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol rydym yn eu casglu gennych chi, neu y byddwch yn eu darparu i ni.
Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein harferion ynghylch eich data personol a sut byddwn yn eu prosesu.
Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â’r wefan hon), rydych yn derbyn ac yn rhoi eich caniatâd i’r arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn.
At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ((EU) 2016/679) (GDPR), y rheolydd data ywCYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru: Z5769715
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn wahanol, yn seiliedig ar sut rydym yn gweithio gyda chi. Cewch ragor o fanylion am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ym mhob sefyllfa drwy ddilyn y dolenni isod