Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Strategaeth Chwaraeon Cymru

Strategaeth Chwaraeon Cymru

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Crëwyd y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yn dilyn sgwrs genedlaethol fywiog gyda phobl ym mhob rhan o’r wlad.

Nod

Gweledigaeth i bawb: Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon drwy gydol eu hoes.

Cenhadaeth i bawb: Cyfleu manteision chwaraeon i bawb.

Beth mae chwaraeon yn ei olygu i chi

P’un ai a ydych chi’n cymryd rhan, yn cefnogi, yn cyflawni neu'n llwyddo, dyma beth mae chwaraeon yn ei olygu i chi. Yn eich geiriau chi.

Tair menyw hŷn mewn bibiau yn gwneud y pump uchaf wrth chwarae pêl-droed.

Gyda'n gilydd

“Dwi wir yn mwynhau dod i’r clwb a gwneud llawer o ffrindiau newydd, mae wedi rhoi teimlad o berthyn gwirioneddol i mi.”

Tair merch ifanc yn pasio pêl rygbi o gwmpas mewn ardal gymnasteg.

Diogel

“Yn bennaf oll, mae’n golygu gwneud yn siŵr bod pawb sy'n cymryd rhan yn ddiogel, yn gorfforol ac yn seicolegol.  Mae pob hyfforddwr yn dilyn hyfforddiant, ac fe fyddwn ni’n cefnogi ein gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y lleoliad yma yn rhywle lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus.”

Dwy ferch ysgol gyda'u bodiau i fyny.

Arwain gan anghenion

“Mae ein ffordd o weithio’n canolbwyntio ar y plentyn i raddau helaeth – rydyn ni’n gwrando ar y disgyblion, ac rydyn ni’n ymateb i’r hyn maen nhw ei eisiau a’i angen. Maen nhw wir yn llywio’r sesiynau a’n cynlluniau ni.”

Grŵp o Lysgenhadon Ifanc yn gwenu â'u breichiau o gwmpas ei gilydd.

Twf

“Maen nhw’n cyfarfod ffrindiau tebyg iddyn nhw eu hunain ac yn dechrau datblygu eu sgiliau a meddwl alla i wneud hyn, mae gen i rywbeth i’w ddangos, dyma’r sgiliau sydd gen i.”

Golygfa o'r awyr o Glwb Criced Tŷ-du gyda glaswellt gwyrdd toreithiog.

Cynaliadwy

“Rydyn ni’n gwneud newidiadau o gwmpas y clwb er mwyn defnyddio ynni'n well, gwneud ein rhan i’r amgylchedd ac arbed arian, sy'n golygu ein bod ni’n gallu ei fuddsoddi yn rhywle arall – mae'n helpu i ddiogelu ein dyfodol ychydig bach mwy.”

Mae merch mewn cadair olwyn yn rhoi pump uchel i fachgen wrth ddawnsio.

Cynhwysol

“Unrhyw un sy’n dod drwy’r drws - anabl, ddim yn anabl, hen, ifanc. Croesawu pawb, a chynnwys pawb. Rydyn ni’n cynnal sesiwn, a fyddai’r plant sy’n dod yma ddim yn cael cyfle i fod yn rhan o wers brif ffrwd fel arfer. Mae’n cael ei deilwra i’w hanghenion nhw a wir yn helpu pobl i fynd allan a bod yn actif.”

Dwy ferch ysgol yn gwenu, un yn dal raced tennis.

Mwynhad

“Disgyblion nad ydyn ni erioed wedi eu gweld o’r blaen - wnaethon ni erioed feddwl y bydden ni’n eu gweld nhw ar ôl ysgol - maen nhw'n dod aton ni’n hapus, ac maen nhw'n gadael yn hapusach hyd yn oed.”

Grŵp o blant ac oedolion mewn safiad taekwondo.

Pawb

“Gall pobl sydd ddim yn siarad Saesneg ddod yma a mwynhau’r chwaraeon. Mae gennym hyfforddwyr sy'n siarad mwy nag un iaith er mwyn i ni allu darparu ar gyfer y gwahanol gymunedau lleol.”

Manteision chwaraeon

Cenedl gydag iechyd meddwl da

Llai o risg o ddementia ac iselder clinigol a llai o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl – dim ond rhai o’r manteision y mae chwaraeon yn eu cynnig i les meddyliol y genedl yw’r rhain.

Cenedl o gymunedau

Mae chwaraeon yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Mae arolygon yn dangos nad yw’r rheini sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn teimlo mor unig, tra mae gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gwella lles unigolyn yn ogystal â’i gydlyniant cymdeithasol.

Cenedl sy'n gorfforol iachach

Drwy chwaraeon, gallwn sicrhau bod pobl yn byw bywyd hirach, iachach a hapusach. Mae atal iechyd gwael drwy chwaraeon yn cynhyrchu gwerth cymdeithasol o £621m mewn canlyniadau iechyd bob blwyddyn.

Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad – yn dangos manteision chwaraeon i iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac effaith gwirfoddoli a chyfraniad chwaraeon at gyfalaf cymdeithasol.

Diwylliant bywiog

Mae diwylliant chwaraeon Cymru yn hanfodol i’n henw da rhyngwladol. Mae astudiaethau wedi dangos bod Cymru yn cael ei chydnabod am ei dylanwad ym myd chwaraeon uwchlaw dangosyddion allweddol eraill.

Mae Baromedr Cymell Tawel y Cyngor Prydeinig yn dangos dylanwad chwaraeon ar enw da Cymru ar lefel ryngwladol.

Economi sy'n tyfu

Mae chwaraeon yn creu gwerth ychwanegol gros, gwariant sylweddol gan ddefnyddwyr a gwaith i Gymru. Ar ben hynny, mae’r rhain i gyd yn feysydd lle mae chwaraeon yn dod yn fwy pwysig.

Amlygir cyfraniad chwaraeon at economi Cymru mewn adroddiad ar werth economaidd a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru ar y cyd â phob Cyngor Chwaraeon arall yn y DU, UK Sport a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Poblogaeth sy'n rhoi pwyslais ar sgiliau

Mae chwaraeon yn helpu i ddatblygu’r sgiliau arwain, datrys problemau, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol sy’n angenrheidiol ar gyfer economi fodern.  Gweithgareddau sy'n rhoi mwynhad yw’r ffordd orau o ddysgu sgiliau trosglwyddadwy.

Mae angen i ni gyfleu’r manteision i bawb

Anghydbwysedd rhwng y rhywiau

Mae llai o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd cau’r bwlch rhwng y rhywiau a mynd i’r afael â’r diffyg hyder sy’n dal i fodoli ymhlith cyfranogwyr benywaidd yn helpu i sicrhau budd i bawb.

Y bwlch economaidd-gymdeithasol

Mae tystiolaeth yn dangos fod unigolion o gefndiroedd tlotach yn gwneud llai o funudau o addysg gorfforol o fewn y cwricwlwm a llai o sesiynau y tu allan i'r ysgol, er eu bod yn gwerthfawrogi mwy ar y manteision iechyd.

Y rhaniad ethnig

Rydyn ni wedi gweld cynnydd da wrth geisio cau'r bwlch o ran ethnigrwydd, ond mae tystiolaeth yn dal i ddangos nad yw unigolion o rai grwpiau ethnig lleiafrifol yn cymryd rhan mewn chwaraeon mor aml.

Cylch bywyd

O'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd; o addysg i'r gweithle; cychwyn teulu a mynd yn hŷn. Mae angen i arlwy chwaraeon fynd i’r afael â’r adegau pan fydd pobl yn rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn gweithgareddau am wahanol resymau.

Dim digon o weithgarwch corfforol

Mae 1 ym mhob 4 plentyn 4-5 oed yn ordew. Mae’r ganran yn 61% ymhlith oedolion. Mae angen i ni gael y genedl i symud a mwynhau chwaraeon.

Mae ystadegau BMI ar gael gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 ac Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 yn cynnwys mwy o wybodaeth am bob un o’r pwyntiau uchod.