Skip to main content
  1. Hafan
  2. Strategaeth Chwaraeon Cymru

Strategaeth Chwaraeon Cymru

Rydyn ni eisiau datgloi manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru. I wneud hynny, rydyn ni’n gwybod na allwn ni sefyll yn llonydd. Rhaid i Chwaraeon Cymru ddal ati i symud.

Dyma pam rydyn ni wedi datblygu’r strategaeth Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu. Mae wedi cael ei chreu gyda help pobl o bob rhan o Gymru. Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar gyfres amrywiol o leisiau ac mae’n glir bod angen newid.

Mae ein gweledigaeth ni ar gyfer Cymru lle mae pawb yn actif. O’r rhai sydd ddim yn gweld eu hunain fel pobl fedrus mewn chwaraeon i’r rhai sy’n ennill medalau aur.

 

Beth rydyn ni eisiau ei gyflawni

Yn ein strategaeth, rydyn ni wedi amlinellu chwe lefel o fwriad strategol a fydd yn dylanwadu ar y ffordd mae’r sefydliad yn gweithio yn y dyfodol:

1. BOD YN BERSON-GANOLOG: Anghenion a chymhelliant yr unigolyn yn arwain y ddarpariaeth, boed yn dechrau arni, yn anelu am gynnydd neu’n ceisio rhagoriaeth ar lwyfan y byd.

2. RHOI DECHRAU GWYCH I BOB PERSON IFANC: Pob person ifanc â sgiliau, hyder a chymhelliant i alluogi iddyn nhw fwynhau a gwneud cynnydd drwy chwaraeon; gan roi iddyn nhw sylfeini i fyw bywyd actif, iach a chyfoethog.

3. SICRHAU BOD PAWB YN CAEL CYFLE I FOD YN ACTIF DRWY CHWARAEON: Chwaraeon yn gynhwysol ac yn darparu profiad gwych i bawb

4. DOD Â PHOBL AT EI GILYDD AR GYFER Y TYMOR HIR: Sector chwaraeon cydweithredol, cynaliadwy a llwyddiannus sy’n cael ei arwain gan wybodaeth a dysgu ar y cyd.

5. DANGOS MANTEISION CHWARAEON: Gwelir tystiolaeth o effaith chwaraeon ac mae cyrhaeddiad chwaraeon yn cael ei deall yn llawn, ei werthfawrogi, ei arddangos a’i ddathlu ledled Cymru.

6. BOD YN SEFYDLIAD O WERTH MAWR: Chwaraeon Cymru yn sefydliad uchel ei barch sy’n ceisio gorgyflawni drwy ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf drwy ein staff gwerthfawr.

Sut rydyn ni’n newid

  • Mae ein dull ni o weithredu yn newid. Rydyn ni eisiau parhau i ddysgu, deall ac archwilio.
  • Byddwn yn ceisio bod yn fwy hyblyg fel ein bod yn gallu ymateb yn gynt i anghenion a chymhelliant pobl Cymru a’u cymunedau fel maent yn newid.
  • Byddwn yn buddsoddi yn ein hadnoddau yn wahanol, gan chwilio am gyfleoedd newydd i gydweithredu ac annog cydweithredu effeithiol, sydd â photensial i greu effaith bellgyrhaeddol a dyfnach.
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid presennol ond rydyn ni’n agored i weithio gyda gwahanol fathau o sefydliadau hefyd.
  • Byddwn yn casglu tystiolaeth er mwyn dal ati i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

Rydyn ni’n esblygu a byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni ar y siwrnai tuag at Gymru hapusach ac iachach gyda gwell ffocws ar chwaraeon.

Cysylltu

Os oes gennych chi unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â communications@sport.wales

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Olympaidd

Pan fydd Olympiaid Cymru yn camu allan ar lwyfan y byd yr haf yma, bydd byddin gyfan o wirfoddolwyr,…

Darllen Mwy

Ella Maclean-Howell: Canllaw Olympiad i Feicio Mynydd yng Nghymru

Dyma ddadansoddiad Ella o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru.

Darllen Mwy

Megan Barker: Sut mae chwaraeon wedi ei helpu i oresgyn ei swildod

Dywed Megan Barker fod chwaraeon wedi dysgu pwysigrwydd gwaith caled iddi, ac wedi rhoi hwb i'w hyder.

Darllen Mwy