Main Content CTA Title
Nôl i Chwaraeon Cymru
  1. Hafan
  2. Fframwaith Sylfeini Cymru

Fframwaith Sylfeini Cymru

Arfer Da mewn Amgylcheddau Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon ar gyfer Plant 3 i 11 oed.

Er mwyn ein helpu ni i gyflawni ylfeini cadarn ar gyfer siwrnai gydol oes plant gyda gweithgarwch corfforol a chwaraeon, mae’r sector chwaraeon wedi cydweithio i gyd-gynhyrchu Fframwaith Sylfeini. Ymgynghorwyd â phobl ifanc drwy bartneriaeth yr Youth Sports Trust (YST) i sicrhau bod cynnwys y fframwaith a'r iaith yn cyd-fynd â'u hanghenion a'u dewisiadau.

Fersiwn 1 - Crëwyd Medi 2024 

Beth yw Fframwaith Sylfieni?

Mae Fframwaith Sylfeini Cymru yn ganllaw arfer da ar gyfer yr holl alluogwyr ledled Cymru sy'n ymwneud â threfnu, hyrwyddo a chyflwyno gweithgareddau corfforol a chwaraeon i blant 3 i 11 oed, mewn ysgolion, lleoliadau allgyrsiol, yn y gymuned ac ar lawr gwlad.

Pam fod y Fframwaith Sylfeini wedi cael ei ddatblygu?

Dylai pob plentyn dyfu i fyny yn cael profiadau mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n eu paratoi ar gyfer mwynhad oes o chwaraeon. Fel cenedl mae angen i ni wneud mwy ar frys i wella cyfranogiad plant mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon.

Mae pwysigrwydd bod yn actif bob dydd wedi cael ei ddatgan yn glir gan Brif Swyddogion Meddygol y DU, gan argymel bod plant a phobl ifanc yn gwneud o leiaf 60 munud ar gyfartaledd o weithgarwch corfforol cymedrol neu egnïol y dydd, ar draws yr wythnos.

Ein Darlun Cenedlaethol - Y sefyllfa bresennol

  • Mae'r dirywiad mewn lefelau gweithgarwch corfforol yn dechrau mor gynnar â 7 oed.
  • Dim ond 22% o blant 8 i 11 oed sy’n bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol.
  • Mae 1 o bob 4 plentyn 4 i 5 oed (27.1%) yng Nghymru yn or-dew neu dros eu pwysau.
  • Nid yw 1 o bob 3 disgybl (31%) yng Nghymru yn hyderus yn rhoi cynnig ar chwaraeon newydd.
  • Hyd yn oed o oedran cynnar, mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn dweud nad oes ganddynt lawer o hyder a mwynhad mewn chwaraeon, ac nid ydynt bob amser yn teimlo bod ganddynt y sgiliau i gymryd rhan.

Dyna pam mae nifer o bartneriaid wedi dod ynghyd i greu Fframwaith Sylfeini Cymru.

Beth mae plant eisiau?

Mae plant eisiau cyfleoedd chwaraeon sy'n ddiogel, yn bleserus ac yn ddatblygiadol.

"Rydw i eisiau dysgu sgiliau newydd a dysgu sut i chwarae'r gamp, yn ogystal â chael amser da" - Saul, 10 oed

"Mae'n bwysig iawn teimlo'n ddiogel, a'ch bod yn cael croeso a'ch cynnwys.” Lily, Sabine ac Ella, 11 oed

"Cefnogi pawb nid dim ond y rhai sy'n dda. Pawb i gael eu trin yn gyfartal.” - Disgyblion Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Maendy, Casnewydd

"Y clwb chwaraeon perffaith yw os yw'r hyfforddwyr yn garedig ac os yw'r gamp yn hwyl.” - Violet, 8 oed

"Rydw i eisiau hyfforddwr sy'n groesawgar, yn gwenu arnaf i ac yn gwneud i mi deimlo'n rhan o bethau.” - Thomas a Theo, 9 oed