Main Content CTA Title
Nôl i Chwaraeon Cymru

Gwybodaeth arall

Cymarebau Hyfforddi

Canolfannau Hamdden / Hyfforddiant Aml-Chwaraeon, 

Yn seiliedig ar ganllawiau’r NSPCC ac UK Coaching:

  • 4 i 8 oed - un oedolyn i chwech o blant.
  • 9 i 12 oed - un oedolyn i wyth o blant.
  • 13 i 18 oed - un oedolyn i ddeg o blant.
  • Dylai plant dan bedair oed gael eu goruchwylio drwy ymgysylltu gweithredol yr oedolion cyfrifol yn y sesiwn. Un hyfforddwr i wyth teulu.

clybiau ar lawr gwlad

Clybiau ar lawr gwlad i ddilyn cymarebau’r Corff Rheoli Cenedlaethol cysylltiedig fel yr amlinellir gan y corff y mae eich clwb yn aelod ohono.

Addasu’r gweithgarwch 

Isod mae disgrifiadau byr o’r gwahanol fathau o weithgareddau y gellid eu cynnal yn ystod sesiwn er mwyn cynnwys amrywiaeth o gyfranogwyr:

  • Gweithgaredd Agored - Gweithgaredd sy'n agored i unrhyw gyfranogwr heb fod angen am newid.
  • Gweithgaredd Wedi'i Addasu - Gweithgareddau y mae posib eu haddasu i ddiwallu anghenion a gallu'r person anabl.
  • Gweithgaredd Cyfochrog – Yn Defnyddio Gwahaniaethu. Sesiynau sy'n cael eu cynnal ochr yn ochr â'i gilydd, er enghraifft, sesiynau gyda lefelau gwahanol o addasu yn digwydd ochr yn ochr â'i gilydd.
  • Gweithgaredd Penodol - Gweithgareddau penodol ar gyfer cyfranogwyr a rhai grwpiau nam.

Model Cynhwysiant Gweithgarwch

Mae’r model cynhwysiant gweithgarwch yn cefnogi darpariaeth o weithgarwch corfforol a chwaraeon sy’n canolbwyntio ar y cyfranogwr, ac yn sicrhau bod pawb yn cael profiad o safon, heb ystyried yr amgylchedd neu allu’r cyfranogwr.