Main Content CTA Title
Nôl i Chwaraeon Cymru

Model Step

Gofod

Sut gall y gofod sydd gennych chi weddu i'r gweithgareddau yr hoffech eu chwarae?

  • Sicrhau bod maint y gofod yn briodol ac wedi’i farcio fel bod y plant yn gallu gweld y ffiniau a’r parthau.
  • Mae gêm llawr angen gofod gwahanol i gêm lle mae plant yn symud mwy o gwmpas y gofod.
  • Gofod personol a gofod grŵp.
  • Defnyddio ardal chwarae ar ffurf parthau i greu ardaloedd diogel mewn gemau dal neu dag neu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn / ffrâm.
  • Pellter oddi wrth bartner... nes at bartner, ymhellach i ffwrdd.
  • Ardal darged lai neu fwy.
  • Gadael i'r plant ddechrau ar adegau gwahanol neu o lefydd gwahanol.

Tasg

Sut gallwch chi addasu'r gweithgaredd i roi profiad ystyrlon i bawb?

  • Haws - Symleiddio'r gêm - rhannu'r sgil yn elfennau gwahanol.
  • Anoddach - cyflwyno mwy o reolau, sgiliau anoddach.
  • Cylchdroi rôl fel bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.
  • Newid rheolau i gynorthwyo gyda chynhwysiant e.e. rhoi mwy o fywydau i rai plant, cyfrif sgôr rhai chwaraewyr yn ddwbl.
  • Annog y plant i lunio ac addasu’r rheolau.
  • Rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o chwarae e.e. eistedd, sefyll, gorwedd.
  • Defnyddio targedau gwahanol ar gyfer rhai plant.
  • Mae'n bosibl y bydd angen addasu hyd a chyflymder y gweithgaredd ar gyfer y rhai y mae ymarfer corff yn fwy o her iddynt.

Offer

Sut gallwch chi newid yr offer i weddu i angen person?

  • Darparu amrywiaeth o offer priodol – maint, pwysau, gwead, siâp a lliw gwahanol.
  • Offer cyflymder arafach (bagiau ffa, peli sgarff, balŵns).
  • Addasu hyd y bat neu'r handlen.
  • Ystyried offer anhraddodiadol - sain (peli clywadwy, marcwyr clywadwy, llithrennau, gwterydd ac ati).

Pobl

Pwy sy'n cymryd rhan yn y gweithgaredd?

  • Ar eich pen eich hun, gyda phartner, gyda marciwr mewn tîm.
  • Cydweithredu, cystadlu.
  • Tîm un ar un, un ar ddau, maint anghyfartal.
  • Grwpiau cyfeillgarwch, gallu cyfatebol, medrus yn helpu llai medrus, gallu, rhywedd, maint, nifer, perthynas ac agwedd.

STEP © 2002, Youth Sport Trust. Cedwir pob hawl