Ydych chi'n hyfforddi neu'n gwirfoddoli gyda phlant yng Nghymru? Dysgwch sut y gallwch chi gyflwyno egwyddorion Fframwaith Sylfeini Cymru ar gyfer y plant yn eich clwb neu sefydliad chwaraeon.
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymuno ag arbenigwyr Llythrennedd Corfforol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i gynhyrchu cwrs unigryw i’ch helpu i adeiladu sesiynau deniadol ac ystyrlon.
Mae rhoi’r cyfle gorau posibl i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau corfforol wrth galon y Fframwaith Sylfeini. Os yw plentyn yn hyderus ac yn llawn cymhelliant, mae'n fwy tebygol o fwynhau chwaraeon am weddill ei oes.
Ond, sut ydych chi'n gwybod bod eich sesiynau'n diwallu anghenion datblygu eich cyfranogwyr?
Pwy? - Gall gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a darparwyr chwaraeon oll elwa ar y cwrs Adeiladu Sylfeini ar gyfer Chwaraeon.
Sut? - Mae'r cwrs yn cynnwys dysgu ar-lein a sesiwn undydd wyneb yn wyneb.
Mae posib cael cyllid drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru