Main Content CTA Title
Nôl i Chwaraeon Cymru

Fframwaith Sylfeini: Y Canllaw Arferion Da

  1. Hafan
  2. Fframwaith Sylfeini Cymru
  3. Fframwaith Sylfeini: Y Canllaw Arferion Da

Dyma’r Fframwaith Sylfeini – canllaw arferion da ar gyfer Amgylcheddau Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon sy’n cynnwys plant rhwng 3 ac 11 oed. Mae wedi cael ei greu gan y sector chwaraeon yng Nghymru ochr yn ochr â phobl ifanc.

Mae plant yng Nghymru yn mwynhau cyfleoedd aml-gamp sy’n ddiogel, yn llawn hwyl ac yn eu helpu i ddatblygu. Helpwch ni i ddarparu cyfleoedd o’r fath drwy ddilyn y Fframwaith.

Eisiau gweld y Fframwaith fel tablau? Gweld y ddogfen o dudalen 15..

Diogel

Os ydych chi’n uniongyrchol gyfrifol am redeg sesiwn neu weithgaredd, dyma bethau i’w hystyried.

Mae plentyn angen...

teimlo’n ddiogel ym mannau a lleoedd y gweithgarwch, a hynny dan do ac yn yr awyr agored.

  • A chithau’n hwylusydd, dylech chi wybod am y polisïau a’r gweithdrefnau diogelu, a phwy ydy arweinydd diogelu dynodedig eich sefydliad. 
  • Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cyrraedd y safon ofynnol o ran diogelu a bod digon o hyfforddwyr yn bresennol i sicrhau ymarfer diogel.

cyfleoedd i ddatrys problemau.

  • Dylech chi greu amgylchedd lle mae plentyn yn gallu wynebu heriau ac yn cael cyfle i ddod o hyd i atebion. 
  • Cadwch anghenion datblygu a phrofiadau’r plentyn mewn cof wrth feddwl am heriau.

teimlo ei fod yn perthyn.

  • Rhowch groeso i bawb a dangos empathi at bawb. 
  • Treuliwch amser yn deall, dathlu a darparu ar gyfer amrywiaeth a natur unigryw plant a’u teuluoedd. Dylech chi greu amgylchedd croesawgar lle mae plentyn a’i oedolyn cyfrifol yn teimlo eu bod yn perthyn.

teimlo’n dda am ei hun.

  • Dylech chi greu diwylliant cefnogol i bawb lle mae rôl oedolion cyfrifol yn cael ei chroesawu a’i pharchu. 
  • Gallwch chi wneud hyn drwy fabwysiadu agwedd gyson at ymddygiad, ailadrodd a chanmol ymddygiad cadarnhaol, ac annog y rhai sy’n cymryd rhan i barchu pawb, i ddyfalbarhau, ac i fod yn gollwyr da.

Ystyriaethau wrth ddatblygu polisi

Y tu allan i’r sesiwn ei hun, dyma bethau gallwch chi a’ch clwb neu eich gweithgarwch eu gwneud i helpu plant i deimlo’n ddiogel:

  • Gwneud yn siŵr bod llais y plentyn a’r oedolyn cyfrifol yn cael eu clywed, a bod hynny’n cyfrannu at y gwaith o adolygu a datblygu polisïau a gweithdrefnau.
  • Datblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau diogelu diweddaraf i blant yng Nghymru, a’u hadolygu bob dwy flynedd.
  • Helpu staff newydd, y tîm rheoli ac aelodau o’r bwrdd i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddiogelu i lefel dderbyniol.
  • Gwneud yn siŵr bod oedolion cyfrifol yn ymwybodol o’r polisïau diogelu.
  • Asesu risg pob gweithgaredd a lleoliad yn ôl disgwyliadau’r corff llywodraethu cenedlaethol a/neu’r gweithredwr hamdden.
  • Nodi’r bobl a allai fod o gymorth i gyfranogiad a lles plant, e.e. swyddog lles y clwb.
  • Gwneud yn siŵr bod y gymhareb o ran hwyluswyr a phlant yn gywir.
  • Gwneud yn siŵr bod y rhaglenni sydd ar gael yn atgyfnerthu neu’n herio safbwyntiau ystrydebol a rhagfarn ddiarwybod.
  • Uwchsgilio ac addysgu staff drwy hyfforddiant cynhwysiant anabledd.

Llawn mwynhad

Os ydych chi’n uniongyrchol gyfrifol am redeg sesiwn neu weithgaredd, dyma bethau i’w hystyried.

Mae plentyn angen...

cyfleoedd sy’n cydnabod ei anghenion unigol (gan gynnwys iaith, diwylliant a gallu).

  • Dylech chi ddeall bod plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd. 
  • Dylai gweithgareddau fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn addas i bawb.

teimlo’n ddibryder ac yn hyderus wrth gyflwyno ei syniadau ei hun a gwneud ei ddewisiadau ei hun.

  • Dylid annog plant i gyfrannu at y gweithgareddau a theimlo’n ddigon hyderus i ddweud ei ddweud yn yr amgylchedd.
  • Dylech chi sylwi ar gyfathrebu geiriol a dieiriau.

gweithgareddau hwyliog y mae’n gallu cymryd rhan ynddyn nhw gyda’i ffrindiau a’i deulu.

  • Dylai’r gweithgareddau hybu cysylltiad teuluol ac elfen gymdeithasol chwaraeon. 
  • Dylech chi fod yn arweinydd hwyliog, hapus ac agos-atoch, gan wneud yn siŵr bod pob profiad yn brofiad gwych er mwyn i blant fod eisiau cymryd rhan dro ar ôl tro.

digon o amser i fod yn egnïol.

  • Heb weiddi neu ddefnyddio signalau llym, dylech chi roi cyfarwyddiadau clir a chryno, a mabwysiadu agwedd bwyllog sy’n cadw rheolaeth ac awdurdod. 
  • Dylech chi osgoi cyfnodau o segurdod, fel ymarferion neu sesiynau lle mae plant yn gorfod aros eu tro.

amser i chwarae.

  • Dylech chi ganiatáu amser ar gyfer gweithgareddau heb strwythur er mwyn i blant allu chwarae a bod yn greadigol wrth ddysgu sgiliau newydd.

teimlo bod ei ymdrechion a’i welliannau yn cael eu gwerthfawrogi er mwyn magu ei hyder.

  • Dylech chi roi canmoliaeth, anogaeth ac atgyfnerthiad cadarnhaol. 
  • Cofiwch ganolbwyntio ar y broses yn hytrach na’r canlyniad, gan gynnwys cydnabod gwaith caled, bwriad a chreadigrwydd plentyn. 
  • Dylai eich gweithgareddau ddatblygu hyder, cymhelliant a dyfalbarhad plant, er mwyn iddyn nhw fod yn fodlon rhoi cynnig ar weithgareddau newydd a chroesawu heriau newydd.

Y tu allan i’r sesiwn ei hun, dyma bethau gallwch chi a’ch clwb neu eich gweithgarwch eu gwneud i helpu plant i fwynhau:

  • Cynyddu’r gynrychiolaeth o amrywiaeth o grwpiau cymunedol, a pharchu cred, crefydd, diwylliant a chefndir pob unigolyn.
  • Datblygu diwylliant cefnogol sy’n gwobrwyo ac yn meithrin staff.
  • Creu cynigion ar sail gwybodaeth sydd wedi’i chasglu gan blant a phobl ifanc.
  • Datblygu a chynnig amrywiaeth o weithgarwch corfforol a chwaraeon heb ofyn am arbenigedd cynnar neu ddethol ymysg oedrannau ifanc.
  • Gwneud yn siŵr bod y cynlluniau’n adlewyrchu’r holl blant, eu teuluoedd a’r gymuned.
  • Gwneud yn siŵr bod oedolion cyfrifol yn cael gwybod am ymarfer sy’n briodol i oedran/cyfnod y plentyn er mwyn rheoli disgwyliadau.

Helpu i Ddatblygu

Os ydych chi’n uniongyrchol gyfrifol am redeg sesiwn neu weithgaredd, dyma bethau i’w hystyried

cael ei gefnogi gan alluogwyr cymwys.

  • Dylai gweithgareddau gael eu cynllunio a’u darparu gan hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, arweinwyr ac athrawon cymwys sy’n deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i blant. 
  • A chithau’n gyfrifol am ddarparu, dylech chi roi adborth ystyrlon a dealladwy, a gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n cymryd rhan i wneud yn siŵr eu bod yn deall.

datblygu ei sgiliau corfforol

  • Dylech chi wneud yn siŵr bod plant yn gallu meithrin amrywiaeth o sgiliau symud sylfaenol drwy amrywiaeth o chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 
  • Gallwch chi wneud hyn drwy gynllunio rhaglenni sy’n addas i’w datblygiad a meddu ar wybodaeth am sut mae sgiliau trosglwyddadwy o wahanol chwaraeon yn gallu bod o fudd i unigolyn.

gweithgareddau sy’n ei alluogi i archwilio ei berthynas â symud a gweithgarwch corfforol.

  • Dim ots beth ydy canlyniad y perfformiad, dylech chi annog plant i gefnogi ei gilydd wrth iddyn nhw archwilio eu symudiadau mewn gweithgarwch corfforol. 
  • Cofiwch am deimladau, anghenion a risgiau’r rhai sy’n cymryd rhan wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau.

symud bob dydd.

  • Dylai strwythur eich gweithgareddau ganiatáu digon o amser i blant fod yn egnïol. 
  • Dylai eich amgylcheddau eu hannog i symud bob dydd a dylai hwyluswyr ddeall pa mor bwysig ydy gweithgarwch corfforol rheolaidd i blant.

gweithio’n galed i wella.

  • Wrth gynllunio ac asesu eich gweithgareddau, dylech chi ystyried lle mae’r plentyn arni o ran ei ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a chorfforol. 
  • Dylai eich gweithgareddau herio a chefnogi gallu a datblygiad cyfannol y plentyn.

cael ei rymuso i ddysgu o’i lwyddiannau a’i gamgymeriadau heb feirniadaeth.

  • Mae plant yn datblygu ar wahanol gyfraddau. Felly, dylech chi addasu eich gweithgareddau ar sail anghenion datblygiadol y plentyn, nid ar sail oedran. 
  • Dylai eich amgylchedd fod yn fan diogel lle mae plant yn gallu gwneud camgymeriadau a chael arweiniad ar sut mae dysgu o’r camgymeriadau hyn.

mynediad at amrywiaeth o amgylcheddau ac offer.

  • Rhowch wahanol brofiadau i blant drwy gynnal eich gweithgareddau mewn gwahanol amgylcheddau a defnyddio amrywiaeth o offer, gan fanteisio ar bob cyfle i symud a bod yn egnïol. 
  • Dylech chi gynnwys y plant a’u hoedolion cyfrifol wrth ddewis gweithgareddau. Dylech chi wneud yn siŵr hefyd eich bod yn dewis offer addas sy’n cyd-fynd â lefel sgiliau a datblygiad y plentyn.

Y tu allan i’r sesiwn ei hun, dyma bethau gallwch chi a’ch clwb neu eich gweithgarwch eu gwneud i helpu plant i ddatblygu:

  • Cynnig hyfforddiant datblygu proffesiynol i hwyluswyr.
  • Caniatáu amser ar gyfer ymarfer myfyriol i hwyluswyr.
  • Datblygu sgiliau corfforol fel rhan o bob rhaglen a gweithgaredd.
  • Datblygu gweithgareddau sydd wedi’u dylunio i gydnabod a dathlu pawb sy’n cymryd rhan.
  • Canolbwyntio ar helpu hwyluswyr i ddatblygu diwylliant a meddylfryd twf sy’n canolbwyntio ar ddatblygu.
  • Cynnwys amrywiaeth o raglenni, gweithgareddau, amgylcheddau ac offer.
  • Monitro a gwerthuso effaith rhaglenni ar gynnydd plant.
  • Cydweithio â sefydliadau eraill.
  • Annog yr hwylusydd i gyfeirio at y llwybrau gadael.
  • Meddwl am sut mae modd defnyddio cyllid i wella’r cynnig gweithgarwch corfforol a chwaraeon i blentyn.