Main Content CTA Title
Nôl i Chwaraeon Cymru

Cwestiynau i ofyn i chi'ch hun

Asesu eich defnydd o'r Fframwaith Sylfeini

Bwriad y cwestiynau a'r awgrymiadau canlynol yw ategu'r Fframwaith a helpu i hybu trafodaeth a chynhyrchu syniadau.

Amgylcheddau Ffyniannus (Llefydd)

  • Ydi’r amgylcheddau'n adlewyrchu'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon?
  • Ydi’r amgylcheddau'n cynnwys lleoliadau dan do ac awyr agored?
  • Ydi’r amgylcheddau’n ymateb i anghenion datblygiadol a diddordebau pob plentyn?
  • Ydi’r plant yn ymateb yn gadarnhaol i’r amgylcheddau a’r profiadau?
  • Ydi’r amgylcheddau’n cefnogi plant i brofi ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth?
  • Ydyn ni’n cefnogi hwyluswyr i wneud newidiadau o fewn yr amgylcheddau i sicrhau eu bod yn cael plant i gymryd rhan ac yn cefnogi eu datblygiad?
  • Ydi’r amgylcheddau’n cynnig cyfleoedd i blant archwilio ystod o weithgareddau ac offer i gefnogi eu datblygiad cyfannol?
  • Ydyn ni'n sicrhau diogelwch effeithiol o fewn ein gweithgareddau?
  • Ydi’r rhaglenni a gynigir yn atgyfnerthu neu’n herio meddwl yn ystrydebol a rhagfarn anymwybodol?
  • Ydi’r gweithgareddau a’r rhaglenni a gynigir yn wirioneddol gynrychioli’r ystod o gymunedau yn ein hardal leol ac yng Nghymru?

Arfer Hwylusydd(Pobl)

  • Ydyn ni’n dod i adnabod a deall personoliaethau’r plant, er mwyn ymateb i’w hanghenion a’u hoffterau unigol?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hystyried?
  • Ydyn ni’n mynd ati i hyrwyddo, ymgysylltu â, ac ymateb i farn plant?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod ein rhaglenni a’n gweithgareddau yn cefnogi datblygiad ac anghenion cyfannol plant?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod y profiadau’n bleserus ac yn briodol i bob plentyn?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd i ddewis drwy gydol y gweithgaredd?
  • Ydyn ni’n galluogi plant i ysgwyddo cyfrifoldeb arwain lle bo hynny’n briodol?
  • Ydyn ni’n cyfathrebu’n rheolaidd ag oedolion cyfrifol?
  • Ydyn ni’n hyrwyddo pwysigrwydd chwarae gartref i oedolion cyfrifol?
  • Ydyn ni’n cefnogi oedolion cyfrifol drwy’r gwahanol gamau yn natblygiad corfforol eu plentyn?
  • Ydyn ni’n rhannu gwybodaeth ag oedolion cyfrifol am ddatblygiad eu plentyn?
  • Ydyn ni’n cefnogi ac yn datblygu iechyd a lles plant drwy weithgareddau corfforol?
  • Ydyn ni’n rhoi canmoliaeth ac anogaeth i bob plentyn?
  • Ydi plant yn datblygu ymdeimlad o berthyn?
  • Ydyn ni’n cefnogi plant i feithrin eu gwytnwch?
  • Ydyn ni'n sicrhau ein bod yn defnyddio gwybodaeth asesu fel sail i’n cynllunio?
  • Ydyn ni’n gwneud arsylwadau o’r sesiynau, gan gynnwys yr hyn y mae plant yn ei fwynhau ac ddim yn ei fwynhau?
  • Ydyn ni’n darparu cydbwysedd priodol rhwng yr angen am hybu diogelwch plant a’u gwarchod rhag niwed, a’r angen am eu cefnogi i gymryd risgiau priodol?

Arweinyddiaeth(Polisi)

  • Ydyn ni’n sicrhau bod plant a’u hoedolion cyfrifol yn gallu cael cymorth os ydyn nhw wedi profi rhywbeth niweidiol?
  • Ydi ein polisïau a’n gweithdrefnau yn adlewyrchu’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau diogelu diweddaraf i Gymru ac a ydynt yn cael eu hadolygu bob dwy flynedd?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod ein harferion diogelu, sy’n benodol i blant, yn gyfredol?
  • Ydyn ni’n hyrwyddo diwylliant o arfer diogel?
  • Ydyn ni’n gwneud oedolion cyfrifol yn ymwybodol o’n polisi diogelu?
  • Ydi pob plentyn yn deall at bwy y gall droi os yw’n poeni, yn ofidus neu’n bryderus?
  • Ydi ein plant yn elwa o’n cymhareb hwylusydd i blentyn? Ydyn ni’n rhagori ar y cymarebau gofynnol?
  • Ydyn ni'n blaenoriaethu dirnadaeth? Sut ydyn ni’n penderfynu beth sydd bwysicaf?
  • Wrth gynllunio, pa mor effeithiol ydyn ni’n defnyddio dirnadaeth a gwybodaeth am anghenion plant?
  • Ydyn ni’n casglu ac yn gweithredu ar farn plant yn ein cynlluniau?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod ein cynllunio’n adlewyrchu’r holl blant, eu teuluoedd, a’r gymuned?
  • Ydyn ni’n monitro effaith ein cynllunio ar gynnydd pob plentyn?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod y dulliau darparu yn cefnogi lles plant?
  • Ydyn ni'n monitro ein rhaglenni a'n gweithgareddau?
  • Ydyn ni’n rhannu arfer da gyda chlybiau a sefydliadau eraill?
  • Ydi ein defnydd o gyllid yn arwain at welliannau yn y ddarpariaeth o weithgarwch corfforol a chwaraeon i blant?
  • Ydyn ni’n monitro effaith rhaglenni a gweithgareddau ar ddatblygiad a phrofiadau plant?
  • Ydyn ni’n sicrhau bod pob ymarferydd yn deall pwysigrwydd chwarae a sut maen nhw’n effeithio arno?