Cymerodd cyfanswm o 14 o ysgolion unigol ac un ffederasiwn, yn cynnwys clwstwr o ddwy ysgol gynradd, o bob rhan o Gymru ran yn y prosiect peilot (Tabl 1). Roedd deg ysgol yn rhai cynradd, pump yn rhai uwchradd, ac un yn ysgol 3 i 16 oed. Er bod yr holl ysgolion wedi’u dosbarthu’n ysgolion prif ffrwd, roedd nifer o ysgolion peilot wedi dyrannu dosbarthiadau sylfaen adnoddau dysgu a darparwyd ar gyfer y disgyblion hynny ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn nifer o’r ysgolion peilot. Roedd yr ysgolion yn derbyn cyllid ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn academaidd ac roeddent yn parhau i gael eu heffeithio gan COVID-19 i raddau amrywiol, ac o ganlyniad roeddent (ac maent) mewn camau amrywiol o weithredu a chyflwyno eu rhaglen. Felly nid oes modd cymharu amserlenni ar draws ysgolion yn uniongyrchol.
Oherwydd yr amrywioldeb hwn, mae’n bwysig ystyried sut gweinyddwyd y gwahanol amrywiadau yn y rhaglen. O ganlyniad, mae cynnydd pob ysgol yn cael ei werthuso ar bersbectif ysgol unigol, ac wedyn defnyddir persbectif ehangach ar draws yr ysgolion i adlewyrchu eu profiadau a rhannu dysgu ar gyfer cyflwyno’r rhaglen yn y dyfodol.