Arolwg disgyblion
Cwblhaodd cyfanswm o 121 o ddisgyblion o saith ysgol arolwg ar-lein ym mis Gorffennaf 2022. Tra bo data lefel ysgol wedi eu darparu yn Adran 1, mae ffocws yr adran hon ar y gwersi ehangach y gellir eu dysgu ar draws yr holl ysgolion.
O blith y rhai a gwblhaodd yr arolwg, dysgodd y mwyafrif am y sesiynau’n uniongyrchol (79%): drwy riant / gwarcheidwad (13%), athro / athrawes ddosbarth (43%) neu ffrind ac aelod o’r teulu (22%). Roedd ychydig dros hanner y plant yn yr arolwg wedi clywed am y sesiynau yn oddefol (54%), drwy wasanaethau ysgol (32%), cyfryngau cymdeithasol (19%) neu hysbysebu cymunedol (2%). Dysgodd rhai disgyblion am y sesiynau drwy ffynonellau niferus.
Cyfweliadau strwythuredig gyda’r staff
Cefnogaeth yr ysgolion
Cymerodd wyth cynrychiolydd ysgol ran mewn cyfweliadau strwythuredig i adlewyrchu ar gyfranogiad eu hysgol yn
y rhaglen AEBSD. O ystyried pwysigrwydd cefnogaeth y Pennaeth i lwyddiant y rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno gan yr ysgol, gofynnwyd i’r aelod o staff, ar raddfa Likert 5 pwynt (1 = Ddim yn flaenoriaeth; 5 = Blaenoriaeth hanfodol), i ba raddau oedd y Pennaeth wedi blaenoriaethu sefydlu, gweithredu a chynaliadwyedd AEBSD. Adroddodd pum ysgol ei fod, ar gyfer y tair agwedd, yn flaenoriaeth hanfodol i’r Pennaeth.
Dywedodd tair ysgol bod sefydlu a gweithredu yn flaenoriaeth uchel, ac, ar gyfer cynaliadwyedd, nododd dwy ysgol flaenoriaeth uchel, ac adroddodd un am flaenoriaeth ganolig. Dywedodd pob ysgol bod yr uwch dîm arwain yn hapus gyda’r ffordd y cyflwynwyd y rhaglen a bod y rhaglen yn gweithio’n dda yn eu hysgol. Roedd gan bob ysgol aelod penodol o staff yn gyfrifol am y Rhaglen AEBSD.
Cymhelliant ar gyfer dod yn lleoliad addysg actif
Gan mai canlyniad y peilot oedd creu lleoliadau addysg actif, gofynnwyd i’r ysgolion ddewis y prif resymau (o restr a bennwyd ymlaen llaw) ynghylch pam roedd dod yn lleoliad o’r fath yn bwysig iddynt. Y tri phrif reswm a nodwyd oedd:
- Gwella iechyd a lles disgyblion
- Rhoi mynediad i ddisgyblion i gyfleoedd actif
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o fod yn gorfforol actif oherwydd ei fod yn rhan bwysig o’u profiad a’u datblygiad addysgol
Cyllid AEBSD
Gofynnwyd i’r ysgolion am y broses a gynhaliwyd ganddynt i benderfynu sut i fuddsoddi’r cyllid AEBSD. Defnyddiwyd y dulliau canlynol:
- 8 ysgol wedi cysylltu â’r Uwch Dîm Rheoli
- 6 ysgol wedi cysylltu â disgyblion
- 4 ysgol wedi cysylltu â llywodraethwyr yr ysgol
- 3 ysgol wedi cysylltu â’r rhieni, y gymuned ehangach, a / neu ‘arall’
Buddsoddodd pob un o’r wyth ysgol y cyllid AEBSD fel y cynlluniwyd. Adroddwyd hefyd am fuddsoddiad ychwanegol, y tu hwnt i’r hyn a roddwyd gan Chwaraeon Cymru. Yn benodol, derbyniodd dwy ysgol arian ychwanegol gan yr Awdurdod Lleol, a dywedodd dwy ysgol eu bod wedi defnyddio eu cyllid eu hunain fel ychwanegiad oherwydd costau cynyddol. Dywedodd pedair ysgol eu bod wedi cael cymorth anariannol ychwanegol ar ffurf cyfraniadau mewn nwyddau gan wirfoddolwyr, cyrsiau hyfforddi a chyfleoedd rhwydweithio.