Yn ystod y trydydd fforwm ysgolion ar-lein (Gorffennaf 2022), gofynnwyd i’r mynychwyr, a oedd yn cynnwys deg cynrychiolydd ysgol a dau gynrychiolydd chwaraeon o’r awdurdod lleol, lenwi holiadur (yn ddienw) yn adlewyrchu ar eu profiad o’r rhaglen ac yn rhoi sylwadau ar gynaliadwyedd yn y dyfodol. Nodwyd prinder staff mewn ysgolion oherwydd COVID-19 fel rheswm pam nad oedd rhai ysgolion yn gallu mynychu’r fforwm ysgolion.
Gan ddefnyddio graddfa Likert 5 pwynt (1 = anodd; 5 = hawdd), gofynnwyd i’r ysgolion am eu barn am weithredu’r rhaglen AEBSD.
- Nododd 7 o fynychwyr sgôr o 3 sy’n awgrymu nad oedd yn anodd, ond ddim yn hawdd
- Nododd 4 o fynychwyr sgôr o 4 sy’n awgrymu gweddol hawdd
- Nododd 1 mynychwr sgôr o 5 sy’n golygu hawdd
Oherwydd oedi cyn i’r ysgol ddechrau’r rhaglen, neu oherwydd bod yr offer a brynwyd wedi’i dargedu fwy at dymor yr hydref, mae profiad rhai ysgolion wedi bod yn gyfyngedig ac yn golygu y byddant yn parhau ym mlwyddyn academaidd 2022/2023. Pan ofynnwyd i fynychwyr a fyddent yn dal ati, dywedodd 11 o fynychwyr y byddent a dywedodd un ysgol ‘efallai’. Dywedodd pawb a oedd yn bresennol y byddent yn argymell y fenter i ysgolion eraill gymryd rhan ynddi.
Elfennau cadarnhaol a heriau o weithredu’r rhaglen
Gan ddefnyddio ymatebion testun rhydd, gofynnwyd i’r mynychwyr adlewyrchu ar yr hyn a weithiodd yn dda wrth weithredu’r rhaglen a pha heriau oeddent wedi’u hwynebu. Mae Ffigur 19 yn tynnu sylw at elfennau cadarnhaol a heriau craidd eu profiadau. Un canfyddiad allweddol yw nodi gwell lles a sgiliau cymdeithasol ymhlith y plant. Er bod rhai o’r heriau a grybwyllwyd yn sylweddol, gyda chynllun gweithredu ar waith, gallai eitemau fel cydlynu rhieni fod yn haws eu rheoli.
Gofynion cefnogi a awgrymir ar gyfer gweithredu
Dywedodd athrawon a’r sefydliadau chwaraeon cefnogol y dylid ystyried y canlynol ar gyfer gweithredu llwyddiannus:
- Cyllid (e.e. ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad hyfforddwyr a chefnogaeth staff yr ysgol)
- Staff hyfforddi
- Darparu cludiant
- Pwyntiau cyswllt rheolaidd i rannu arfer da
- Cefnogaeth i adeiladu rhwydweithiau
Cyngor doeth i drawsnewid ysgol yn lleoliad addysg actif
- Ffocws ar y gymuned a phartneriaeth - ymgynghori â disgyblion a’r gymuned i ddiwallu eu hanghenion, a chysylltu â chlybiau lleol
- Ystyried cynaliadwyedd o’r dechrau un ac integreiddio cyllideb wrth gefn
- Ysgrifennu cynllun, adolygu, ymrwymo ac ymgysylltu - byddwch yn realistig
- Gweithio gyda Thimau Datblygu Chwaraeon
- Ystyried neilltuo cydlynydd menter a chynnwys staff brwdfrydig
Elfennau cadarnhaol a heriau allweddol fel y’u nodwyd gan staff sy’n ymwneud â gweithredu’r rhaglen AEBSD