Ffocws yr ysgol: Cynyddu ymgysylltu’r rhieni a chydlyniant cymunedol
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae ysgolion y ffederasiwn ac Ysgol Bryn Gwalia yn gwasanaethu ardal yr Wyddgrug, Sir y Fflint ac yn ddiweddar maent wedi profi disgyblion yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol gyda’r nos, wedi’i waethygu drwy fod mewn ardal o amddifadedd cymdeithasol a gwledig. Croesawodd Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu lleol a Chynghorydd Tref lleol raglen
i ddisgyblion gael mynediad iddi gyda’r nos. Dim ond cyfran fechan o ddisgyblion yr ysgolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol oherwydd diffyg darpariaeth ac anallu i deithio. Roedd y ddarpariaeth a gynigiwyd gan yr ysgolion fel rheol yn cynnwys chwaraeon cystadleuol, ac oherwydd maint bach yr ysgolion, roeddent yn cael anhawster cynnal timau ac yn methu recriwtio merched i fynychu. Hefyd, byddai’n well gan y disgyblion ddarpariaeth chwaraeon anghystadleuol. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar bedwar maes cyffredinol i gefnogi creu hybiau cymunedol:
- Cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion bregus ac anabl i fynychu
- Costau staff gan gynnwys hyfforddiant
- Darparwyr darparu sesiynau
- Offer
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgolion gyllid rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Mawrth 2022, er i Ysgol Bryn Gwalia barhau tan fis Gorffennaf 2022. Amrywiodd y niferoedd oedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgolion, dros y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mawrth (106 o gyfranogwyr) a mis Mai (105 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Ebrill (26 o gyfranogwyr), a oedd yn sylweddol is na’r rhan fwyaf o fisoedd. Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau oedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel beiciau balans, pêl osgoi, hoci, dawnsio stryd, Ysgol y Goedwig, a sesiynau chwaraeon yr Urdd.
Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchu allweddol canlynol, a dogfennwyd gweithredu’r rhaglen gan yr ysgol yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 13.