Ffocws yr ysgol: Datblygu darpariaeth gynhwysol ar gyfer y gymuned LGBTQ+ a phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae Ysgol Dylan Thomas yn gwasanaethu Townhill, Abertawe (un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru) gyda 50.7% o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a 58.3% o blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bu’r ysgol yn llwyddiannus gyda buddsoddiad gan Chwaraeon Cymru / Cronfa Gydweithredol i gyllido ardal hyfforddi 3G newydd gyda llifoleuadau ar dir yr ysgol. Mae’r cyfleuster newydd eisoes o fudd i’r gymuned ehangach. Fodd bynnag, mae darpariaethau ychwanegol wedi’u nodi gan grwpiau defnyddwyr i wneud y defnydd gorau o gyfleusterau’r ysgol, fel mynediad i gyfleusterau newid dan do a defnydd o gyfleusterau dan do. Ymgynghorodd yr ysgol â chwe disgybl (rhai a nododd eu bod yn drawsryweddol) i ddylunio ystafelloedd newid newydd niwtral o ran rhywedd. Y bwriad oedd gwario’r cyllid AEBSD ar y tri maes cyffredinol canlynol er mwyn cynyddu cynnig yr ysgol i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol:
- Datblygu gofod newid niwtral o ran rhywedd yn yr ystafelloedd newid presennol
- Oriau ychwanegol ar gyfer cydlynydd chwaraeon ysgol
- Darparu offer chwaraeon dan do at ddefnydd ar ôl ysgol a’r gymuned (e.e. pecyn ffitrwydd, storfa)
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng misoedd Ionawr a Rhagfyr 2022. Oherwydd natur y cyllid a’r oedi wrth uwchraddio’r ystafelloedd newid, nid yw’r rhaglen wedi’i gweithredu eto fel y dymunir. O’r herwydd, mae’n bosibl y bydd y data presenoldeb, y cofnodion dysgu misol ac arolwg y disgyblion yn cael eu cwblhau yn nhymor yr Hydref.
Y camau nesaf – mis Medi 2022 ymlaen
Bydd monitro’r sesiynau yn parhau tan fis Rhagfyr 2022. Bydd effaith, os o gwbl, yr ystafell newid yng nghymuned yr ysgol yn cael ei hadrodd mewn adroddiad yn y dyfodol.