Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas wedi’i lleoli yn y Cocyd, Abertawe ac mae’n gwasanaethu ardaloedd y Cocyd a Townhill. Mae’r ysgol yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac ym mis Chwefror 2022, roedd ganddi’r bedwaredd ganran uchaf o ddisgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o blith holl ysgolion uwchradd Cymru.
Roedd cais llwyddiannus i Chwaraeon Cymru / y Gronfa Gydweithredol wedi arwain at ddatblygu ardal hyfforddi 3G newydd gyda llifoleuadau ar dir yr ysgol. Mae'r cyfleuster newydd hwn eisoes o fudd i'r gymuned ehangach. Fodd bynnag, nododd yr ysgol y byddai darpariaeth ychwanegol yn helpu grwpiau defnyddwyr i wneud y defnydd gorau posibl o gyfleusterau’r ysgol, fel mynediad i gyfleusterau newid dan do a’r defnydd o gyfleusterau dan do. Ymgynghorodd yr ysgol hefyd â chwe disgybl (unigolion a nododd eu bod yn anneuaidd) er mwyn dylunio ystafelloedd newid newydd niwtral o ran rhywedd. Gwariwyd cyllid AEBSD ar dri maes i gynyddu darpariaeth yr ysgol i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol:
- Adnewyddu ystafelloedd newid y merched sy'n ymwybodol o'u corff, gan ddarparu preifatrwydd, yn ogystal â datblygu mannau newid penodol ar gyfer disgyblion LGBTQ+;
- Oriau ychwanegol ar gyfer cydlynydd chwaraeon ysgol; a
- Darparu offer chwaraeon dan do at ddefnydd ar ôl ysgol a'r gymuned (e.e. pecyn ffitrwydd, storfa).
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022. Oherwydd oedi gyda’r gwaith o uwchraddio'r ystafelloedd newid, dim ond yn ddiweddar y cwblhawyd y cyfleusterau, ac er bod yr adborth cychwynnol yn gadarnhaol, nid yw unrhyw effaith tymor hwy y gwelliannau wedi dod i'r amlwg eto.
Pwysleisir yr angen am y buddsoddiad hwn, fodd bynnag, mewn adborth diweddar gan ddisgyblion yr ysgol. Mae'r ysgol hefyd yn rhan o gynllun peilot Grŵp Cyfranogiad Gorllewin Cymru sy'n cael ei weithredu mewn pedair ysgol wahanol. Mae Ysgol Dylan Thomas yn cael ei chefnogi gan dîm datblygu chwaraeon yr awdurdod lleol i weithio gyda grŵp o ferched Blwyddyn 9 sydd wedi ymddieithrio o Addysg Gorfforol. Maent yn cael eu cefnogi drwy ddull cyd-greu o ddatblygu’r ddarpariaeth gweithgarwch corfforol sy’n diwallu eu hanghenion, yn apelgar, ac yn eu helpu i drosglwyddo i weithgarwch cymunedol yn y tymor hir. Mae hyn wedi cynnwys nifer o sesiynau gwrando ar y grŵp o ddisgyblion a siarad am yr hyn sy'n eu hatal rhag cymryd rhan. Roedd y profiad o ddefnyddio ystafelloedd newid gwael a chael eu gweld gan eraill yn fater nodweddiadol a godwyd, ac yn ganfyddiad cyffredin ymhlith y disgyblion yn y tri grŵp ysgol peilot arall. Mae buddsoddiad AEBSD bellach wedi ychwanegu at ansawdd y cyfleusterau cyffredinol sydd ar gael i ddisgyblion a'r gymuned ac mae ganddo'r potensial i annog y disgyblion hynny sy'n ymwneud llai â chwaraeon ac AG i deimlo'n fwy cyfforddus yn yr amgylchedd hwnnw.
Canlyniadau
Y manteision i’r disgyblion:
Bu mwy o ffocws ar gynhwysiant drwy wella’r cyfleusterau a chefnogaeth gan dîm datblygu chwaraeon yr awdurdod lleol. Nododd y Pennaeth un canlyniad allweddol, sef datblygu ardal newid ar gyfer wyth neu naw o blant yr ysgol sy’n mynd drwy newidiadau hunaniaeth rhywedd. Cyn yr uwchraddio, roedd y disgyblion hyn wedi bod yn gorfod defnyddio toiled anabl er mwyn newid – a oedd mewn rhan wahanol o'r ysgol.
“Mae hynny wedi bod yn wych i nifer o blant... maen nhw’n teimlo’n fwy o ran o’r ysgol a’u bod yn cael eu derbyn.” (Pennaeth)
Rhoddodd y Pennaeth enghraifft benodol o ddisgybl gwrywaidd yr oedd yn well ganddo wisgo dillad, ategolion a chynhyrchion ‘benywaidd’. Teimlai’r unigolyn hwn ei fod yn cael ei eithrio yn ei ysgol flaenorol ac yn y diwedd bu’n rhaid iddo adael cyn dod i Ysgol Dylan Thomas, lle dywedwyd bod y disgybl yn llawer hapusach. Gwnaeth y Pennaeth sylw ar sut mae'r buddsoddiad yn golygu y gall y disgyblion hyn bellach deimlo'n rhan o gymuned yr ysgol a'u bod yn cael eu cefnogi yn hytrach na'u gwahanu oddi wrth eu cyfoedion. Mae lleoliad y cyfleuster newydd yn help ymarferol hefyd - mae'n haws i'r staff reoli'r trosglwyddo rhwng gwersi pan fydd y dosbarth cyfan yn gallu defnyddio'r un rhan o'r adeilad.
Manteision cymunedol
Er nad oedd unrhyw grwpiau newydd yn cael mynediad i'r adeilad adeg cynnal y cyfweliad, roedd tystiolaeth anecdotaidd yn dangos bod y clybiau hynny a oedd yn defnyddio'r ysgol yn cael profiad o ansawdd gwell. Cafwyd adborth ad hoc cadarnhaol gan ddefnyddwyr am y gwelliannau i’r ystafelloedd newid ac mae hyn yn awgrymu eu bod wedi gwella perthynas yr ysgol â’r gymuned.
Mae'r buddsoddiad wedi cefnogi defnydd cymunedol mwy cyson. Yn flaenorol, yn ystod misoedd y gaeaf, byddai clybiau a ddefnyddiai Ysgol Dylan Thomas i ddarparu rygbi, pêl droed a phêl fasged awyr agored fel arfer yn newid lleoliadau ac yn defnyddio cyfleusterau eraill oherwydd diffyg, neu ansawdd gwael, y mannau newid, ynghyd â diffyg llefydd i adael bagiau ac offer yn sych dan do. Eleni, mae clybiau wedi parhau â’u defnydd yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hyn yn cefnogi darpariaeth gydol y flwyddyn a llwybrau cynnydd hygyrch i ddisgyblion - gyda darpariaeth clwb ar garreg y drws yn hytrach na gorfod teithio i rywle arall. Mae grŵp pêl fasged anabledd yn defnyddio'r ysgol ar hyn o bryd. Mae'r ysgol hefyd yn sicrhau bod y neuadd ar gael i grwpiau cymunedol yn ystod tywydd gwael.
Y manteision i’r ysgol
Mantais arall i'r ysgol fu'r sgil-fanteision wrth wneud cais am arian ychwanegol. Disgrifiodd y Pennaeth, oherwydd bod yr ysgol yn gallu dangos ei bod wedi ceisio am, a derbyn, cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf a’i bod wedi mynd drwy broses drylwyr o archwilio logisteg a chostau, ei fod yn rhoi’r ysgol mewn sefyllfa barod i wneud cais pellach i’r ALl. Buont yn llwyddiannus wrth sicrhau buddsoddiad pellach ar gyfer ystafelloedd newid i ddynion – daeth llwyddiant un cais am arian â buddsoddiad ychwanegol fel rhan o gynllun ehangach i ddatblygu’r ysgol fel hwb cymunedol gyda chyfleusterau o safon. “Mae’r datblygiadau amrywiol wedi ategu ei gilydd.”
Mae cyllid AEBSD wedi helpu i greu mannau hygyrch diogel gyda mwy o oleuadau awyr agored o amgylch yr ysgol, gan leihau’r ardaloedd a’r gofod tywyll a allai fod wedi gwneud i ddisgyblion deimlo'n anniogel. Mae’r ysgol wedi nodi bod nifer fawr o bobl yn cysylltu i brydlesu’r ddau MGADd ar y safle, ond nid yw’r ysgol yn teimlo ei bod yn briodol cynhyrchu incwm o gyfleusterau sydd wedi’u cyllido i fynd i’r afael â mynediad a darpariaeth mewn ardaloedd lle mae rhwystrau’n atal cymryd rhan ar gyfer y disgyblion a’r gymuned leol (gan gynnwys cost).
Y camau nesaf
Mae’r ysgol yn awyddus i wneud mwy i ddatblygu defnydd cymunedol, gan gynnwys datblygu llenyddiaeth a hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol i geisio denu gwahanol grwpiau. Gallai hyn gynnwys mwy o ddefnydd o’r cyfleusterau dan do a neuadd chwaraeon yr ysgol. Y rhwystr yw'r amser i ddatblygu'r llenyddiaeth a hysbysebu ac i baratoi'r deunyddiau, ond mae’r ysgol yn trafod hyn gyda thîm datblygu chwaraeon yr ALl. “Os gallwn ni wneud hynny, bydd yn helpu i ehangu’r cynnig y gallwn ei ddarparu.” Mae uchelgeisiau tymor hwy i wneud gwelliannau pellach drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau a chymorth i ddatblygu darpariaeth, gan gynnwys cae maint llawn i gefnogi’r cynnig i oedolion yn y gymuned. Dyma un o’r nodau y mae’r ysgol eisiau ei archwilio, yn enwedig gan nad oes cyfleuster maint llawn arall gerllaw.
Roedd y Pennaeth yn cytuno’n gryf â’r datganiadau canlynol:
- Mae rhieni ein myfyrwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y peilot;
- Mae llywodraethwyr yr ysgol yn ymwybodol o'r rhaglen ac yn hapus gyda'r modd y mae wedi'i chyflwyno;
- Mae’r cynllun peilot wedi gwella perthynas yr ysgol â’r gymuned ehangach;
- Mae'r ysgol wedi sicrhau mwy o ymgysylltu â'r gymuned ehangach ers i'r cynllun peilot ddechrau;
- Mae clybiau a grwpiau cymunedol lleol wedi cysylltu â'r ysgol drwy'r cynllun peilot;
- Mae'r awdurdod lleol wedi cynorthwyo i roi'r cynllun peilot ar waith.
“Mae wedi bod yn welliant gwirioneddol i'r hyn y mae'r ysgol yn ei ddarparu i'w disgyblion yn ogystal â'r gymuned...ni fyddai nifer fawr o’r plant sy'n cymryd rhan yn y clybiau wedi gwneud hynny o'r blaen...mae wedi caniatáu i ni sicrhau bod ein hethos ni o fod yn ysgol gynhwysol yn cael ei byw a'i hanadlu.”