Ffocws yr ysgol: datblygu’r ysgol fel hwb cymunedol a darparwr offer ffitrwydd awyr agored.
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae ysgol gynradd deighton yn gwasanaethu cymuned tredegar, blaenau gwent. Gyda bron i hanner y disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (45.2%), byddai’n awgrymu y byddai darpariaeth leol o fudd i ddisgyblion yr ardal. Nododd yr ysgol bod diffyg mannau awyr agored addas a diogel ar gyfer plant a phobl ifanc a cheisiodd yr ysgol neilltuo buddsoddiad y rhaglen i alluogi tiroedd yr ysgol i weithredu fel hwb cymunedol. Cynlluniwyd gan yr ysgol, pe bai’r tywydd yn atal y defnydd o’r awyr agored, y gellid defnyddio neuadd yr ysgol. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar dri maes cyffredinol i gefnogi creu hwb cymunedol:
- Ychwanegu oriau ychwanegol gyda thâl ar gyfer y gofalwr a’r glanhawyr i sicrhau bod amgylchedd glân a diogel yn cael ei ddarparu gyda’r nos, yn ogystal â’r diwrnod wedyn ar gyfer yr ysgol.
- Prynu offer ffitrwydd awyr agored ac offer cysylltiedig (e.e. llifoleuadau)
- Darparwyr allanol i gyflwyno sesiynau
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng misoedd Chwefror ac Awst 2022. Gwelwyd y cynnydd yn y niferoedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, yn lleihau dros y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Chwefror (34 o gyfranogwyr), ac wedyn mis Ebrill (24 o gyfranogwyr), a’r presenoldeb lleiaf ym mis Mehefin (8 o gyfranogwyr). Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau roedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel Taekwondo, dawns, beiciau balans, Fit and Fed yn ystod y gwyliau, a gemau torfol dan arweiniad y cyfranogwyr.
Drwy gwblhau’r cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchol allweddol canlynol, a chofnodwyd gweithredu’r ysgol ar y rhaglen yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur
Beth weithiodd yn dda:
- Ymgynghori parhaus wedi dylanwadu ar y ddarpariaeth
- Roedd gweithgarwch cyfranogiad torfol yn ystod y gwyliau a defnyddio darparwyr allanol i gyflwyno gweithgareddau newydd yn boblogaidd iawn
- Mynychodd plant a phobl ifanc o gymuned ynysig
- Cyfeirio at gynigion cymunedol
- Roedd staff o’r farn bod lefelau gweithgarwch corfforol y disgyblion wedi cynyddu
Pwyntiau dysgu
- Gwella cyfathrebu - caniatáu mwy o amser i hyrwyddo gweithgareddau newydd a hysbysu teuluoedd mewn ysgolion cyfagos
Y Camau Nesaf
- Edrych ar leihau costau i gefnogi teuluoedd mewn cymunedau difreintiedig
- Ystyried partneriaethau gydag asiantaethau chwarae ac asiantaethau eraill i ddatblygu darpariaeth bellach dros y gwyliau