Ffocws yr ysgol: Creu darpariaeth awyr agored drwy ddatblygu meithrin tîm
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae Ysgol Sant Anthony, sy’n ysgol gynradd mewn ardal o amddifadedd cymdeithasol yn Saltney, Sir y Fflint, mewn lleoliad da yn y gymuned gan fod y disgyblion yn byw yn agos a gallant gerdded yn hawdd (neu ddefnyddio dulliau teithio llesol) i fynychu gweithgareddau yn yr ysgol. Yn anffodus, ychydig o ddyhead sydd wedi bod am y gweithgareddau a oedd yn bodoli eisoes. Er mwyn cefnogi’r disgyblion i gymryd rhan yn y ddarpariaeth o weithgarwch corfforol, roedd
yr ysgol yn bwriadu cynnal darpariaeth chwaraeon dri diwrnod yr wythnos a chynnal sesiynau yn ystod y gwyliau ac un diwrnod y mis ar benwythnosau. Roedd y sesiynau i fod yn agored i’r gymuned ehangach – yn benodol, rhieni a brodyr a chwiorydd disgyblion i annog cyfranogiad teuluoedd. Roeddent hefyd yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg yn achlysurol. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar dri maes cyffredinol i gefnogi creu hwb cymunedol:
- Cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion bregus (31.5% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim)
- Costau staff
- Darparwyr darparu sesiynau
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid o fis Chwefror i fis Rhagfyr 2022. Roedd y niferoedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, yn dangos bod y presenoldeb yn amrywio dros y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mai (82 o gyfranogwyr) a mis Mehefin (69 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Ebrill (32 o gyfranogwyr), a oedd yn sylweddol is na’r rhan fwyaf o fisoedd. Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau yr oedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel gweithgareddau a gynigiwyd gan Planetree Adventure a Taekwondo.
Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchu allweddol canlynol, a dogfennwyd gweithredu’r rhaglen gan yr ysgol yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 11.
Beth weithiodd yn dda:
- Er ei bod yn ysgol fach (75 o ddisgyblion), roedd y ddau glwb yn cael eu cynnal am ddwy awr yr wythnos ar ôl ysgol ac roedd nifer dda yn eu mynychu
- Mwynhaodd y disgyblion y sesiynau yn fawr ac roeddent yn hwb i’r ysgol
- Dechreuodd y disgyblion a fynychodd y Taekwondo fynychu clwb lleol, rhai gyda’u rhieni
Pwyntiau dysgu:
- Wrth symud ymlaen, bydd Taekwondo yn cael ei gyflwyno am awr yr wythnos gyda phwyslais ar y plant iau gan fod y gweithgaredd wedi bod yn fwy poblogaidd gyda’r grŵp oedran hwn