Ffocws yr ysgol: Datblygu cyfleoedd allgyrsiol drwy uwchsgilio staff yr ysgol, yn enwedig cynorthwywyr cymorth dysgu.
Trosolwg mynegi diddordeb
Mae gan Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, sydd wedi’i lleoli yn Johnston, Sir Benfro, ganran uchel o blant ag anghenion addysgol arbennig (36% o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 6%). Ceisiodd yr ysgol ddod yn lleoliad actif drwy ymdrechu i sicrhau bod pob disgybl yn mynychu o leiaf dau glwb allgyrsiol yr wythnos. Roedd y ddarpariaeth i fod yn gynhwysol i bob disgybl (e.e. defnyddwyr cadeiriau olwyn, plant ag awtistiaeth). Y bwriad oedd i’r cyllid AEBSD gael ei wario ar y tri maes cyffredinol canlynol i gefnogi cynyddu cynnig yr ysgol i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol:
- Offer chwaraeon
- Amser rheolwr safle
- Darpariaethau hyfforddi
Gweithredu’r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Gorffennaf 2022. Roedd y niferoedd oedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, yn amrywio ar draws y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Mawrth (681 o gyfranogwyr) a mis Mai (577 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Ebrill (147 o gyfranogwyr). Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau roedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig fel pêl fasged, pêl rwyd, pêl droed, rygbi, chwaraeon raced, criced a rownderi.
Drwy gwblhau cofnodion dysgu yn fisol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchu allweddol canlynol, a dogfennwyd gweithredu’r ysgol ar y rhaglen yn y llinell amser a ddangosir yn Ffigur 4.
Beth weithiodd yn dda:
- Lefelau uchel o gyfranogiad a galw yn y sesiynau
- Cynnydd yn yr amser a dreuliodd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau
- Cefnogaeth gan rieni a chefnogaeth weithredol gan yr uwch dîm arwain
- Rhai gwelliannau mewn presenoldeb a gwelliannau wedi’u harsylwi yn ymddygiad y disgyblion
- Presenoldeb cadarnhaol gan ddisgyblion y Ganolfan Adnoddau Dysgu a fynychodd gyda chefnogaeth staff ychwanegol
Pwyntiau dysgu:
- Roedd yn anos darparu clybiau ar gyfer disgyblion iau gan fod angen cymarebau staff uwch
- Weithiau’n anodd i ddisgyblion bregus fynychu darpariaeth gwyliau oherwydd diffyg cludiant
- Nid oedd angen cyfleuster yr ysgol ar glybiau cymunedol ac nid oes gan eu gwirfoddolwyr gapasiti i gynnig mewnbwn ychwanegol mewn clybiau ysgol
- Roedd clwb rhedeg i rieni a phlant yn llai poblogaidd na’r cynigion eraill
Y camau nesaf:
- Defnyddiwyd yr arian grant oedd yn weddill ar gyfer gwersyll bwyd a ffitrwydd, a oedd yn weithredol am wythnos yn ystod gwyliau haf 2022