Ffocws yr ysgol: Cefnogi’r cymunedau Roma drwy ddarpariaeth gymunedol mewn ardal o lefel uchel o amddifadedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Trosolwg mynegi diddordeb
Mewn ardal o amddifadedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol helaeth a gyda 79.2% o ddisgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol, mae gan Ysgol Gynradd Maendy, Casnewydd, enw da yn y gymuned fel amgylchedd diogel y gellir ymddiried ynddo. Mewn ymgynghoriad â phartneriaid cymunedol, nododd yr ysgol yr angen am ddarparu gofod diogel yn yr awyr agored gydag wynebau diogel i gefnogi’r plant o’r ysgol a’r gymuned ehangach. Drwy’r rhaglen, roedd yr ysgol yn gobeithio meithrin cydlyniant cymunedol; mae hon yn weledigaeth a rennir rhwng grŵp o bobl, ynghyd ag ymdeimlad o berthyn i’w gilydd. Y bwriad oedd i’r cyllid gael ei wario ar dri maes cyffredinol i gefnogi creu canolbwynt cymunedol:
- Offer seilwaith (e.e.cynwysyddion storio, llifoleuadau cludadwy)
- Offer chwaraeon (e.e. pyst pêl droed a phêl fasged, menig bocsio, rhaffau sgipio)
- Costau staff(e.e.gofalwr a staff ysgol)
Gweithredu'r rhaglen
Derbyniodd yr ysgol gyllid o fis Chwefror i fis Gorffennaf 2022. Roedd y niferoedd yn bresennol, a gofnodwyd gan yr ysgol, yn sefydlog dros y misoedd, gyda’r presenoldeb mwyaf ym mis Ebrill (335 o gyfranogwyr) a mis Mai (302 o gyfranogwyr). Roedd y presenoldeb lleiaf ym mis Mawrth (97 o gyfranogwyr), pan ddechreuodd y sesiynau, a oedd yn sylweddol is na’r rhan fwyaf o’r misoedd. Mae hyn felly’n awgrymu bod y presenoldeb wedi cynyddu ar ôl i wybodaeth am y sesiynau gael ei dosbarthu. Roedd y cofnodion dysgu misol yn rhestru’r gweithgareddau yr oedd yr ysgol wedi bod yn eu cynnig, fel sesiynau Dydd Mercher Drwg, bocsio, dawns, bwrdd pŵl, a sesiynau harddwch.
Drwy gwblhau cofnodion dysgu misol, tynnwyd sylw at y pwyntiau adlewyrchu allweddol canlynol, a dogfennwyd gweithredu’r rhaglen gan yr ysgol yn yr amserlen a ddangosir yn Ffigur 5.
Beth weithiodd yn dda
- Dod â phartneriaid at ei gilydd ac atgoffa aelodau’r gymuned o amseroedd y sesiynau
- Dathlu ac annog arweinwyr ifanc a gwirfoddolwyr
- Mentoriaid yn siarad â phobl ifanc mewn gwahanol grwpiau i ddatrys tensiynau cymunedol, gan gefnogi cydlyniant cymunedol
Pwyntiau Dysgu
- Sicrhau bod yr holl bartneriaid yn ymwybodol o’u swyddogaethau a’u cyfrifoldebau
- Sgwrs reolaidd am y gweithgareddau yr hoffai’r bobl ifanc roi cynnig arnyn nhw i sicrhau bod y prosiect yn cael ei arwain gan bobl ifanc
Y camau nesaf
- Nodi cyllid i barhau i weithio gyda darparwyr dawns, gan fod dawns wedi bod yn ddarpariaeth chwaraeon mae llawer o’r merched ifanc ei heisiau